Cyfarfod y Cabinet: 15 Rhagfyr 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 15 Rhagfyr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Julie James AS
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 8 Rhagfyr 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Trais yn nigwyddiad Hanukkah yn Sydney, Awstralia
2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog ar gofnod bod ei meddyliau hi, a meddyliau Aelodau'r Cabinet, gyda phawb yr effeithiwyd arnynt gan y trais yn nigwyddiad Hanukkah, Chanukah by the Sea, yn Sydney ddydd Sul. Ni ellid byth cyfiawnhau gweithredoedd casineb a therfysgaeth o'r fath.
2.2 Roedd ymrwymiad y Llywodraeth i'r gymuned Iddewig a cydlyniant cymunedol yng Nghymru yn ddiwyro. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi siarad ag arweinwyr y gymuned Iddewig yn ddiweddar, ac roedd Gweinidogion Cymru yn parhau i ymgysylltu'n weithredol ag arweinwyr ffydd drwy'r Fforwm Cymunedau Ffydd.
2.3 Nodwyd bod dau ddyn wedi ymddangos yn y llys yn ddiweddar wedi'u cyhuddo o gynllunio ymosodiadau terfysgol yn erbyn targedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghaerdydd.
Bargen Gyllideb 2026-2027
2.4 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y fargen ddiweddar gyda Phlaid Cymru i sicrhau cytundeb ar Gyllideb 2026-2027.
Rhybuddion tywydd
2.5 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod nifer o rybuddion tywydd ynghylch glaw a llifogydd posibl wedi cael eu cyhoeddi'r diwrnod hwnnw ac i mewn i ddydd Mawrth, a'i bod yn debygol y byddai digwyddiadau tebyg yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Papur y Cabinet a Chanllawiau i Staff ar Ymddygiad yn ystod y Cyfnod cyn Etholiadau'r Senedd 2026
2.6 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai papur ar Ymddygiad Gweinidogion a Staff yn ystod y cyfnod cyn Etholiadau'r Senedd 2026 yn cael ei gylchredeg mewn gohebiaeth, i'w ystyried yn ystod y toriad. Y nod oedd cyhoeddi'r canllawiau yn y Flwyddyn Newydd
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:10pm ddydd Mawrth a thua 6:30pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Diweddariad Llafar – Trafodaethau ar y Gyllideb Ddrafft
4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ddiweddariad i'r Cabinet ar y Trafodaethau ar y Gyllideb Ddrafft yn dilyn y cytundeb gyda Phlaid Cymru.
4.2 Roedd dyrannu'r symiau cyfalaf ac adnoddau sy'n weddill yn cael eu cwblhau gyda'r nod y byddai'r Cabinet yn ystyried pecyn y Gyllideb Derfynol yn yr wythnos gyntaf ar ôl y toriad.
4.3 Nododd y Cabinet y diweddariad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2025
