Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd
  • Fliss Bennee, Cydgadeirydd TAC
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn wedi COVID-19
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Uwch-gyfreithiwr
  • Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys
  • Matt Wellington, Pennaeth Polisi a Chyflawni'r Gyllideb

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 8 Tachwedd.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Nododd y Cabinet y bu newidiadau i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos honno. Gohiriwyd y datganiadau ar Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd a'r Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg, gan fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn sâl. Roedd disgwyl yn awr i'r busnes ddydd Mawrth orffen tua 6:25pm ac roedd amser pleidleisio ddydd Mercher wedi’i drefnu ar gyfer 6:10pm.

Eitem 3: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 18 Tachwedd 2021

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn ceisio arweiniad ar gyfnod adolygu presennol Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5).

3.2 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

3.3 Roedd y papur yn amlinellu bod achosion cyffredinol o COVID-19 wedi gostwng ers yr adolygiad diwethaf a bod y cyfartaledd saith diwrnod tua 490 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth, gyda chyfradd positifedd profion yn 19.5% a'r gyfradd R yn 0.92.

3.4 Roedd pwysau COVID-19 ar y GIG wedi sefydlogi. Roedd 805 o achosion tybiedig mewn gwelyau ysbyty, ac roedd 550 ohonynt wedi'u cadarnhau. Roedd 73 o gleifion â COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd yn yr Uned Gofal Dwys, a oedd 91 yn is na'r nifer uchaf erioed o 164 yn ystod anterth y pandemig.

3.5 O ystyried pwysau cyffredinol y gaeaf, ochr yn ochr â'r tebygolrwydd y byddai adnoddau a feirysau anadlol eraill unwaith eto'n cyflwyno heriau gweithredol sylweddol i'r GIG, cadarnhaodd y Cabinet yr amcanion a'r egwyddorion ar gyfer y mesurau diogelwch coronafeirws penodol er mwyn sicrhau bod y gofynion cyfreithiol yn parhau'n briodol.

3.6 Yr amcan oedd cadw achosion ar lefelau y gellir eu rheoli a pheidio â gorlethu'r GIG. Wrth wneud hynny, byddai’r Gweinidogion yn cydbwyso'r pum niwed, gan gynnwys yr effaith ar yr economi, cymdeithas, llesiant ac iechyd meddwl, ynghyd â COVID hir. Dylai rôl mesurau diogelwch llym, megis cyfyngiadau cyfreithiol ar gwrdd ag eraill, cyswllt cymdeithasol a chau sectorau cyfan, barhau i fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â phwysau COVID-19 ar y GIG ac nid yn rhan o'r pecyn cymorth iechyd y cyhoedd arferol.

3.7 Gan fod achosion o COVID-19 wedi gostwng ledled Cymru, a bod y pwysau penodol ar y GIG ar gyfraddau is na thonnau blaenorol, cytunodd y Cabinet y dylid cadw’r gofynion Lefel Rhybudd 0 presennol. Cytunodd y Gweinidogion hefyd na ddylid ehangu'r pàs COVID i’r sector lletygarwch yn yr adolygiad hwn. Fodd bynnag, byddai angen ystyried hyn ymhellach fel rhan o'r ymarfer cynllunio senarios.

3.8 Cydnabuwyd y byddai angen ailedrych ar y cwestiwn o gynnwys pobl ifanc 16-17 oed heb eu brechu yn y gofynion hunanynysu, ar ôl i bob un ohonynt gael cynnig ail ddos.

3.9 Cymeradwyodd y Cabinet y tri argymhelliad yn y papur.

Eitem 4: Cyllideb Llywodraeth Cymru: dyraniadau a'r camau nesaf

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r dull a’r dyraniadau arfaethedig ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2022-23. Roedd yn cynnwys cynlluniau gwariant tair blynedd, gan adlewyrchu canlyniad adolygiad cynhwysfawr Llywodraeth y DU o wariant.

4.2 Roedd y Cabinet yn ymwybodol o'r setliad heriol a methiant Llywodraeth y DU i gydnabod ei chyfrifoldebau wrth barchu datganoli. Bu diffyg cyllid ar gyfer tomenni glo a chanlyniad anfoddhaol o ran talu costau seilwaith ffiniau. Ochr yn ochr â hyn roedd goblygiadau dyraniadau cyllid yr agenda ‘codi’r gwastad’ yn diystyru Gweinidogion Cymru.

4.3 Felly, roedd y Llywodraeth yn wynebu rhai penderfyniadau anodd. Roedd llai o gyllid yn gyffredinol ac roedd y proffil dechrau dwys yn golygu, er y gellid gwneud dyraniadau sylweddol ym mlwyddyn 1, byddai blynyddoedd dilynol cyfnod yr adolygiad o wariant yn gweld adnoddau'n lleihau'n sylweddol, gan arwain at heriau o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus. Roedd y setliad cyfalaf anodd yn cynyddu’r heriau o adfer ar ôl y pandemig a chyrraedd Sero Net.

4.4 Byddai'r Gyllideb yn helpu i ddiogelu cyllid y GIG, i gynnwys costau COVID-19 gyda chyllid penodol wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl. Yn ogystal â hyn, byddai cymorth ychwanegol i Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Leol yn cael ei ddarparu, gyda chyllid penodol ar gyfer gofal cymdeithasol, gan gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i ddiogelu'r gwasanaethau hyn.

4.5 Croesawodd y Cabinet y dyraniadau i fodloni'r ymrwymiadau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd, yn benodol iechyd meddwl, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol.

4.6 Cytunodd y Gweinidogion y byddai angen i swyddogion ddatblygu naratif cryf i gefnogi setliad y Gyllideb, a oedd yn dangos yn glir y byddai gan benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i danariannu Llywodraeth Cymru oblygiadau sylweddol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.

4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.