Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS (eitemau 1-3)
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS (eitemau 1-3)
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig 
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Helen Arthur, Cyfarwyddwr Gweithlu a Busnes Corfforaethol y GIG (eitem 3)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Ionawr.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod datganiad pellach wedi cael ei ychwanegu at yr agenda ar gyfer dydd Mawrth, ac y byddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am ei chyfarfod diweddar ag Undebau Llafur y GIG. Er mwyn hwyluso hynny, roedd y datganiad ar Wcráin wedi cael ei ohirio am wythnos. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7.15pm ddydd Mawrth, ac roedd disgwyl y byddai amser pleidleisio tua 6:25 ddydd Mercher.

Eitem 3: Gweithredu diwydiannol - Iechyd ac Addysg – diweddariadau llafar

3.1 Soniodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Cabinet am ei chyfarfod diweddar ag Undebau Llafur y GIG i drafod cyflogau gweithwyr iechyd a’r gweithredu diwydiannol parhaus.

3.2 Rhoddodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ddiweddariad i’r Cabinet am y pleidleisiau diweddar ynglŷn â gweithredu diwydiannol a gynhaliwyd yn y proffesiwn addysgu.

Eitem 4: Unrhyw fater arall

Diweddariad ar y llifogydd diweddar

4.1 Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Cabinet bod y glaw trwm parhaus yr wythnos flaenorol wedi achosi cynnydd mewn dŵr wyneb yn ogystal â lefelau uchel iawn mewn afonydd, gan arwain at 50 o rybuddion llifogydd a 95 o rybuddion ar draws Cymru. Canlyniad hyn oedd bod 82 o eiddo ar draws deg o ardaloedd awdurdod lleol wedi dioddef llifogydd, ochr yn ochr â niwed i seilwaith.

4.2 Roedd 14 o rybuddion, ac un rhybudd lifogydd ar afon Gwy, yn dal mewn grym. Roedd y perygl o weld mwy o lifogydd yn lleihau, ond roedd hyn wedi cael ei ddisodli gan rybuddion tywydd melyn ar gyfer eira a rhew, a rhagwelwyd y byddai stormydd gaeaf mewn llawer o rannau yng Nghymru.

4.3 Dywedwyd bod Awdurdodau Lleol yn parhau i archwilio tomenni glo er mwyn gweld a oeddent yn symud yn sgil y glaw trwm diweddar.

4.4 Cofnododd y Cabinet ei ddiolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at yr ymateb i’r llifogydd diweddar.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2023