Cyfarfod y Cabinet: 16 Mehefin 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 16 Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Rebecca Evans AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Julia David, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O’Neil, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Bethan Davies, Swyddfa’r Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, y Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
- Phil Elkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol (eitem 4)
- Sarah Govier, Pennaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol Trysorlys Cymru (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Mehefin 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU
2.1 Nododd y Prif Weinidog fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Adolygiad Gwariant y dydd Mercher blaenorol ac y byddai eitem sylweddol ynglŷn â’r canlyniad yn ddiweddarach yn y cyfarfod.
Cyfarfodydd yn Llundain
2.2 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Cabinet ei bod wedi cynnal, ar y cyd â Llysgennad Japan, dderbyniad canol-blwyddyn yn Llundain ddydd Mercher yr wythnos flaenorol yn rhan o’r ymgyrch Cymru a Japan 2025.
2.3 Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, cymerodd y Prif Weinidog ran mewn nifer o gyfweliadau â’r cyfryngau gan ymateb i ganlyniad Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU. Ymunodd y Prif Weinidog hefyd â thrafodaeth y panel ar Newsnight ar BBC2.
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
2.4 Ddydd Iau a dydd Gwener, mynychodd y Prif Weinidog 43ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gynhaliwyd gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Canolbwyntiodd yr Uwchgynhadledd ar rôl deallusrwydd artiffisial ym maes Diwygio a Thrawsnewid a’i ddefnydd yn y sector cyhoeddus.
2.5 Yn ystod yr Uwchgynhadledd, cynhaliodd y Prif Weinidog gyfarfodydd dwyochrog â Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, Prif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, ynghyd â Phrif Weinidog Guernsey, a fyddai’n rhoi gorau i’w swydd ar adeg yr etholiadau ar 18 Mehefin.
2.6 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am glefyd y Tafod Glas a Rheoliadau Nwyddau Manwerthu 2025.
Y diweddaraf am glefyd y Tafod Glas
2.7 O ran clefyd y Tafod Glas, yn dilyn y diweddariad blaenorol a roddwyd i’r Cabinet gan y Dirprwy Brif Weinidog ar 2 Mehefin, cynhaliodd gyfarfod bord gron ag uwch gynrychiolwyr o’r sector da byw a’r sector milfeddygol. Ystyriodd y Dirprwy Brif Weinidog y safbwyntiau hynny’n ofalus a daeth i’r casgliad, gan ystyried yr effaith economaidd bosibl a’r materion o ran llesiant ar y gymuned ffermio, y byddai’n ceisio atal y clefyd rhag dod i mewn i Gymru cyn hired â phosibl.
2.8 Felly, o 20 Mehefin ymlaen, ac yn unol â’r asesiadau risg diweddaraf, byddai da byw yn cael symud o’r parth dan gyfyngiadau presennol yn Lloegr i fyw yng Nghymru, yn amodol bod ganddynt y drwydded angenrheidiol a phrawf cyn symud negatif. Byddai hyn yn caniatáu i ffermwyr ddod o hyd i anifeiliaid sy’n hanfodol i fusnes fel buchesi a diadellau cadw.
2.9 Yn ogystal, byddai trefniadau ar waith i ganiatáu i dda byw symud i sioeau ac arwerthiannau ac oddi wrthynt yn y parth dan gyfyngiadau presennol o 20 Mehefin ymlaen, yn amodol ar drwyddedau a naill ai profion cyn symud neu ar ôl symud. Byddai’r polisïau hyn yn parhau i fod yn gymwys ar ôl 1 Gorffennaf, pan fydd y parth dan gyfyngiadau yn dod i rym ledled Lloegr. Yn y cyfamser, byddai hyrwyddo’r brechlyn yn flaenoriaeth.
2.10 Cydnabuwyd y byddai’r mesurau rheoli yn heriol i fusnesau, gan gynnwys marchnadoedd da byw a lladd-dai, ond nodwyd bod y Llywodraeth yn ymateb yn gymesur ac yn bragmatig i’r risgiau ansicr sy’n gysylltiedig â’r clefyd. Byddai’r polisïau’n cael eu hadolygu a’u haddasu yn sgil unrhyw newidiadau i amgylchiadau. Byddai’r Cabinet yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.
Rheoliadau Nwyddau Manwerthu 2025
2.11 Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ei fod wedi rhoi cydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wneud Rheoliadau Marcio Nwyddau Manwerthu 2025 a’u gosod. Mae’r Rheoliadau yn gymwys i Gymru, Lloegr a’r Alban ac maent yn darparu pŵer wrth gefn i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno labelu ‘nid ar gyfer yr UE’ ar gyfer cynhyrchion bwyd penodol ym Mhrydain Fawr. Byddai hyn yn cael ei ddeddfu pe bai cyflenwad rhai nwyddau manwerthu mewn perygl a bod angen ymyrraeth i ddiogelu’r cyflenwad bwyd i Ogledd Iwerddon.
2.12 Byddai’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban cyn penderfynu bod angen labelu, a chyhoeddi hysbysiad i’r perwyl hwnnw.
2.13 Roedd y Dirprwy Brif Weinidog wedi cael sicrwydd gan Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon mai dim ond pe bai ymgynghori â’r diwydiant yn methu â gwella’r cyflenwad y byddai’r pwerau yn cael eu gweithredu, fel dewis olaf.
2.14 Eglurwyd hefyd mai dim ond hyd nes y bydd cytundeb iechydol a ffytoiechydol rhwng Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd y byddent yn cael eu gweithredu.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 6:05pm ddydd Mawrth a thua 7pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Canlyniad Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU
4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi canlyniad Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd y dydd Mercher blaenorol, a’r goblygiadau i Gymru a Chyllideb Llywodraeth Cymru. Roedd yn amlinellu cyllidebau adnoddau ar gyfer y tair blynedd nesaf a chyllidebau cyfalaf ar gyfer y pedair blynedd nesaf.
4.2 Byddai cyllidebau adnoddau adrannol Whitehall yn cynyddu 1.2% mewn termau real, ar gyfartaledd, ar draws cyfnod yr Adolygiad Gwariant. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn unffurf, gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael 2.8% y flwyddyn ar gyfartaledd, yr Adran Addysg yn cael 0.7% y flwyddyn, ac Adrannau eraill yn cael tua 0.1% ar gyfartaledd.
4.3 Byddai setliad Llywodraeth Cymru yn cynyddu 1% ar gyfer adnoddau mewn termau real, gyda chynnydd cyfalaf cyffredinol o 1.8% bob blwyddyn. Roedd hyn yn gyfanswm o gyllid adnoddau a chyllid cyfalaf ychwanegol gwerth £5bn dros gyfnod yr adolygiad gwariant, gyda £1bn yn 2026-27, £1.6bn yn 2027-28 a £2.4bn yn 2028-29, o gymharu â’r llinell sylfaen uwch yn 2025-26. Byddai’r sefyllfa o ran adnoddau yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond byddai cyllid cyfalaf yn cael ei flaenlwytho. Nid oedd unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud am well hyblygrwydd cyllidebol, a byddai swyddogion yn parhau i bwyso ar Drysorlys y DU ynghylch hyn.
4.4 Byddai £4m ychwanegol hefyd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, ond cadarnhawyd bod y bwlch parhaol mewn cyllid gwerth £72m o ran cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr y sector cyhoeddus yn rhan o’r cyhoeddiad.
4.5 Cafwyd rhai dyraniadau penodol i Gymru hefyd, sef £118m dros dair blynedd ar gyfer Diogelwch Tomenni Glo yn ogystal â £445m ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd. Nid oedd y rhan helaeth o’r cyllid rheilffyrdd i Gymru wedi’i ddatganoli a byddai’n cael ei ddarparu drwy Network Rail. Roedd rhywfaint o ansicrwydd hefyd ynghylch a oedd yr amlen ariannu gyfan wedi'i fwriadu ar gyfer cynlluniau newydd.
4.6 Roedd y cyhoeddiadau gwariant eraill sy’n effeithio ar Gymru yn cynnwys y Gronfa Twf Lleol, lle byddai cyllid gwerth £633m dros dair blynedd, a oedd yn cadw cyfran gwerth 22.5% i Gymru o gyfanswm cyllid y DU. Mae trefniadau llywodraethu manwl yn parhau i gael eu trafod gyda llywodraeth y DU.
4.7 Cadarnhawyd cyllid i alluogi Porthladd Port Talbot i hybu ynni gwynt ar y môr, a phecyn cyllid ymchwil a datblygu ledled y DU i ddatblygu clystyrau arloesi, gydag un wedi’i leoli yng Nghymru. Byddai’r ddwy Lywodraeth yn gweithio i sefydlu Bargen Twf Amddiffyn yng Nghymru ac mae’n bosibl y bydd buddion o’r cyhoeddiad ynghylch yr Adweithydd Modiwlar Bach, gyda Rolls Royce fel y cynigydd a ffefrir.
4.8 Croesawodd y Cabinet y papur a’r buddsoddiad ychwanegol i Gymru.
4.9 Nododd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Unrhyw faterion eraill
Trychineb Awyr India
5.1 Ailadroddodd y Prif Weinidog ei bod yn drist iawn o glywed am y ddamwain awyr drasig yn India ddydd Iau, a diolchodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip am gynrychioli’r Llywodraeth yn ystod y gweddïau dros y dioddefwyr a gynhaliwyd ddydd Sadwrn yng Nghanolfan India yng Nghaerdydd.
Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
5.2 Nododd y Cabinet y cynnydd diweddar yn y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol a chydnabuwyd y byddai angen monitro’r goblygiadau dyngarol a’r goblygiadau economaidd-gymdeithasol.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2025
