Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet  (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Fliss Bennee,  Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr y Rhaglen Cyflawni ar gyfer y GIG
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys
  • Neil Buffin Uwch Gyfreithiwr
  • Terry Kowall, Uwch-gwnsler Deddfwriaethol

Eitem 1: Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 16 Rhagfyr 2021

9am 

1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet ystyried a oedd angen unrhyw newidiadau i’r mesurau diogelu presennol ar gyfer brwydro yn erbyn y coronafeirws, ac yn benodol yr amrywiolyn newydd, Omicron.

1.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd cyhoeddus i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

1.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i roi trosolwg o’r sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol.

1.4 Roedd y don Delta yn parhau’n sefydlog, gyda’r gyfradd heintio gyfartalog saith diwrnod yn parhau i fod oddeutu 500 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth. Roedd y sefydlogrwydd hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn nifer y bobl dros 60 oed a oedd yn dal y feirws.

1.5 Fodd bynnag, roedd nifer yr achosion o Omicron yn codi’n gyflym ar draws y DU, yn enwedig yng Nglasgow, Llundain a Manceinion. Roedd nifer yr achosion yn codi yng Nghymru hefyd. Gan fod y cyfraddau heintio’n dyblu mewn llai na thri diwrnod, byddem yn siŵr o weld cynnydd sylweddol cyn bod hir. Roedd disgwyl i’r don bresennol barhau tan fis Mawrth 2022.

1.6 Roedd adroddiadau bod y symptomau’n llai difrifol, ond gan fod disgwyl i nifer mawr o bobl gael eu heintio, byddai pwysau sylweddol ar y GIG.

1.7 Dywedodd Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol wrth y Cabinet fod trywydd heintio presennol Omicron yn golygu bod yr haint yn lledu’n gyflym a bod lefelau’r haint yn uchel. Y disgwyl oedd y byddai’n cyrraedd ei frig yn y drydedd neu’r bedwaredd wythnos ym mis Ionawr. Erbyn hynny, byddai nifer sylweddol o bobl wedi cael eu heintio gan y feirws. Roedd cyfnod magu'r haint yn parhau i fod rhwng pedwar a phum diwrnod, ac roedd y cyfraddau ail-heintio rhwng 8% a 10%.

1.8 Roedd dau ffactor i’w hystyried mewn perthynas â lledaeniad yr amrywiolyn newydd. Yn gyntaf roedd yn amlwg ei fod yn fwy trosglwyddadwy, ac yn ail roedd y posibilrwydd y gallai’r amrywiolyn ddianc rhag effaith brechlyn.

1.9 Dywedodd Prif Weithredwr y GIG wrth y Gweinidogion fod y Byrddau Iechyd yn adrodd bod y sefyllfa yn gymharol sefydlog, gyda chleifion, yr oedd cadarnhad bod COVID arnynt, mewn 500 o welyau. Roedd y sefyllfa mewn unedau gofal dwys hefyd yn sefydlog, ond eu bod ar lefel cyfraddau capasiti cynnydd cyflym.

1.10 Dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth yr Alban wedi cryfhau ei chanllawiau mewn nifer o feysydd er mwyn arafu lledaeniad Omicron, ond nad oedd unrhyw newidiadau i’r rheoliadau na’r cyfyngiadau ar fusnesau.

1.11 Roedd y Prif Weinidog, gyda Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi mynychu cyfarfod o COBR y diwrnod blaenorol, lle y cafwyd trafodaeth anodd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a fyddai’n gwrthod rhoi cymorth ariannol i’r Llywodraethau Datganoledig pe bai angen iddynt ailgyflwyno cyfyngiadau’n annibynnol.

1.12 Yn y cyd-destun hwnnw, bu’r Cabinet yn ystyried yr argymhellion yn y papur. Dylai fod canllawiau penodol ar gyfer cyfyngu ar gymysgu, ac ar yr un pryd dylid annog pobl i gymryd prawf cyn mynd allan. Hefyd, byddai gofyn i fusnesau sicrhau bod mesurau lliniaru ychwanegol ar waith erbyn 27 Rhagfyr. Yn y cyfamser, byddai swyddogion yn edrych ar yr opsiwn o ddarparu cymorth ychwanegol i fusnesau a oedd yn dioddef effeithiau’r don bresennol, a’r bwriad oedd gwneud cyhoeddiad ar becyn terfynol y diwrnod canlynol.

1.13 Roedd pryder mawr ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn anwybyddu’r cyngor gwyddonol ar ledaeniad Omicron. Ar ben hynny, heb gymorth ychwanegol penodol gan Drysorlys y DU, roedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd iawn o ran ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng peryglon i iechyd y cyhoedd a niwed economaidd-gymdeithasol.

1.14 O ran yr opsiynau ar gyfer camau gweithredu i’w cymryd ar unwaith, ac oherwydd y cyfyngiadau ariannol a orfodir gan Lywodraeth y DU, cytunodd y Gweinidogion y dylai swyddogion ymchwilio i weld a fyddai’n bosibl eu cryfhau drwy symud o ganllawiau i reoliadau lle bynnag y byddai hynny’n ymarferol, ac y dylai ystyriaeth bellach gael ei rhoi i gyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol neu efallai cyflwyno cyfuniad o’r ddau.

1.15 Roedd hefyd yn bwysig rhoi arwydd glir o ran yr hyn y dylai pobl a busnesau ei ddisgwyl ar ôl y Nadolig, a dylai unrhyw newidiadau deddfwriaethol gael eu gwneud cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, byddai angen i swyddogion ailystyried pa gamau gweithredu penodol y dylid eu cymryd ar ôl y Nadolig.

1.16 Cytunodd y Cabinet i ailymgynnull am 4:15pm i ystyried yr opsiynau ymhellach, a hefyd y cyngor ychwanegol y gofynnwyd i swyddogion ei ddarparu.

4:15pm

1.17 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gynharach y diwrnod hwnnw i’w annog eto i naill ai ailgyflwyno’r cynllun ffyrlo a’r mesurau cysylltiedig ar gyfer y DU gyfan, neu i sicrhau bod gan y Llywodraethau Datganoledig fynediad at gyllid y Trysorlys er mwyn eu galluogi i gyflwyno eu mesurau eu hunain. Roedd y neges hon wedi cael ei hatgyfnerthu yn y Cyngor Partneriaeth Cymdeithasol Cysgodol yn gynharach.

1.18 Dychwelodd y Cabinet at y materion a oedd wedi codi o’r drafodaeth gynharach, yr oedd yn dal i fod angen eu trafod. Yn sgil y cyngor ychwanegol gan swyddogion, cadarnhawyd y dylai canllawiau manwl fod ar waith i sicrhau bod pobl yn cadw’n ddiogel yn ystod y Nadolig. Hefyd, yn ogystal â’r camau gweithredu i’w cymryd ar unwaith, dylid gweithredu rheoliadau a oedd yn gofyn i bobl weithio o gartref neu o bell, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

1.19 O ran y cyfnod ar ôl y Nadolig, cytunodd y Cabinet y dylai mesurau mwy llym fod ar waith, ynghyd â chyfyngiadau cyfreithiol pellach a oedd yn cynnwys ailgyflwyno’r angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr, ochr yn ochr â gweithredu systemau unffordd mewn swyddfeydd, safleoedd manwerthu, a busnesau eraill i ddiogelu staff a chwsmeriaid.

1.20 Bu’r Gweinidogion yn ystyried effeithiau Omicron ar glybiau nos, gan ddod i’r casgliad y dylent i gyd gau o Ŵyl San Steffan oherwydd y risg ychwanegol o ledaenu’r haint mewn mannau cyfyng.

1.21 Oherwydd yr effeithiau economaidd ar fusnesau, byddai pecyn cymorth ariannol gwerth rhwng £50m a £60m ar gael.

1.22 Roedd y Gweinidogion yn cytuno y dylai’r negeseuon y diwrnod canlynol bwysleisio y byddai bywydau pobl yn newid, ac y byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn y canllawiau a’r rheoliadau, ac y dylid disgwyl cyhoeddiadau pellach yr wythnos ganlynol. Roedd yn bwysig sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd i’r rheini a oedd yn y perygl mwyaf yn ystod cyfnod y Nadolig, drwy gyfeirio at gyngor ar gymorth trais domestig, gwasanaethau iechyd meddwl, a gwybodaeth ar gyfer y rheini sy’n wynebu problemau tai.

1.23 Cytunwyd y byddai angen i’r Cabinet gyfarfod eto ddydd Llun i ystyried unrhyw faterion yr oedd angen parhau i’w trafod ac unrhyw elfennau a oedd yn parhau o Rybudd Lefel 2. Yn y cyfamser, dylai swyddogion fwrw ymlaen â’r penderfyniadau a oedd wedi cael eu gwneud gan Weinidogion, gan gyfarwyddo cyfreithwyr yn briodol.