Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Dawn Bowden AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder (eitem 2)
  • Jon Oates, Dirprwy Gyfarwyddwr Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni (eitem 4)
  • Michelle Delafield, Uwch-reolwr Cyflawni, Ymaddasu i Newid Hinsawdd (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 10 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Datganiad gan Ganghellor y Trysorlys 

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y datganiad diweddar gan Ganghellor newydd y Trysorlys, lle’r oedd wedi gwrthdroi’r rhan fwyaf o’r newidiadau i drethi a wnaed ar 23 Medi, yn y gobaith o sefydlogi’r marchnadoedd ariannol a lleihau’r diffyg. Roedd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer twf economaidd bellach yn aneglur.

Darlithoedd ar y Cyfansoddiad

2.2 Cafodd y Cabinet ei atgoffa gan y Prif Weinidog y byddai’r gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd ar y cyfansoddiad yn cael ei chynnal y noson ddilynol yn Adeilad y Pierhead. Y siaradwr gwadd oedd Syr David Lidington.

Fforwm Gweinidogion Cymru Iwerddon

2.3 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Cabinet ei fod ef, a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, wedi mynychu cyfres o gyfarfodydd fel rhan o Fforwm Gweinidogion Cymru Iwerddon yn Nulyn y dydd Iau blaenorol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Bu nifer o newidiadau i grid y cyfarfodydd llawn ers iddo gael ei gylchredeg gyda phapurau’r Cabinet. Roedd yn debygol y byddai Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn cael eu tynnu’n ôl, ac y byddai’r ddadl, y bwriedid ei chynnal ddydd Mawrth, yn cael ei gohirio. Yn ogystal â hyn, byddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar mewn ymateb i ddatganiad y Canghellor.

3.2 Roedd yn bosibl y byddai angen i’r Llywodraeth gynnal dadl frys ddydd Mercher a oedd yn ymwneud â Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Prisiau Ynni’r DU.

Eitem 4: Cymryd camau brys i ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur a oedd yn gofyn i’r Gweinidogion nodi’r cynnydd a wnaed ers y drafodaeth flaenorol yn y Cabinet, ar gymryd camau i ymaddasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

4.2 Roedd Gweinidogion wedi cytuno y dylai fod mwy o bwyslais ar ymaddasu a lliniaru wrth wneud penderfyniadau ar bolisïau a buddsoddiadau, gan fod y rhain yn rhannau cyd-ddibynnol a hanfodol o ymateb unedig i’r newid yn yr hinsawdd. Roedd wedi ei gytuno hefyd y dylai Adrannau gyfrannu at yr adroddiad a oedd ar fin digwydd ar hynt y gwaith o ymaddasu.

4.3 Yn ystod yr wythnos flaenorol, roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ei dadansoddiad o’r tywydd poeth a gafwyd yn ystod yr haf, a oedd wedi torri pob record gan amlygu’r effaith sylweddol yr oedd y newid yn yr hinsawdd yn ei chael eisoes ar y DU. Byddai’r sefyllfa yn parhau i waethygu, hyd yn oed yn y senarios gorau ar gyfer lleihau allyriadau.

4.4 Byddai adroddiad cynnydd ar y cynllun ymaddasu cenedlaethol presennol yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, a byddai’r cynllun nesaf yn cael ei gyhoeddi yn 2024.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Diweddariad llafar ar y drafodaeth gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys

5.1 Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wrth y Cabinet ei bod newydd gael sgwrs gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, Edward Argar, AS. Roedd y Gweinidog wedi egluro pryderon y Llywodraeth ynglŷn ag effeithiau chwyddiant ar Gyllideb Cymru a’r angen i gynnal lefel uwch o wariant i gefnogi pobl agored i niwed a busnesau.

5.2 Dywedodd y Prif Ysgrifennydd y byddai’n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar ystod a chwmpas yr adolygiad o’r Warant Pris Ynni, a oedd wedi ei drefnu ar gyfer y mis Ebrill canlynol, ac roedd y Gweinidog yn pwysleisio pa mor bwysig oedd darparu sicrwydd i gwmnïau a’r sector cyhoeddus.

5.3 Fodd bynnag, ni ddarparodd y Prif Ysgrifennydd unrhyw eglurder ynghylch cynlluniau ar gyfer twf economaidd. Byddai’r Gweinidogion yn cyfarfod eto ddydd Iau yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2022