Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol – Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-Gadeirydd TAC
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr COVID-19 Ailgychwyn
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Adolygiad COVID-19
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin,, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol
  • Tim Render, Cyfarwyddwr, Tir, Natur a Bwyd
  • Helen John, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi Seilwaith y Gororau

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion cyfarfodydd 10 a 13 Ionawr.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)

2.1 Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet bod Bil Aelod Preifat ar Eitemau Diwylliannol, gwarchodaeth rhag ymafael yn gwneud ei ffordd drwy Senedd y Deyrnas Unedig gyda chefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bwriad y Bil yw estyn yr amddiffyniad presennol sy’n cael ei roi i wrthrychau diwylliannol ar fenthyg o dramor i orielau ac amgueddfeydd yn y Deyrnas Unedig.

2.2 Roedd darpariaethau yn y Bil sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac nid yw’r bwriadau yn anghyson â bwriadau Gweinidogion Cymru. Er hynny, roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio pwerau cydredol ac roedd swyddogion wedi ceisio gwelliant i amddiffyn pwerau Gweinidogion Cymru, yn unol â pholisi’r Llywodraeth ar ddeddfwriaeth San Steffan. Mae hyn wedi’i wrthod ac mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip yn ysgrifennu at yr Aelod sy’n noddi’r Bil, Mel Stride AS, i geisio cefnogaeth i welliant sy’n amddiffyn pwerau o ran Cymru.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfod Llawn gan nodi y byddai busnes yn parhau ar ffurf rhithiol ac roedd amser pleidleisio wedi’i amserlennu am 7:15pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm dydd Mercher.

Eitem 4: Adolygiad o Fesurau Amddiffyn rhag y Coronafeirws – 20 Ionawr

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn ychwanegu at y drafodaeth yn y Cabinet ar 13 Ionawr i lywio’r adolygiad gofynnol diweddaraf o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, a oedd i ddigwydd erbyn 20 Ionawr 2022.

4.2 Atgoffwyd y Gweinidogion bod y cyfyngiadau sy’n ymwneud â COVID-19 o fewn Cynllun Rheoli’r Coronafeirws yno at y diben o atal, diogelu rhag bygythiad, a rhoi ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder, lledaeniad a halogiad Covid-19. Mae’n rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a dylai’r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn bwriadu ei gyflawni.

4.3 Roedd y papur yn amlinellu’r sefyllfa iechyd y cyhoedd, a oedd yn awgrymu bod niferoedd yr achosion COVID-19 yn parhau i ostwng yng Nghymru ac roedd achos dros fod yn dawel hyderus bod y sefyllfa yn cychwyn sefydlogi.  

4.4 Felly, cadarnhaodd y Cabinet y byddai'r Rheoliadau'n cael eu diwygio o 21 Ionawr i gael gwared ar y mesurau amddiffyn ychwanegol yn yr awyr agored, a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, ar yr amod bod yr amodau'n parhau'n ffafriol ar 20 Ionawr. Ni fyddai unrhyw gyfyngiadau ar y niferoedd a allai gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, byddai torfeydd yn gallu dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored a byddai lletygarwch awyr agored yn gallu gweithredu heb fesurau ychwanegol.  Byddai angen y pas Covid i gael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored ar raddfa fwy.

4.5 Cytunodd y Cabinet hefyd mewn egwyddor i gynnwys y brechiad atgyfnerthu yn y diffiniad o'r rhai a 'frechwyd yn llawn' a fyddai'n gofyn am newid yn y Rheoliadau, a dylid adlewyrchu hyn yn y pas Covid.

4.6 Byddai'r gwaith o ehangu'r pas Covid i letygarwch yn cael ei ailystyried yn yr adolygiad a fydd yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror.

4.7 Cadarnhaodd y Cabinet hefyd, os bydd y cyd-destun o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn ffafriol yn y cyngor sydd i'w gyflwyno i'r Prif Weinidog yn ystod wythnos 24 Ionawr, y byddwn yn symud yn ôl i'r holl fesurau amddiffyn Lefel Rhybudd Sero o 28 Ionawr.

4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, yn amodol ar swyddogion yn ystyried sylwadau a wnaed gan Weinidogion ac y dylent gyfarwyddo cyfreithwyr yn unol â hynny.

Eitem 5: Trefniadau Safleoedd Rheoli Ffiniau

5.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno mewn egwyddor i’r dull gweithredu a gynigir mewn perthynas â gwiriadau ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol sy’n dod i’r Deyrnas Unedig drwy borthladdoedd yng Nghymru o 1 Gorffennaf 2022. Gofynnwyd hefyd i’r Gweinidogion gytuno i reoli’r risgiau ariannol a’r pwysau sydd ar ôl.

5.2 Roedd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol cynnal gwiriadau  ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol, megis planhigion, anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi oedi’r gwaith o weithredu tan fis Gorffennaf 2022.

5.3 Yng Nghymru, roedd angen safleoedd rheoli ffiniau newydd ar gyfer Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi etifeddu’r gwaith o ddarparu cyfleusterau yn y porthladdoedd hyn tua diwedd 2020. Fodd bynnag, ni fyddai'r cyfleusterau parhaol yng Nghaergybi yn weithredol tan y gwanwyn 2023 a byddai'n hwyrach na hynny ar gyfer y ddau borthladd arall.

5.4 Felly, roedd angen dull a oedd yn caniatáu llif parhaus nwyddau iechydol a ffytoiechydol drwy'r porthladdoedd hyn.

5.5 Cynigiwyd trefniadau dros dro ar gyfer y tri phorthladd, a fyddai'n cynnwys gwiriadau 'ysgafn' mewn porthladdoedd a chyrchfannau, uwchlaw'r trefniadau presennol.  Roedd yn bosibl penderfynu ar wahanol ddulliau ar gyfer y nwyddau, gyda'r gallu i weithredu gofynion gwirio llawn ar gyfer cynhyrchion penodol, megis planhigion. Cynnal bioddiogelwch fyddai'r ffactor allweddol.

5.6 O ran y setliad ariannol, mae Gweinidogion y Deyrnas Unedig wedi cytuno mewn egwyddor i gyllido costau adeiladu. Er hynny, ni fyddant yn cyllido unrhyw wariant gweithredol a delir ymlaen llaw.

5.7 Cytunodd y Gweinidogion i barhau gyda’r trefniadau dros dro sy’n cael eu cynnig.

5.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.