Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19
  • Gemma Nye, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd

Eitem 1: Eitemau’r Prif Weinidog

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog bawb i gyfarfod cyntaf Cabinet y Llywodraeth newydd, gan amlinellu nifer o faterion pwysig y byddai angen i’r Gweinidogion eu hystyried.

Rhaglen Lywodraethu

1.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod swyddogion wedi bod yn gweithio ar fersiwn ragarweiniol o’r Rhaglen Lywodraethu. Y nod oedd cyhoeddi hon ddechrau Mehefin.

Dogfen Cyfrifoldebau Gweinidogion

1.3 Nodwyd bod fersiwn ddiweddaraf y ddogfen cyfrifoldebau Gweinidogion wedi cael ei rhannu â’r Gweinidogion.

Cyfarfodydd Llawn

1.4 Roedd disgwyl y byddai’r Cyfarfodydd Llawn yn parhau mewn fformat hybrid, a byddai angen ystyried yn ofalus pryd y dylai Gweinidogion fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, o gofio mai 20 oedd cyfanswm nifer yr Aelodau a oedd yn cael bod yn y Senedd ar yr un pryd, ac mai tair sedd yn unig oedd ar gael i’r Llywodraeth.

1.5 Amlinellodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd fusnes y Cyfarfodydd Llawn ar gyfer y ddwy wythnos nesaf, a gyfyngir i sesiynau ar ddyddiau Mercher yn unig. Byddai cwestiynau llafar i’r Prif Weinidog yn ailddechrau ar 26 Mai. Ar ôl hanner tymor, byddai sesiynau’n cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos unwaith yn rhagor, a byddai amserlen lawn ar gyfer cwestiynau llafar yn cael ei gweithredu.

Cysylltiadau â Llywodraeth y DU

1.6 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cyfarfod â Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn yr wythnos flaenorol i drafod yr ymchwiliad annibynnol i’r ymateb i’r pandemig, a fyddai’n cael ei wneud ar lefel y DU gyfan. Roedd bwriad i gytuno ar y cylch gorchwyl a ffyrdd o weithio erbyn diwedd y flwyddyn, gyda’r ymchwiliad yn dechrau rhywbryd yn 2022. Yn y cyfarfod hwnnw, pwysleisiodd y Prif Weinidog pa mor bwysig oedd hi bod yr ymchwiliad yn rhoi ystyriaeth i’r prosesau penderfynu a oedd ar waith yn y Gweinyddiaethau Datganoledig.

1.7 Roedd y Prif Weinidog wedi ymateb i lythyr gan Brif Weinidog y DU ynglŷn â defnyddio dull gweithredu ‘Tîm y DU’ ar gyfer adfer o effeithiau’r pandemig, ac roedd bellach yn aros am ymateb o ran y camau nesaf.

Cyfarfodydd y Cabinet yn y Dyfodol

1.8 Byddai’r Cabinet yn parhau i gyfarfod ar brynhawn Llun.

Eitem 2: Y diweddaraf am y sefyllfa COVID-19

2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddiad y feirws, yn benodol o ran yr amrywiolyn newydd yr oedd yn ymddangos ei fod wedi dod o India yn wreiddiol, a’r effaith ar y GIG.

2.2 Roedd y sefyllfa yng Nghymru yn parhau’n ffafriol, ac roedd y gyfradd heintio oddeutu 10 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth. At ei gilydd, ar hyn o bryd roedd 26 o achosion o’r amrywiolyn newydd (B.1.617.2) yng Nghymru, gyda chlystyrau yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Roedd yn ymddangos bod cyfradd y twf mewn achosion yn gynt na’r amrywiolyn sydd fwyaf cyffredin ar hyn o bryd.

2.3 Roedd y sefyllfa’n fwy problemus yn Lloegr, gyda thros 2,000 o achosion a 100 o glystyrau, ac roedd tystiolaeth bod trosglwyddiad yn y gymuned yn digwydd yno, yn enwedig yng Ngogledd Orllewin a Dwyrain Canolbarth y wlad honno, ac yn Llundain. Mae Timau Rheoli Digwyddiadau yn goruchwylio achosion Cymru, ac roedd y datblygiadau yn Bolton yn cael eu monitro’n agos. 

2.4 Ar hyn o bryd, nid oedd gwybodaeth o ansawdd uchel ar gael o ran difrifoldeb y clefyd, na gwybodaeth ynghylch ei sensitifrwydd i’r brechlynnau. Fodd bynnag, pe bai B.1.617.2 yn arwain at symptomau mwy difrifol, byddai hynny’n arwain yn ei dro at fwy o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbytai, a mwy o bwysau ar y GIG. Hefyd roedd posibilrwydd y byddai trydedd don yn digwydd ddiwedd yr haf neu ddechrau’r hydref. 

2.5 Cytunwyd y byddai angen i’r Gell Cyngor Technegol roi rhagor o wybodaeth i Weinidogion o ran defnyddio gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysg.