Cyfarfod y Cabinet: 17 Tachwedd 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 17 Tachwedd 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Julie James AS
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tracey Breheny, Cyfarwyddwr, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Stephanie Evans, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Amelia John, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol (eitem 4)
- Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd (eitem 4)
- Jo Maddaford, Dirprwy Bennaeth Trechu Tlodi (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 3 Tachwedd 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Storm Claudia
2.1 Diolchodd y Prif Weinidog i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am ei arweinyddiaeth yn ystod Storm Claudia, a oedd wedi effeithio ar Gymru dros y penwythnos, gan ofyn iddo roi diweddariad ar y sefyllfa.
2.2 Roedd nifer sylweddol o gartrefi a busnesau yn Sir Fynwy wedi cael llifogydd dros y penwythnos, gan gynnwys rhai yn Nhrefynwy, Ynysgynwraidd, a'r Fenni. Cafwyd adroddiadau o lifogydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill hefyd, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Sir Ddinbych, Torfaen, a Phowys.
2.3 Roedd y Llywodraeth yn parhau mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol ynghylch effeithiau'r storm, wrth iddynt ganolbwyntio ar lanhau ac adfer. Yn y cyfamser, roedd swyddogion yn ystyried pa gyllid cyfalaf brys oedd ar gael i'r awdurdodau lleol perthnasol. Nodwyd bod y Prif Weinidog hefyd wedi cynnig cefnogaeth.
2.4 Roedd y cydlynu traws-lywodraethol a lleol rhagarweiniol wedi golygu bod gwell parodrwydd ac ymateb o ansawdd uwch gan ymatebwyr brys, awdurdodau rheoli risg, y Gwasanaeth Tân ac Achub, awdurdodau lleol, a Chyfoeth Naturiol Cymru. Roedd gwersi o stormydd blaenorol wedi cael eu gweithredu, a byddai ymarfer ôl-drafodaeth ffurfiol yr wythnos ganlynol i sicrhau bod yr wybodaeth a gasglwyd o'r ymateb i'r storm hon yn cael ei chadw a'i defnyddio i wella gweithgareddau gwytnwch yn y dyfodol.
2.5 Byddai Datganiad Llafar i'r Senedd y diwrnod canlynol.
2.6 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.
Wylfa ac Ardaloedd Twf AI
2.7 Croesawodd y Cabinet gyhoeddiadau Llywodraeth y DU am y penderfyniad i adeiladu gorsaf bŵer adweithydd niwclear modiwlaidd fach gyntaf y DU yn Wylfa ar Ynys Môn a sefydlu Parth Twf AI Gogledd Cymru. Byddai'r ddau brosiect yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol trawsnewidiol, a byddent yn dod â thua 3,000 o swyddi o ansawdd uchel i'r rhanbarth.
2.8 Roedd y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn bresennol yn Wylfa ar gyfer y cyhoeddiad ddydd Iau yr wythnos flaenorol, ochr yn ochr â Phrif Weinidog y DU ac aelodau o'i Gabinet.
Ymweliad Brenhinol
2.9 Diolchodd y Prif Weinidog i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am fynychu ymweliad y Brenin a'r Frenhines â Ffynnon Taf a Merthyr Tudful y dydd Gwener blaenorol.
Cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiddymu swydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
2.10 Nodwyd bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddai swydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael ei diddymu pan fydd y tymhorau presennol yn dod i ben yn 2028.
Twrnamaint Pêl-droed Pencampwriaeth Ewrop UEFA Dynion 2028
2.11 Croesawodd y Cabinet y cyhoeddiad yr wythnos flaenorol y byddai Caerdydd yn cynnal gêm gyntaf Twrnamaint Pêl-droed Pencampwriaeth Ewrop UEFA Dynion 2028.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod Datganiad ar effeithiau Storm Claudia wedi'i ychwanegu at yr amserlen ar gyfer dydd Mawrth. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:55pm ddydd Mawrth a thua 7:10pm ddydd Mercher.
3.2 Nodwyd hefyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yn cadarnhau, yn ystod ei datganiad ar Dai Fforddiadwy, y rhagwelir y bydd y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu erbyn diwedd 2026.
Eitem 4: Adroddiad Cynnydd ar Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2025 – Cyhoeddiad CAB(25-26)14
4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno i gyhoeddi'r Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant ar gyfer 2025. Roedd hyn yn unol â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a oedd yn gofyn am adroddiad cynnydd bob 3 blynedd.
4.2 Byddai'r Adroddiad Profiad Bywyd, a oedd yn cynnwys tystiolaeth a gasglwyd oddi wrth dros 3000 o bobl a sefydliadau i wella dealltwriaeth o'r sefyllfa yng Nghymru, ynghyd â'r Fframwaith Monitro ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant a adolygir yn annibynnol yn seiliedig ar dystiolaeth, hefyd yn cael eu cyhoeddi i ddangos atebolrwydd tryloyw o ran y cynnydd a wnaed. Roedd hyn yn ychwanegol at gyhoeddi'r cerrig milltir a'r dangosyddion cenedlaethol ehangach yn rheolaidd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
4.3 O ran yr heriau, roedd 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Roedd hyn yn debyg i'r lefelau yn Lloegr, ond yn sylweddol uwch nag yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. Er bod lefelau tlodi wedi aros yn gymharol sefydlog dros y deng mlynedd diwethaf, maent wedi cynyddu yng Nghymru ers y pandemig. Ar ben hynny, rhagamcanodd Rhagolwg Safonau Byw Sefydliad Resolution 2025 y byddai incwm nodweddiadol aelwydydd nad ydynt yn bensiynwyr yn 2029-2030 yn aros yn ddigyfnewid o'i gymharu â 2019-2020.
4.4 Felly roedd yn hanfodol bod y momentwm traws-lywodraethol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn cael ei gynnal a'i gryfhau ar bob cyfle, fel bod pob plentyn, person ifanc a theulu yn gallu cyrraedd eu potensial a ffynnu.
4.5 Roedd yr Adroddiad yn amlinellu amcanion clir, a oedd yn cynnwys lleihau costau a gwneud y mwyaf o incwm i deuluoedd, a chreu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael y cyfle i wireddu eu potensial.
4.6 Roedd yn bwysig sicrhau bod gweithgareddau'r Llywodraeth yn ystod y 3 blynedd diwethaf yn amlwg, sef gweithgareddau megis cyflwyno prydau ysgol am ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol i gefnogi'r rheini mewn gwaith ac allan o waith sy'n byw mewn tlodi.
4.7 Croesawodd y Cabinet y papur, gan ailddatgan yr ymrwymiad traws-lywodraethol i fynd i'r afael â thlodi plant.
4.8 Roedd angen gwneud yn glir bod llawer o'r prif ysgogiadau a pholisïau ar gyfer trechu tlodi plant heb eu datganoli. Felly, roedd angen parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud y newidiadau angenrheidiol, megis diddymu'r cap budd-dal dau blentyn.
4.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur. Nodwyd mai'r nod oedd cyhoeddi'r tair dogfen ddechrau mis Rhagfyr.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2025
