Neidio i'r prif gynnwys

Yn bresennol

  • Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
  • Sioned Williams AS
  • Mabon ap Gwynfor AS
  • Anna Brychan AS
  • Heledd Fychan AS
  • Llŷr Gruffydd AS
  • Siân Gwenllian AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
  • Adam Price AS
  • Dafydd Trystan Davies AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
     
  • Cefin Campbell AS
  • Nerys Evans AS
  • Mark Hooper AS
  • Delyth Jewell AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Cai Elis, Cynghorydd Arbennig
  • Francess Ifan, Cynghorydd Arbennig
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Breheny, Cyfarwyddwr yr Uned Strategaeth (eitem 3)
  • Andy Fraser, y Prif Swyddog ar gyfer Diogelwch Gwladol a Gwydnwch (eitem 3)
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd (eitem 3)
  • Thomas Nicholls, y Prif Economegydd (eitem 3)

Eitem 1: Eitemau'r Prif Weinidog

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog y Gweinidogion i gyfarfod cyntaf Cabinet Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru. Nododd ei bod yn foment hanesyddol i Gymru.

1.2 Diben yr eitem agenda gyntaf hon fyddai rhoi gwybod i'r Cabinet am ddatblygiadau perthnasol, a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd am Fusnes y Senedd.

1.3 Ar ôl y cyfarfod, byddai nodyn yn cael ei ddosbarthu i'r Gweinidogion am y trefniadau ar gyfer busnes y Cabinet yn y dyfodol. Byddai'r nodyn hwn yn esbonio sut y gallai'r Gweinidogion awgrymu eitemau yn y dyfodol i'r Cabinet eu hystyried.

1.4 Parc Cathays fyddai hwb canolog y llywodraeth a gweithle'r holl Weinidogion.

Busnes y Senedd

1.5 Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Cabinet y byddai'r Cyfarfod Llawn nesaf yn cael ei gynnal y diwrnod canlynol o 1:30pm ymlaen. Yn y cyfarfod hwnnw, byddai Pwyllgor Busnes yn cael ei ethol. Yn ogystal, byddai busnes y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau 1 Mehefin yn cael ei gytuno. Ar ôl hyn, byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar flaenoriaethau'r llywodraeth.

1.6 Byddai'r Pwyllgor Busnes hefyd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn ddiweddarach yn yr wythnos i ddechrau ar ei waith, gan gynnwys trafod opsiynau ar gyfer strwythur pwyllgorau, amserlen y Cyfarfod Llawn a dyddiadau'r toriadau.

1.7 Byddai'r amserlen ar gyfer cwestiynau llafar yn cael ei dosbarthu i'r swyddfeydd ar ôl y cyfarfod, a byddai cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dechrau ar ôl hanner tymor, ddydd Mawrth 2 Mehefin. Byddai cwestiynau llafar i'r Gweinidogion yn dechrau ddydd Mercher 10 Mehefin, ynghyd â busnes y gwrthbleidiau.

Eitem 2: Blaenoriaethau'r Prif Weinidog – CAB(26-27)01

2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn nodi ei flaenoriaethau ar gyfer y Senedd bresennol ochr yn ochr â'i ddisgwyliadau ynghylch y ffyrdd o weithio a monitro cynnydd.

2.2 Y cynnig gerbron y Cabinet oedd nodi'r ffyrdd o weithio a awgrymwyd gan y Prif Weinidog a naratif craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon.

2.3 Roedd y Prif Weinidog yn cydnabod y weledigaeth uchelgeisiol gyffredin ar gyfer y genedl ymhlith y Cabinet, ac ystyriodd yr hyn y gellid ei gyflawni o dan arweinyddiaeth newydd.

2.4 Roedd y papur yn nodi sut y byddai'n hanfodol cydweithio i wneud cynnydd cyflym ar y blaenoriaethau. Roedd y maniffesto yn glir ynglŷn â'r hyn y byddai'r llywodraeth yn ei flaenoriaethu, gan gynnwys:

  • torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy'n addas ar gyfer y dyfodol
  • helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy ofal plant sy'n fforddiadwy ac o safon
  • datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy'n talu'n dda
  • codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau'r amodau gorau ar gyfer dysgu
  • mynd i'r afael â thlodi plant, a
  • sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan.

2.5 Byddai bwrw ymlaen â'r rhain yn gofyn am benderfyniadau anodd, gan gynnwys atal neu ail-lunio gweithgareddau presennol na fyddai'n cyfrannu'n uniongyrchol at y nodau hyn.

2.6 Roedd disgwyl i'r Cabinet weithio gyda'i gilydd fel un llywodraeth gydag amcanion cyffredin er mwyn sicrhau cynnydd gwirioneddol y gallai pobl yng Nghymru ei weld a'i deimlo.

2.7 Er mwyn symud y rhaglen waith yn ei blaen, byddai'r Prif Weinidog yn arwain tîm bach gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, y Trefnydd, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, a'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth.

2.8    Adroddwyd bod gwaith gyda'r Ysgrifennydd Parhaol eisoes wedi dechrau, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth sifil yn gydnaws â'r blaenoriaethau, a bod ganddo'r strwythurau, y data a'r ffocws cywir.

2.9 Roedd yn bwysig hefyd gweithio drwy bartneriaethau cryf ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gan weithredu gydag eglurder a chysondeb wrth ofyn iddynt gyflawni ochr yn ochr â'r llywodraeth.

2.10 Nododd y Cabinet y papur.

Eitem 3: Y sefyllfa yn y Dwyrain Canol a'r effaith ar Gymru

3.1 Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y sefyllfa yn y Dwyrain Canol a'r effaith ar Gymru.

3.2 Cydnabu'r Cabinet pa mor ansefydlog yw'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, a'i botensial parhaus i gynhyrchu siociau byd-eang yn economaidd ac o ran ynni a diogelwch. Roedd yr effeithiau polisi posibl ar Gymru yn helaeth ac yn rhyng-gysylltiedig, gan gynnwys prisiau ynni a thanwydd, costau bwyd, pwysau chwyddiant, tarfu ar y gadwyn gyflenwi, gwydnwch gwasanaethau cyhoeddus a chydlyniant cymunedol.

3.3 Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi trefn oruchwylio ar waith o ran gwydnwch, dan arweiniad ymgyrch Gwennol, ac er nad oedd unrhyw bryderon sylweddol ar hyn o bryd, roedd y sefyllfa yn parhau i gael ei hasesu'n barhaus o ystyried yr ansicrwydd. Nid oes pryderon mawr o ran cyflenwadau ynni neu danwydd, na'r gadwyn gyflenwi ehangach ar hyn o bryd, ac mae parodrwydd ar gyfer unrhyw darfu ar danwydd wedi'i brofi drwy ymarfer Celtic Lantern.

3.4 Mae'r Grŵp Effeithiau Polisi'r Dwyrain Canol wedi'i sefydlu o fewn y llywodraeth i asesu'r goblygiadau polisi yn barhaus. Fodd bynnag, roedd yn destun pryder nad oedd y llywodraethau datganoledig yn cael eu gwahodd i Bwyllgor Ymateb Llywodraeth y DU i Sefyllfa'r Dwyrain Canol ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod cais o'r fath wedi cael ei wneud.

3.5 Roedd yr effeithiau economaidd yn ansicr iawn ar hyn o bryd, ond byddai effaith ar brisiau ynni, gan gynnwys cynnydd a ragwelir o £500 i'r cap ar brisiau ynni, a fyddai'n arwain at effaith ar gynhyrchion fel gwrtaith.

3.6 Gallai chwyddiant agosáu at 4% yn 2026, ac roedd posibilrwydd y gallai gyrraedd 6%. Ymhlith yr effeithiau canlyniadol roedd effaith ar gostau byw ac ar ddiwydiannau yng Nghymru sy'n defnyddio llawer o ynni, costau trafnidiaeth wledig a thlodi tanwydd. Ar hyn o bryd, roedd rhai busnesau yn cael eu hamddiffyn rhag costau cynyddol, ond byddai effeithiau yn cael eu teimlo gan fusnesau bach a chanolig.

3.7 Roedd y sefyllfa hon yn datblygu ar adeg pan fo'r farchnad lafur yn llai ffafriol ac yn gwanhau o'i gymharu â'r farchnad adeg yr argyfwng ynni ar ôl y rhyfel yn Wcráin. Yn ogystal, roedd gan Lywodraeth y DU lai o hyblygrwydd oherwydd cyfyngiadau cyllidol parhaus.

3.8 Roedd gostyngiad sylweddol yn y nwyddau a gâi eu cludo drwy Gulfor Hormuz ac roedd y prisiau wrth y pympiau wedi cynyddu'n eithriadol ers dechrau'r rhyfel yn Iran. Er hynny, nid oedd prisiau nwy, er eu bod yn uchel, wedi gweld yr un amrywiadau ag a welwyd yn ystod dechrau'r rhyfel yn Wcráin.

3.9 Roedd hyn i gyd wedi cyfrannu at farchnadoedd bellach yn disgwyl i Fanc Lloegr gynyddu cyfraddau llog, a'r canlyniad oedd arafu gweithgarwch economaidd a buddsoddi.

3.10 Byddai effeithiau cyffredinol ar bobl yng Nghymru, gan gynnwys y potensial i achosi pwysau o ran costau a chwyddiant ar draws y system gyfan a fyddai'n effeithio ar aelwydydd, gwasanaethau cyhoeddus, gwydnwch economaidd a chydlyniant cymunedol ar yr un pryd, gan ddwysáu'r pwysau yn hytrach na pharhau i fod yn sector benodol. Er bod modd rheoli risgiau ar hyn o bryd, gallai pwysau olygu tarfu ar wasanaethau ac effeithiau dyfnach wrth i'r gwrthdaro barhau.

3.11 Roedd yr effeithiau uniongyrchol yn cael eu teimlo gan y 7-8% o'r aelwydydd yng Nghymru yr amcangyfrifir eu bod yn defnyddio olew gwresogi, ac roedd y cynnydd cyflym mewn prisiau a'r ansefydlogrwydd yn y farchnad yn parhau ers dechrau'r gwrthdaro.

3.12 Roedd nifer o gynlluniau cymorth ar waith ar gyfer aelwydydd ledled Cymru, gan gynnwys: y Gronfa Gynghori Sengl a'r Gronfa Cymorth Dewisol, cyflwyno prydau ysgol am ddim, y Grant Hanfodion Ysgol a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Roedd cymorth parhaus hefyd yn cynnwys rhaglenni fel presgripsiynau am ddim, archwiliadau deintyddol a llygaid am ddim, cymorth i fyfyrwyr, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a Dechrau'n Deg.

3.13 Roedd cymorth ychwanegol ar gael drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol ar gyfer tanwydd i gartrefi nad ydynt ar y grid nwy. Roedd y dyraniad mwyaf ar gyfer olew gwresogi wedi cynyddu o £500 i £750, a gallai pobl wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis, o leiaf 3 mis ar wahân.

3.14 Yn ogystal, roedd cynllun wedi'i sefydlu i ddarparu un taliad o £200 i aelwydydd sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (yn seiliedig ar incwm) ac sy'n byw mewn cartrefi sy'n dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig. Roedd y cynllun yn cael ei ddarparu gan Awdurdodau Lleol a byddai'n agored tan 30 Medi.

3.15 Yna, ystyriodd y Cabinet yr agwedd cysylltiadau rhynglywodraethol.

3.16 Diolchodd y Prif Weinidog i'r swyddogion am y cyflwyniad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet