Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Diane Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi ei gyhoeddi yn gynharach y diwrnod hwnnw. Roedd y ddeddfwriaeth yn ymrwymiad sylweddol gan y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio a oedd â'r nod o greu Senedd fodern, sy'n gallu cynrychioli pobl yng Nghymru yn well, gyda mwy o allu i graffu, gwneud cyfreithiau, a dwyn y llywodraeth i gyfrif.

Cyhoeddiad gan Tata Steel

2.2 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyhoeddiad diweddar ar y cyd gan Tata Steel a Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gwneud dur ffwrnais bwa trydan o'r radd flaenaf ar safle Port Talbot, gyda buddsoddiad cyfalaf o £1.25bn gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU o hyd at £500m. Byddai'r trawsnewidiad yn cynnwys ailstrwythuro busnes presennol Tata Steel UK wedi'i ddilyn gan fuddsoddiad yn y dechnoleg bwa trydan, a fyddai'n lleihau 50m tunnell o garbon ar allyriadau uniongyrchol safle Port Talbot dros ddegawd a sicrhau cynhyrchu dur hirdymor.

2.3 Er hynny, roedd yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hepgor o'r trafodaethau ac yn rhwystredigaeth na chytunwyd yn gynharach ar y cytundeb, a allai fod wedi arwain at drawsnewidiad hirach a thecach, yn enwedig i'r gweithlu.

2.4 Roedd Gweinidog yr Economi wedi ymweld â safle Port Talbot yn gynharach y diwrnod hwnnw ac wedi cyfarfod â’r Undebau Llafur ac fe fyddai cyfarfod pellach yr wythnos honno. Roedd cryn bryder am yr effaith ar y swyddi ym Mhort Talbot, y llyfr archebu, a'r goblygiadau ar gyfer cyfleusterau Tata i lawr y gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Roedd hefyd yr effaith bosibl ar y gadwyn gyflenwi a'r economi ehangach. Er gwaethaf y goblygiadau i'r gymuned leol, byddai angen ystyried yr effaith ar weithgynhyrchu ehangach yng Nghymru a'r Porthladdoedd.

Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth 

2.5 Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wrth y Cabinet fod dwy ysgol arall wedi dod o hyd i Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn eu hadeiladau, gan ddod â'r cyfanswm i hyd at bedair ysgol o'r fath yng Nghymru. Roedd cam un o'r broses o nodi RAAC yn dirwyn i ben, gydag adroddiadau'n dod i law oddi wrth bob Awdurdod Lleol yng Nghymru, ac ni chanfuwyd bod gan unrhyw ysgolion eraill RAAC. Roedd cam dau o'r broses ar y gweill, lle'r oedd swyddogion yn craffu ar y ffurflenni i nodi unrhyw waith arolygu pellach yr oedd ei angen. Roedd disgwyl i hyn gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr.

2.6 O ran sefydliadau addysg eraill, hyd yn hyn, dim ond un coleg Addysg Bellach oedd wedi nodi RAAC, mewn un adeilad o fewn ystad Caerdydd a'r Fro, ac roedd Prifysgolion Caerdydd a Bangor wedi cymryd camau i ynysu'r adeiladau yr effeithiwyd arnynt ar eu hystadau. Roedd gwaith yn parhau yn y ddau sector i nodi unrhyw adeiladau eraill yr effeithiwyd arnynt gan RAAC.

Terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya

2.7 Nododd y Cabinet fod y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl yng Nghymru wedi dod i rym ddydd Sul.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 6pm ar ddydd Mawrth a 5:55pm ar ddydd Mercher.

3.2 Nododd y Gweinidogion y byddai Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael ei gyflwyno i'r Senedd y diwrnod canlynol, ac wedyn y byddai Datganiad Llafar ar Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ddydd Mawrth 3 Hydref. Roedd y Bil diweddarach yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, a oedd yn bwysig o gofio bod ymchwil ddiweddar gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod bron i 400,000 o bobl ledled Cymru naill ai wedi'u cofrestru'n anghywir i bleidleisio neu eu bod ar goll yn llwyr o'r rhestr etholiadol.

Eitem 4: Cynllun Arbedion yn ystod y flwyddyn a'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol (23-24)04

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a ofynnodd i'r Cabinet gadarnhau newidiadau i gyllidebau MEG ar gyfer 2023-24 ac i roi'r arbedion a nodwyd ym mhob portffolio ar waith.

4.2 Roedd lefel yr arbedion y mae eu hangen i liniaru'r pwysau ariannol yn 2023-24 wedi'i nodi. Roedd hwn wedi bod yn ymarfer cymhleth a gwblhawyd mewn amserlen heriol dros doriad yr haf. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y dull cydweithredol a hyblyg a ddefnyddiwyd gan y Gweinidogion a'u swyddogion.

4.3 Er hynny, roedd y risgiau sylweddol o ran cyflawni cyllideb gytbwys yn parhau.

4.4 Roedd y Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad llafar i'r Senedd yn cyfleu'r newidiadau lefel uchel i gyllidebau ac effeithiau allweddol. Roedd dyddiad a diwyg y datganiad hwnnw yn cael eu hystyried. Gwnaeth y Gweinidog gloi drwy ddiolch i'w gydweithwyr yn y Cabinet am gwblhau'r ymarfer cymhleth mewn amserlen heriol dros doriad yr haf.

4.5 Croesawodd y Cabinet y papur a'r gwaith a wnaed i ganfod y lefel ofynnol o arbedion, wrth ystyried effaith gronnol lleihau cyllidebau a nodi opsiynau, a fyddai'n lleiaf tebygol o gael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2023