Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd) 
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS 
  • Jane Hutt AS 
  • Julie James AS 
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS 
     
  • Hannah Blythyn AS 
  • Dawn Bowden AS 
  • Julie Morgan AS 
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet 
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol 
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig 
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig 
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig 
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig   
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig 
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig 
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion) 
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet 
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cyfreithiol 
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol   
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad 
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid (eitemau 4 a 5)
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol (eitemau 4 a 5)
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitemau 4 a 5)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitemau 4 a 5) 

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 5 Chwefror.  

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

2.1 Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Partneriaethau Cymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn sgil sylw yn y cyfryngau a roddwyd i benodiad Prif Swyddog Tân dros dro. 

2.2 Yn dilyn ymyrraeth gan y Llywodraeth, a'r cyn Brif Swyddog Tân yn rhoi'r gorau i'r swydd, roedd angen i'r Comisiynwyr weithredu'n gyflym a phenodi swyddog dros dro i gyflawni'r dyletswyddau gweithredol angenrheidiol. Roedd y Comisiynwyr wedi cyfarfod ag Undeb y Brigadau Tân, a bydd ymgynghori ac ymgysylltu parhaus yn digwydd wrth iddynt symud ymlaen i recriwtio ar gyfer y swydd barhaol. Hefyd, codwyd materion yn ymwneud â phwysigrwydd cael cyngor annibynnol ar benodiadau, gan gynnwys a oedd profiad gweithredol yn ofyniad ai peidio.

Protestiadau gan Ffermwyr

2.3 Rhoddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd ddiweddariad i'r Cabinet ar y protestiadau diweddar gan ffermwyr. 

2.4 Ar hyn o bryd roedd y Llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy, rhaglen hirdymor i gefnogi'r diwydiant amaethyddol, oedd i fod i gau ym mis Mawrth. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gan y Llywodraeth, ac roedd yr Undebau Ffermio hefyd wedi cynnal eu sioeau teithiol eu hunain.

Gweithredu Diwydiannol gan Feddygon Iau

2.5 Nodwyd y byddai rhagor o weithredu diwydiannol gan feddygon iau yn digwydd yn nes ymlaen yr wythnos honno.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 6.50pm ddydd Mawrth a thua 6.10pm ddydd Mercher.  

Eitem 4: Ail Gyllideb Atodol

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y cynnwys, a nodi'r trefniadau ar gyfer yr Ail Gyllideb Atodol 2023-24. 

4.2 Roedd yr Ail Gyllideb Atodol yn caniatáu i'r Llywodraeth gysoni'r addasiadau terfynol i ddyraniadau'r gyllideb cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae'n gosod y terfynau y byddai'r alldro terfynol yn cael ei fesur yn eu herbyn.

Eitem 5: Cyllideb Derfynol 2024-25

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y dyraniadau yn y papur i'w hadlewyrchu ar lefel Prif Grwpiau Gwariant yng Nghyllideb Derfynol 2024-25. Gofynnwyd i'r Gweinidogion hefyd gytuno ar opsiwn ar gyfer y cyllid refeniw ychwanegol o £43.9m, sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i ganlyniadau canlyniadol diweddar gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2023-24, a nodi y byddai dogfennau'r Gyllideb Derfynol yn cael eu dosbarthu mewn gohebiaeth a'u cyhoeddi ar 27 Chwefror. 

5.2 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2024