Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Ken Skates AS
  • Julie James AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Lynne Neagle AS
  • Vikki Howells AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
  • Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Trysorlys Cymru

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 12 Ionawr 2026.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cyhoeddiad UDA ar Dariffau

2.1 Nododd y Cabinet fod Prif Weinidog y DU wedi ymateb yn gyhoeddus, yn gynharach y diwrnod hwnnw, i gynlluniau Arlywydd Unol Daleithiau America i orfodi tariffau mewnforio o 10% o 1 Chwefror a 25% ar 1 Mehefin ar nwyddau o’r DU a gwledydd Ewropeaidd eraill sy’n gwrthwynebu ei gynlluniau i gymryd rheolaeth o’r Ynys Las.

2.2 Byddai’r tariffau yn cael effaith anghymesur ar Gymru, lle roedd 59% o’i hallforion wedi’u bwriadu ar gyfer UDA, o’i gymharu â 32% ar gyfer y DU yn gyfan. Byddai hyn yn effeithio ar ragor na 1,000 o gwmnïau.

Institute for Government

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai’n mynd i ddigwyddiad yn yr Institute for Government yn Llundain ddydd Iau i drafod ei blaenoriaethau, y berthynas â San Steffan, etholiad y Senedd sydd ar ddod a dyfodol datganoli. Byddai’r Prif Weinidog hefyd yn mynd i nifer o sesiynau briffio ar gyfer y cyfryngau.

Busnes y Cabinet

2.4 Nododd y Cabinet y byddai’r rhan fwyaf o fusnes y diwrnod hwnnw yn canolbwyntio ar gyflawniadau’r Portffolios Gweinidogol cyn i ddatganiadau gael eu gwneud yn y Senedd y diwrnod canlynol ac, yn eithriadol felly, nid oedd unrhyw bapurau’r Cabinet ffurfiol i’w hystyried.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai’r amser pleidleisio oddeutu 6:05pm ddydd Mawrth ac oddeutu 5:55pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Diweddariad Llafar – Cyflawniad Portffolio – Hybiau Iechyd Menywod

4.1 Rhoddodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ddiweddariad i’r Cabinet ar gyflwyno Hybiau Iechyd Menywod, cyn y datganiad i’r Senedd y diwrnod canlynol.

4.2 Roedd cynnydd da wedi bod o ran y camau gweithredu yn y Cynllun Iechyd Menywod. Roedd y cynllun wedi’i ddatblygu gan y GIG ac roedd yn gyfle i gau’r bwlch rhywedd mewn meddygaeth fodern a mynd i’r afael yn briodol ag anghenion iechyd menywod.

4.3 Roedd deunyddiau wedi’u datblygu ar gyfer pobl ifanc a nyrsys ysgol i hwyluso dysgu am gyflyrau iechyd menywod. At hynny, lansiwyd Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, a fyddai’n ariannu pedwar prosiect i ddarparu arddangosiadau byd go iawn o wasanaethau a thechnoleg newydd i wella canlyniadau gofal iechyd i fenywod a merched.

4.4 Byddai’r datganiad yn canolbwyntio ar Hybiau Iechyd Menywod. Byddai’r Hybiau yn darparu dull cyfannol o ddarparu gofal iechyd i fenywod, gan ddod â gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid lleol ynghyd i ddarparu gwasanaethau iechyd integredig, gan weithredu fel rhyngwyneb rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Byddai’r hyblygrwydd o fewn y ddarpariaeth yn golygu y byddai’r Hybiau yn edrych yn wahanol ym mhob ardal, i helpu’r Byrddau Iechyd i ymateb i anghenion lleol, ond byddai pob un ohonynt yn cyflawni yn unol â chanllaw gweithredu y cytunwyd arno.

4.5 Erbyn dechrau mis Mawrth, byddai Hybiau Braenaru yn darparu gwasanaethau ar draws yr holl fyrddau iechyd. Serch hynny, byddai gwasanaethau yn dechrau cael eu darparu drwy’r Hybiau yr wythnos honno mewn rhai rhannau o Gymru, a dros yr wythnosau nesaf byddai rhagor o wasanaethau yn cael eu darparu, gan gynnwys darpariaeth arbenigol gan feddygon teulu ar gyfer gofal y menopos, ffisio y pelfis a chlinigau atal cenhedlu.

4.6 Roedd cynnydd hefyd wedi’i wneud o ran uwchsgilio’r gweithlu ym maes iechyd menywod, ac roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru hefyd yn datblygu hyfforddiant a fyddai’n hygyrch i holl staff y GIG drwy’r porth neilltuedig. Ymhellach at hynny, roedd gwerthusiad wedi’i gomisiynu i ystyried y ffordd orau o ddatblygu a sefydlu’r model yng Nghymru.

Eitem 5: Diweddariad Llafar – Cyflawniad Portffolio – Cymru Greadigol

5.1 Rhoddodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ddiweddariad i’r Cabinet ar y corff Cymru Greadigol a’i gyfraniad at dwf y diwydiannau creadigol a’i effaith arnynt, cyn y datganiad i’r Senedd y diwrnod canlynol.

5.2 Roedd yr wythnos honno yn nodi chwe blynedd ers sefydlu Cymru Greadigol. Byddai’r datganiad yn tynnu sylw at dwf y diwydiant, yr effaith, ynghyd â’r gydnabyddiaeth ryngwladol o’r sectorau a’r gweithgareddau, a hyn oll yn cael ei gefnogi’n uniongyrchol gan y corff Cymru Greadigol. Roedd hyn yn cynnwys trosiant o £1.7bn yn 2024, cynnydd o 12.6% ar 2023 ac enillion diwylliannol ehangach.

5.3 Er enghraifft, roedd 70 o gynyrchiadau ffilm a theledu wedi cael eu cefnogi ers ei lansiad. Roedd y buddsoddiad o £33.8m wedi cynhyrchu gwariant Cymreig o £419m ac wedi helpu i wella gwelededd cynyrchiadau Cymreig yn fyd-eang, gan gynnwys rhai yn y Gymraeg. Roedd y cymorth i’r sector gemau sy’n tyfu’n gyflym wedi cael ei gynyddu, yn dilyn llwyddiannau mawr i Wales Interactive. At hynny, roedd Rocket Science eisoes wedi cyrraedd ei darged o gyflogi 50 o bobl, a hynny cyn amser.

5.4 Roedd mwy na £1.3m wedi’i fuddsoddi yn y sector cerddoriaeth, gan gynnwys £700,000 ar gyfer lleoliadau llawr gwlad, gan ddiogelu mannau hanfodol ar gyfer datblygiad artistiaid.

5.5 Datblygu sgiliau oedd un o’r prif flaenoriaethau, ac roedd y Llywodraeth wedi cynnig 580 o leoliadau â thâl lefel mynediad ac uwchsgilio i hyfforddeion a phrentisiaethau ar gynyrchiadau a ariennir ers 2020. Yn ogystal, roedd y Gronfa Sgiliau Creadigol wedi cefnogi 34 o brosiectau hyfforddi sy’n darparu hyfforddiant pwrpasol i unigolion a chwmnïau ar draws y sectorau â blaenoriaeth. Ymhellach at hynny, roedd cydweithrediad parhaus â phartneriaid, megis National Film and Television School Cymru, Culture Connect Wales a Cult Skills, sy'n cael ei arwain gan undebau, i wella sgiliau, iechyd meddwl a chymorth llesiant ar draws y sector.

5.6 Roedd fforwm partneriaeth gymdeithasol wedi’i sefydlu hefyd i sicrhau ymgysylltu rheolaidd ac adeiladol rhwng y Llywodraeth, cyflogwyr ac Undebau Llafur y sector diwylliant a chreadigol.

5.7 Roedd yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi ddiweddar a’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig wedi arddangos y diwydiannau creadigol ar waith yng Nghymru a’u heffaith ar yr economi ac ar gymunedau fel ei gilydd.

5.8 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 6: Diweddariad Llafar – Cyflawniad Portffolio – Gwella Mynediad at gymorth ariannol

6.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ddiweddariad i’r Cabinet ar raglenni Llywodraeth Cymru ar gyfer manteisio i’r eithaf ar incwm cyn y datganiad i’r Senedd y diwrnod canlynol.

6.2 Roedd gwella mynediad at gymorth ariannol i bobl ledled Cymru yn flaenoriaeth allweddol gan y Llywodraeth, megis sicrhau bod pobl yn hawlio’r hyn a oedd yn ddyledus iddynt, drwy’r ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi. Hyd yn hyn, roedd 90,000 o bobl wedi ymateb i’r ymgyrch, ac roedd llawer o’r rhain wedi sicrhau incwm ychwanegol nad oeddent yn gwybod y gallent ei hawlio.

6.3 At hynny, lleihau costau a gwneud y gorau o incwm aelwydydd oedd amcan cyntaf y Strategaeth Tlodi Plant. Drwy gydol y Senedd bresennol, roedd y pwyslais wedi bod yn glir o ran mynd i’r afael â stigma, codi ymwybyddiaeth, rhoi mynediad i bobl at gyngor a’i gwneud yn haws i bobl gael yr hyn y mae hawl ganddynt iddo o ran budd-daliadau Cymru. Drwy fabwysiadu Siarter Budd-daliadau Cymru, roedd awdurdodau lleol yn gweithredu newid pwysig mewn diwylliant tuag at system sy’n seiliedig ar hawliau.

6.4 Mae’r Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl, a lansiwyd ym mis Rhagfyr, yn rhoi blaenoriaeth i fanteisio i’r eithaf ar incwm ar gyfer pobl anabl. Roedd y Llywodraeth yn darparu taliad o £100 i aelwydydd sy’n cael Gostyngiad Band i Bobl Anabl a oedd hefyd yn derbyn cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sy’n seiliedig ar brawf modd. Cynlluniwyd y taliad hwn yn unol â Siarter Budd-daliadau Cymru, ac nid yw’n gofyn am ddarparu unrhyw ffurflenni cais na dogfennau i brofi cymhwysedd. Roedd yr awdurdodau lleol yn defnyddio data presennol i wneud taliadau yn uniongyrchol i aelwydydd cymwys.

6.5 Gan weithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), roedd egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru yn cael eu gwneud yn cael eu sefydlu yn rhan annatod o weinyddu budd-daliadau Cymru, gan wneud y system yn fwy cydlynol ac yn un sy’n canolbwyntio mwy ar y person. Roedd y gwaith hwn yn cael ei ysgogi gan grŵp llywio o arbenigwyr, ac roedd cynnydd yn cael ei wneud tuag at ddull ‘adrodd eich stori unwaith’ pan fydd awdurdodau lleol yn pennu hawl o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y cynllun Prydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol.

6.6 Roedd y Llywodraeth hefyd wedi ariannu cynllun peilot lle defnyddiodd deuddeg awdurdod lleol i ddefnyddio offeryn dadansoddi LIFT Policy in Practice ar eu setiau data incwm i nodi preswylwyr a oedd ar eu colled a’u hannog i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt. Hyd yn hyn, roedd yr awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi cynnal 47 o ymgyrchoedd manteisio ar fudd-daliadau, gan dargedu dros 20,000 o aelwydydd ledled Cymru.

6.7 Roedd y Gronfa Gynghori Sengl wrth wraidd y gwaith gwneud y mwyaf o incwm, ac roedd pob person sy’n defnyddio un o’r gwasanaethau yn cael cynnig gwiriadau manteisio i’r eithaf ar incwm. Ers 2020, roedd y gwasanaethau wedi helpu pobl i hawlio £213m o incwm ychwanegol.

6.8 Roedd y Llywodraeth hefyd yn ariannu’r rhaglen hyfforddiant Dangos i helpu gweithwyr y rheng flaen i gefnogi pobl i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt. Roedd mwy na 7,000 o weithwyr y rheng flaen wedi cwblhau’r hyfforddiant.

6.9 Roedd manteisio i’r eithaf ar incwm yn ymdrech barhaus, o ystyried bod amgylchiadau pobl yn newid, gan effeithio ar eu hawl.

6.10 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 7: Diweddariad Llafar – Cyflawniad Portffolio – Diogelwch Tomenni Glo

7.1 Rhoddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ddiweddariad i’r Cabinet ar weithredu Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir 2025, cyn y datganiad i’r Senedd y diwrnod canlynol.

7.2 Yr wythnos flaenorol, cyhoeddwyd dyraniadau o dros £80m ar gyfer 10 awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, i gefnogi’r gwaith ar fwy na 400 o domenni ledled Cymru. At hynny, gyda £143 miliwn wedi’i ymrwymo gan Lywodraeth y DU, ynghyd â’r cyllid gan Lywodraeth Cymru, roedd mwy na £230 miliwn bellach wedi’i sicrhau ar gyfer diogelwch tomenni glo ledled Cymru, gan adlewyrchu’r cyfrifoldeb a rennir dros y mater etifeddiaeth hwn. Er mwyn cefnogi cyflawni’n gyflym, roedd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu drwy fodel grant amlflwyddyn, pedair blynedd, gan roi sicrwydd i awdurdodau lleol ar gyfer cynllunio a chyflawni cynlluniau cymhleth.

7.3 Diogelwch y cyhoedd oedd y brif flaenoriaeth o hyd. Ers 2020, roedd trefniadau monitro tomenni glo nas defnyddir, a gwaith cynnal a chadw arnynt wedi’u cryfhau’n sylweddol. Roedd rhagor na 3,000 o arolygiadau wedi’u cwblhau drwy raglen gynhwysfawr a ariannwyd gan y Llywodraeth ac a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. Roedd y gyfundrefn hon yn sicrhau bod risgiau yn cael eu nodi’n gynnar a bod gwaith cynnal a chadw ac adfer angenrheidiol yn cael ei wneud yn brydlon. Yn hollbwysig, nid oedd unrhyw faterion yr oedd angen mynd i’r afael â hwy ar unwaith o ran sefydlogrwydd safleoedd wedi’u nodi yn dilyn y digwyddiadau storm difrifol ddiwedd y llynedd, ac nid oedd unrhyw faterion wedi’u nodi hyd yma ar arolygiadau’r gaeaf presennol.  

7.4 Roedd cynnydd sylweddol yn cael ei wneud o ran rhoi’r strwythurau, y systemau a’r adnoddau sydd eu hangen ar waith er mwyn i’r Awdurdod fod yn gwbl weithredol erbyn 1 Ebrill 2027, gyda Fiona Jones wedi’i phenodi yn Gadeirydd cyntaf yr Awdurdod. Yn swyddfa Merthyr Tudful y byddai’r Awdurdod yn cael ei leoli. Roedd y broses o benodi’r Prif Swyddog Gweithredol ar y gweill, ac roedd disgwyl i’r penodiad gael ei wneud yn y gwanwyn.

7.5 Roedd y Llywodraeth yn adeiladu capasiti’r gweithlu drwy bartneriaethau cryf a gyda phwyslais clir ar gyfer cyflawni, sy’n cyfuno recriwtio ar unwaith â llif sgiliau cynaliadwy. Gan weithio gyda mentrau fel Talent Beyond Boundaries, rhaglenni cyflogaeth y lluoedd arfog, CLlLC a MEDR, roedd llwybrau clir yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi ac adeiladu gwydnwch yn y sector ar gyfer y dyfodol.

7.6 Roedd cynllun peilot a ariennir gan y Llywodraeth, y Cynllun Lleoliadau Peirianneg Amgylcheddol, a gyflwynwyd gan CLlLC, yn creu llif o dalent newydd i mewn i’r proffesiwn. Roedd chwe lleoliad yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd, gan gynnig profiad ymarferol mewn rheoli perygl llifogydd ac adfer safleoedd mwyngloddio. Er ei fod yn dal i fod yn y camau cynnar, roedd y cynllun wedi bod yn hynod boblogaidd, ac roedd y galw yn rhagori ar nifer y lleoedd sydd ar gael.

7.7 Roedd systemau cadarn yn hanfodol i’r Awdurdod allu gweithredu’n effeithiol o’r diwrnod cyntaf. Roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod y systemau a’r canllawiau TG angenrheidiol ar waith. Gofynnwyd i ddau ddarparwr gwasanaethau TG arbenigol ddatblygu’r systemau meddalwedd graidd sydd eu hangen i gyflawni ei swyddogaethau.

7.8 Roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu galluogwyr statudol allweddol ar gyfer yr Awdurdod, ac roedd y canllawiau statudol a’r rheoliadau sy’n llywodraethu prosesau apelio yn y broses o gael eu drafftio a’u cymeradwyo cyn cynnal ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gyda’i gilydd, byddai’r mesurau hyn yn darparu fframwaith gweithredol clir, sy’n cydymffurfio.

7.9 Roedd y mesurau hyn yn sicrhau y byddai’r Awdurdod yn gwbl barod i gyflawni ei rôl hanfodol o’r diwrnod cyntaf, gan ddiogelu cymunedau a meithrin hyder yn y dull o fynd ati i ddiogelu tomenni.

7.10 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Eitem 8: Diweddariad Llafar – Cyflawniad Portffolio – Trafnidiaeth i bawb

8.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ddiweddariad i’r Cabinet ar ddarparu trafnidiaeth i bawb, cyn y datganiad i’r Senedd y diwrnod canlynol. Byddai’r datganiad yn nodi’r cynnydd o ran darparu system drafnidiaeth fwy diogel, tecach, a mwy fforddiadwy a chynhwysol ledled Cymru.

8.2 Roedd y cynllun peilot tocynnau bws £1 i blant a phobl ifanc eisoes wedi’i ddefnyddio ar gyfer dros ddwy filiwn o deithiau hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2025. Roedd hyn wedi helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd yr ysgol, y coleg, y gwaith a chyfleoedd hamdden am lai o gost, gan leddfu’r pwysau ar deuluoedd ar adeg heriol.

8.3 Cafodd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ei basio gan y Senedd ar 9 Rhagfyr 2025. Roedd y Bil yn darparu pwerau newydd i ddylunio rhwydwaith bysiau mwy dibynadwy, atebol, sydd wedi’i dargedu’n benodol at y cyhoedd sy’n ymateb i anghenion cymunedau.

8.4 At hynny, roedd dros £1bn o fuddsoddiad wedi’i wneud yn Llinellau Craidd y Cymoedd a Metro De Cymru i ddarparu rhwydwaith modern, integredig, wedi’i drydaneiddio. Roedd gwaith yn mynd rhagddo dan y rhaglen i drydaneiddio 170km o drac, ac roedd 99% ohono wedi’i gwblhau. Ymhellach at hynny, roedd gweledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru wedi cyflwyno gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau newydd o fewn y 6 mis cyntaf gan sicrhau buddsoddiad hirdymor ar gyfer gwelliannau mawr a darparu gwasanaethau i Loegr. Roedd Cadeirydd trawsffiniol wedi’i benodi i oruchwylio’r cyflawni.

8.5 Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni nodau’r Llywodraeth ac roedd yn cael ei ystyried fel un o’r darparwyr rheilffyrdd gorau yn y DU.

8.6 O ran y ffyrdd, erbyn diwedd y Senedd bresennol, rhagwelwyd y byddai £118m wedi cael ei wario i atgyweirio dros 500km o ddiffygion a thyllau. Yn 2025, agorwyd rhannau 5 a 6 o’r A465, gan gwblhau’r prosiect 20 mlynedd i ddeuoli’r A465 yn gyfan o’r Fenni i Gastell-nedd. At hynny, roedd y gwelliannau i’r A40 yn Sir Benfro wedi’u cwblhau, gan wella mynediad i borthladdoedd allweddol a seilwaith masnachol yn y Gorllewin.

8.7 Roedd y gwaith gyda phob un o’r 22 o awdurdodau lleol i weithredu’r dull “y cyflymder cywir ar y ffordd gywir” wedi’i gwblhau ac roedd buddsoddiad parhaus wedi bod i ehangu llwybrau cerdded, olwyno a beicio diogel ledled Cymru. Yn 2024-25, roedd y Gronfa Teithio Llesol wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ar gyfer cynlluniau awdurdodau lleol, a thrwy hynny gefnogi seilwaith newydd a gwelliannau ledled Cymru.

8.8 At hynny, roedd mwy o ddatganoli trafnidiaeth ranbarthol a chydlynu drwy Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn darparu sylfaen ar gyfer y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol newydd, gyda dros £100m o gyllid i weithredu’r Cynlluniau yn 2026-2027.

8.9 Roedd y dull Teithio i Bawb hefyd yn arwain at gymorth ymarferol i fynd i’r afael â phryderon diogelwch, gan gynnwys cyflwyno goleuadau gwell, staff sy’n weladwy a phwyntiau cymorth newydd mewn gorsafoedd.

8.10 Croesawodd aelodau’r Cabinet y papur, gan roi ar gofnod eu diolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at gyflawni’r gwelliannau i drafnidiaeth yng Nghymru.


Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2026