Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Vikki Howells AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Julia David, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 12 Mai 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Bargen yr UE/DU

2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a oedd yn Llundain i fynychu'r Derbyniad Busnes ar gyfer Uwchgynhadledd yr UE/DU, i roi trosolwg i'r Cabinet o Fargen yr UE/DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

2.2 Roedd y Fargen yn cynnwys cytundeb i weithredu cytundeb bwyd-amaeth a fydd yn sefydlu Parth Glanweithdra a Ffytoiechydol rhwng y DU a'r UE, a allai fod o fudd sylweddol i'r sectorau amaethyddol, bwyd a diod yng Nghymru, yn enwedig o ran gwerthu cig amrwd. Byddai'n bwysig sicrhau bod y cytundeb terfynol yn cynnwys molysgiaid dwygragennog byw o ddyfroedd Cymru.

2.3 Byddai cydweithio agosach yn digwydd i gysylltu systemau masnachu, allyriadau, ac ynni, a fyddai'n creu cyfleoedd i ddiwydiannau Cymru, yn enwedig gyda hydrogen a dal carbon, tra'n cefnogi'r nodau ar gyfer twf gwyrdd a swyddi gwyrdd. Byddai cwotâu dur gwell, ynghyd â mynediad at offeryn ariannu ailarfogi newydd yr UE gwerth €150bn a allai fod o fudd i fusnesau yng Nghymru.

2.4 Byddai dinasyddion y DU hefyd yn elwa o'r defnydd o e-gatiau i aelod-wladwriaethau'r UE, unwaith y byddai awdurdodiadau teithio electronig yr UE yn weithredol.

2.5 Roedd gwaith i gytuno ar gynllun symudedd ieuenctid yn parhau, gyda'r posibilrwydd o ganiatáu i bobl ifanc o'r DU ymuno ag Erasmus+, ynghyd â thrafodaethau pellach ar fynediad ac arosiadau dros dro at ddibenion busnes, a chydnabod cymwysterau proffesiynol.

2.6 Croesawodd y Cabinet y cyhoeddiadau.

Cyfarfod Cyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau

2.7 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai yn Llundain ddiwedd yr wythnos ar gyfer ail gyfarfod Cyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau. Byddai hyn yn cynnwys cyfarfod Penaethiaid Llywodraeth gyda'r Prif Weinidog, Prif Weinidogion eraill, a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Hefyd, byddai cyfarfod dwyochrog gyda Phrif Weinidog y DU.

Amseroedd Aros y GIG

2.8 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar amseroedd aros diweddaraf y GIG. Roedd yr arosiadau 104 wythnos wedi gostwng i 8,389 erbyn diwedd mis Mawrth, a oedd yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog. Y ffigurau diagnosteg oedd yr isaf yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:30pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2025