Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Lesley Griffiths AS (2 Rhagfyr)
  • Julie James AS (6 Rhagfyr)

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd
  • Fliss Bennee, Cydgadeirydd TAC
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gyflawni'r GIG
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn wedi COVID-19
  • Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Tystysgrifau COVID
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Dydd Iau 2 Rhagfyr

Eitem 1: Diweddariad ar COVID-19 a'r amrywiolyn newydd

1.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Cabinet mai diben y cyfarfod oedd rhoi arweiniad i swyddogion cyn y papur ffurfiol ar yr adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5), a oedd wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos ddilynol.

1.2 Roedd y papur briffio yn amlinellu rhai rhagofalon arfaethedig gyda'r nod o arafu twf yr amrywiolyn newydd, Omicron. Roedd hefyd yn awgrymu dull o weithredu COVID Brys, pe bai angen cyflwyno mesurau llymach i atal trosglwyddiad y feirws a lleddfu'r pwysau ar y GIG.

1.3 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

1.4 Gwahoddodd y Prif Weinidog swyddogion o’r Adran Iechyd i roi diweddariad i’r Cabinet ar ledaeniad COVID-19 ac yn benodol, Omicron.

1.5 Adroddodd y Prif Swyddog Meddygol fod y don Delta fel petai’n gwastatáu. Roedd gostyngiad mewn trosglwyddo cymunedol, a oedd yn cael ei adlewyrchu mewn derbyniadau i'r ysbyty. Fodd bynnag, roedd cwestiynau o hyd ynghylch a oedd y DU ar ei hôl hi neu ar y blaen o ran y cynnydd mewn achosion a oedd yn cael ei brofi ar dir mawr Ewrop.

1.6 Er bod nifer bach o achosion Omicron yn y DU, roedd y rhain yn cynyddu. Nid oedd unrhyw achosion yng Nghymru o hyd. Byddai'r gweithdrefnau sydd ar waith, y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu a gofynion hunanynysu newydd, yn helpu i arafu trosglwyddiad yr amrywiolyn newydd, a fyddai'n rhoi amser i asesu'r risg. Roedd posibilrwydd y byddai’n amrywiolyn sy’n dianc rhag effaith brechlyn ac y byddai cyfraddau heintio uwch, ond roedd cwestiynau o hyd am y niwed a achosir gan yr amrywiolyn newydd.

1.7 Dywedodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd wrth y Cabinet y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o Omicron yn Ne Affrica, yn enwedig yn Nhalaith Gauteng, a oedd yn adrodd 3,000 o achosion newydd y dydd. O ran y DU, roedd arwyddion cynnar y gallai achosion ddechrau cynyddu yn Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

1.8 Roedd y papur briffio yn amlinellu opsiynau amgen ar gyfer cryfhau'r ymateb presennol i'r bygythiad posibl yn sgil Omicron, wrth gydnabod y cyd-destun sefydlog o ran iechyd y cyhoedd a gwella pwysau COVID ar y GIG.

1.9 Cytunodd y Cabinet y dylid annog pawb, hyd yn oed y rhai a oedd wedi’u brechu'n llawn, i wneud prawf llif unffordd (LFT) mor agos â phosibl i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, ymgynnull mewn mannau prysur neu ymweld â phobl, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed. Awgrymwyd y dylid adolygu cynlluniau i ymestyn y defnydd o'r Pàs COVID.

1.10 Cytunodd y Gweinidogion y dylid diwygio'r rheoliadau i sicrhau ei bod yn glir y dylai pobl wisgo gorchudd wyneb mewn sinemâu a theatrau, oni bai eu bod yn bwyta neu’n yfed. Ni ddylai fod unrhyw ofynion cyfreithiol i wisgo gorchuddion o'r fath mewn lleoliadau lletygarwch ar hyn o bryd, fodd bynnag, dylid annog pobl i'w gwisgo pan nad ydynt yn bwyta neu’n yfed.

1.11 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion a chyfarwyddo cyfreithwyr yn unol â hynny.

Dydd Llun 6 Rhagfyr

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn ceisio arweiniad ar gyfnod adolygu presennol Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5). Gyda'r lefel uchel o ansicrwydd ynghylch Omicron, byddai’r Gweinidogion yn ystyried y papur yn gyntaf yng nghyd-destun yr amrywiolyn amlycaf presennol, Delta. Byddai hyn yn cael ei ddilyn gan friff yn ddiweddarach yn y cyfarfod ar yr amrywiolyn newydd.

3.2 O ystyried yr angen i'r Llywodraeth allu ymateb yn gyflym i'r sefyllfa sy'n datblygu, byddai'r rheoliadau bellach yn cael eu hadolygu ar gylch wythnosol. Yn ogystal â hyn, byddai'r Cabinet yn cyfarfod eto ddydd Mercher i asesu a fyddai angen ailedrych ar y penderfyniadau a wneir yn y cyfarfod hwn, o gwbl, yn sgil unrhyw dystiolaeth newydd.

3.3 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

3.4 Roedd y papur yn amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd, a oedd yn awgrymu gwelliant graddol ers y dydd Iau blaenorol a bod achosion o COVID-19 yn parhau i ostwng ledled Cymru. Roedd pwysau COVID ar y GIG hefyd yn lleihau. Felly, cytunodd y Cabinet fod y rheoliadau'n parhau i fod yn angenrheidiol ac yn gymesur ar y cyfan fel ymateb iechyd y cyhoedd i'r bygythiad presennol a achosir gan y Coronafeirws, yn amodol ar unrhyw gryfhau yr oedd y Gweinidogion yn ei ystyried yn angenrheidiol i arafu lledaeniad Omicron.

3.5 Cadarnhaodd y Cabinet fod angen mynd ati i hyrwyddo'r defnydd o Brofion Llif Unffordd o fewn 24 awr ar gyfer pob sefyllfa lle byddai person yn cymysgu. Byddai hyn yn cynnwys gweithgareddau cymdeithasol neu wrth gwrdd ag eraill, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed, ac ymweld â mannau prysur dan do, waeth beth fo'u statws brechu a hyd yn oed pe bai angen Pàs COVID. Dylid gwneud profion hefyd cyn teithio’n ôl ac ymlaen i rannau eraill o Gymru neu'r DU ac wrth weithio mewn swyddfa. Ar ben hynny, dylai pob dysgwr dros 11 oed a phob aelod o staff mewn lleoliadau addysg hefyd wneud profion o'r fath.

3.6 Cytunodd y Gweinidogion y dylid diwygio'r canllawiau a'r ohebiaeth ddilynol i hyrwyddo mwy o ddefnydd o Brofion Llif Unffordd.

3.7 Dylid diweddaru'r canllawiau hefyd, gyda gohebiaeth i randdeiliaid yn gofyn iddynt annog cwsmeriaid i wisgo gorchudd wyneb pan nad ydynt yn bwyta ac yfed mewn lleoliadau lletygarwch. Yn ogystal â hyn, roedd yn bwysig sicrhau bod pobl yn gwisgo'r math cywir o orchudd wyneb.

3.8 Cadarnhaodd y Gweinidogion y dylid newid y rheoliadau hefyd i egluro nad yw awditoriwm theatr, sinema neu neuadd gyngerdd ynghyd â neuaddau gwylio arena neu stadiwm dan do yn cael eu trin fel safleoedd lle gwerthir bwyd a diod.

3.9 Roedd yn bwysig adolygu'r penderfyniadau hyn yn fanwl.

3.10 Trodd y Cabinet at gynllunio ar gyfer COVID Brys a chydnabu, oni bai bod cymorth ariannol ar gael gan Lywodraeth y DU, y byddai'r niwed economaidd o symud i Lefel Rhybudd 4 yn llawer mwy nag mewn tonnau blaenorol.

3.11 Cytunodd y Gweinidogion mewn egwyddor, pe bai risg y gallai'r GIG gael ei lethu gan achosion COVID, y dylai Lefel Rhybudd 4 fod yn sail i ymateb y Llywodraeth. Cadarnhawyd na ddylid cynnwys cau trafnidiaeth gyhoeddus a chyrffyw yn ystod y nos mewn cynlluniau ar gyfer Lefel Rhybudd 4 ar hyn o bryd, ond dylid adolygu hyn yn gyson.

3.12 Pe bai COVID Brys yn cael ei weithredu, dylai rheolau hunanynysu ddychwelyd i'r gofynion blaenorol, a byddent yn berthnasol i bob cyswllt, waeth beth fo'u hoedran neu eu statws brechu.

3.13 Cadarnhaodd y Gweinidogion y dylai ysgolion a chyfleusterau gofal plant aros ar agor cyn hired â phosibl o dan COVID Brys a byddai addysg yn symud ar-lein dim ond os oedd amgylchiadau a thystiolaeth newydd yn gofyn am newidiadau o'r fath.

3.14 Trodd y Prif Weinidog at y paratoadau ar gyfer ymateb i Omicron a gwahoddodd swyddogion iechyd i roi diweddariad i’r Cabinet ar yr hyn a oedd yn hysbys am yr amrywiolyn newydd.

3.15 Adroddodd y Prif Swyddog Meddygol fod Omicron yn lledaenu'n gyflym ledled y byd ac y gallai ddod yn amrywiolyn amlycaf. De Affrica oedd â'r nifer uchaf o achosion, gyda'r DU yn adrodd yr ail gyfradd heintio uchaf. Ar hyn o bryd roedd 261 o achosion yn Lloegr, 71 yn yr Alban a 4 yng Nghymru, gyda thystiolaeth glir o drosglwyddo cymunedol, yn enwedig drwy ddigwyddiadau lle heintir llawer.

3.16 Roedd dadansoddiad diweddar yn awgrymu y gallai'r amser rhwng cyswllt a haint fod yn fyrrach ac roedd yn ymddangos bod nifer yr achosion yn dyblu bob tri i bedwar diwrnod. O ran niwed, nid oedd yn hysbys o hyd a fyddai Omicron yn arwain at salwch mwy difrifol neu a fyddai’n dianc rhag effaith brechlyn. Felly, byddai'n bwysig monitro cyfraddau achosion a sut yr oeddent yn effeithio ar dderbyniadau i'r ysbyty.

3.17 Ychwanegodd Cydgadeirydd TAC, hyd yn oed pe bai cyfradd y niwed yn sgil Omicron yn ddim llai na’r amrywiolyn Delta, oherwydd ei fod yn fwy trosglwyddadwy, byddai'r cynnydd dilynol mewn achosion yn arwain at bwysau ychwanegol ar y GIG. Ar ben hynny, byddai gostyngiad bach yn effeithiolrwydd y brechlynnau hefyd yn arwain at fwy o bobl yn mynd i ysbytai. Hyn oll ar adeg pan oedd y GIG yn delio â phwysau heriol arferol y gaeaf.

3.18 Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglen Gyflawni'r GIG wrth y Cabinet fod achosion a chyfraddau positifedd profion yn codi'n gyflymach yn Nhalaith Gauteng, De Affrica nag mewn tonnau blaenorol. Roedd derbyniadau i’r ysbyty yn cynyddu’n sylweddol ac roedd yn ymddangos bod y rhai y mae angen ocsigen arnynt yn codi'n gyflymach na’r don Delta.

3.19 Cadarnhaodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd fod angen mwy o dystiolaeth er mwyn gwybod beth yw gwir effaith Omicron ac y gallai hyn ddod i'r amlwg dros y saith diwrnod nesaf.

3.20 Nododd y Gweinidogion ei bod yn bwysig cynyddu'r negeseuon am fygythiad a niwed posibl yr amrywiolyn newydd, wrth ofyn i bobl gymryd mwy o ragofalon dros gyfnod y Nadolig.

3.21 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion a chyfarwyddo cyfreithwyr yn unol â hynny.

Dydd Mercher 8 Rhagfyr

1.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod yn debygol y byddai Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'n ddiweddarach y diwrnod hwnnw ei bod yn cyflwyno gweddill elfennau ei Chynllun B COVID, mewn ymateb i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref, lle bo hynny'n bosibl, a chyflwyno pasbort COVID i gael mynediad i leoliadau penodol yn Lloegr.

1.2 O ystyried y datblygiadau hyn, cytunwyd y byddai angen i’r Gweinidogion gael trafodaeth bellach am oblygiadau cynlluniau Llywodraeth y DU pan fyddai’r wybodaeth ar gael. Yn y cyfamser, byddai angen i swyddogion ystyried ai nawr oedd yr amser i ymestyn y defnydd o'r Pàs COVID i leoliadau lletygarwch.

1.3 O ran Omicron, cadarnhaodd gwybodaeth ddiweddar gan SAGE fod disgwyl i gyfraddau heintio dyfu'n gyflymach na Delta, yn enwedig o ystyried ei fod yn ymddangos yn fwy trosglwyddadwy drwy ledaeniad aerosol, a allai gael goblygiadau sylweddol i leoliadau caeedig, megis clybiau nos a champfeydd.

1.4 Roedd gan yr amrywiolyn y gallu i ddianc rhag effaith brechlynnau ond nid oedd yn glir eto pa mor ddifrifol fyddai symptomau. Roedd heintiau diweddar yn Lloegr wedi'u holrhain i gynulliadau bach, gan ddarparu tystiolaeth bellach o drosglwyddo cymunedol.

1.5 Awgrymwyd y gallai nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty yn sgil yr amrywiolyn Omicron gyrraedd o leiaf 1,000 y dydd yn Lloegr erbyn diwedd y flwyddyn.

1.6 Felly, yn ogystal â'r mesurau sydd eisoes wedi'u cynllunio ar gyfer dydd Gwener, dylid cyhoeddi mesurau diogelu pellach. Byddai angen cyflwyno rhagofalon ychwanegol i staff, yn enwedig wrth ymweld â nifer o safleoedd, a'r rhai sy'n ymweld â chartrefi gofal ac ysbytai. Byddai pobl yn cael eu hannog i wneud Profion Llif Unffordd cyn teithio, yn enwedig myfyrwyr sy'n dychwelyd adref o'r Brifysgol. Ar ben hynny, byddai angen canllawiau i annog pobl i gael gorchuddion wyneb o ansawdd gwell. Awgrymwyd y dylid ystyried caffael stociau i'w dosbarthu i'r cyhoedd.

1.7 Ar hyn o bryd, yn ogystal â'r newidiadau y cytunwyd arnynt ar 6 Rhagfyr, dylid gwneud un newid pellach i'r rheoliadau i wneud gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol yn ystod gwersi gyrru proffesiynol a phrofion ymarferol.

1.8 Dylai naws y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener fod yn ddifrifol gyda rhybuddion clir y dylai pobl ddisgwyl cyfyngiadau pellach cyn y Nadolig.

1.9 O ystyried y sefyllfa sy'n symud yn gyflym, cytunodd y Gweinidogion na fyddai'n ddoeth nodi bod y mesurau ychwanegol a gadarnhawyd hyd yma yn ddigonol ar gyfer yr wythnos ddilynol. Gofynnir i swyddogion iechyd friffio'r Cabinet ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran iechyd y cyhoedd ddydd Llun. Byddent wedyn yn cynhyrchu nodyn ar gyfer cyfarfod adolygu’r Cabinet sydd wedi’i drefnu ar gyfer y dydd Iau dilynol.

Dydd Iau 9 Rhagfyr

1.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef, ynghyd â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi mynychu cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol y prynhawn blaenorol. Yn y cyfarfod hwnnw, cadarnhawyd y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno gweddill mesurau ei Chynllun B Rheoli COVID ar gyfer Lloegr, a fyddai'n debyg i'r cyfyngiadau sydd eisoes ar waith yng Nghymru.

1.2 Roedd grwpiau technegol yn cyfarfod y diwrnod hwnnw i asesu difrifoldeb Omicron ac roedd disgwyl data ar y derbyniadau i’r ysbyty yn Lloegr, yn enwedig ardal Llundain, yr wythnos ddilynol.

1.3 O ystyried y gofyniad i bobl weithio gartref, cadarnhawyd y byddai’r Gweinidogion yn mynychu'r Senedd yn rhithiol yr wythnos ddilynol.

1.4 Cytunwyd y dylai swyddogion gymryd sylwadau'r Gweinidogion i ystyriaeth.