Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Mick Antoniw AS
  • Lynne Neagle AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig 
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Mudith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a'r Gymraeg (eitem 3)
  • Martyn Gunter, Prif Reolwr Prosiect FOCUS (eitem 3)
  • Steffan Bryn, Cynghorydd Arbennig (eitem 3)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi fod amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 5pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Diwygio'r flwyddyn ysgol

3.1 Cyflwynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno y dylid cynnal ymgynghoriad ar strwythur y flwyddyn ysgol.

3.2 Roedd y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio yn ymrwymo'r Llywodraeth i ymchwilio i'r posibiliadau o ran diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Nod y polisi oedd ystyried strwythur presennol y flwyddyn ysgol ochr yn ochr â dewisiadau eraill er mwyn creu'r calendr mwyaf effeithiol ar gyfer helpu i liniaru'r effaith ar ganlyniadau a chynnydd addysgol y dysgwyr difreintiedig sydd ag angen cymorth. Byddai'r newidiadau arfaethedig hefyd yn cefnogi llesiant dysgwyr a staff, a byddent yn cyd-fynd â phatrymau cyfoes bywyd teuluol a chyflogaeth.

3.3 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gytuno y byddai'r newidiadau arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar ddysgwyr o deuluoedd o dan anfantais gymdeithasol ac economaidd, ac y byddent yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Byddent hefyd yn darparu mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig a dysgu ychwanegol, yr oedd gwyliau hir yr haf yn gallu bod yn adeg arbennig o aflonyddgar iddynt.

3.4 Trafododd y Gweinidogion pryd y dylid gweithredu'r cynigion, a chytunwyd y byddai'n bwysig gwneud y newidiadau cyn gynted â phosibl gan fod gwyliau hir yr haf yn mynd yn fwyfwy heriol i deuluoedd a dysgwyr difreintiedig. Cytunwyd hefyd y dylai hyn gael ei adlewyrchu yn y ddogfen ymgynghori.

3.5 Cytunodd Gweinidogion y dylai'r ymgynghoriad ddechrau ym mis Tachwedd, gyda'r ddogfen derfynol yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet er mwyn i'r aelodau gytuno arni cyn ei chyhoeddi. Ar ben hynny, dylai'r ymgynghoriad dynnu sylw at y dull gweithredu dau gam, gyda'r disgwyl y byddai'r newidiadau cyntaf yn digwydd yn 2025-2026.

3.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2023