Cyfarfod y Cabinet: 2 Mawrth 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 2 Mawrth 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS (eitema 1-3)
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS (eitemau 1-3)
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Alex Slade, Cyfarwyddwr, Iechyd Meddwl, Gofal Sylfaenol a'r Blynyddoedd Cynnar
- Emily Hole, Pennaeth Polisi Masnach – Ailosod a Gweithredu'r UE
- Huw Williams, Pennaeth Masnach a Chydweithrediad yr UE
- Kelly Morgan, Pennaeth Cyflawni Rhaglenni – Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru
- Darryn Lewis, Pennaeth Mewnfuddsoddi
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid
- Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol
- Sian Gill, Pennaeth Rheolaeth Gyllidebol a Pholisi Ariannol
Item 1: Minutes of the previous meeting
Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 23 Chwefror 2026 / Cabinet approved the minutes of 23 February 2026.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
2.1 Mynegodd y Prif Weinidog, ar ran y Cabinet, ei diolch a'i dymuniadau gorau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a oedd i fod i ddechrau ei habsenoldeb mamolaeth yn ddiweddarach yr wythnos honno.
Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod hi, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, wedi cael eu briffio yn ddiweddar am y gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol.
2.3 Roedd y Llywodraeth yn ymgysylltu'n llawn â phartneriaid i sicrhau cydlyniant cymunedol ac roedd monitro rheolaidd o unrhyw densiynau posibl o fewn cymunedau yng Nghymru.
2.4 Roedd dinasyddion Cymru yn y Dwyrain Canol yn cael eu hannog i gofrestru gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Roedd swyddfa'r Prif Weinidog yn cael ei hysbysu am ddatblygiadau parhaus.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod disgwyl i'r amser pleidleisio ddydd Mawrth ddigwydd tua 4:40pm. Byddai Cyfnod 3 Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn dilyn hyn, gyda phleidleisio'n digwydd drwy gydol y sesiwn. Roedd amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 4:30pm ddydd Mercher a byddai hyn yn cael ei ddilyn gan Gam 3 Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) dan arweiniad yr Aelod, ac eto bydd pleidleisio'n digwydd drwy gydol y sesiwn.
Eitem 4: Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru CAB(25-26)40
4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r gweithgarwch dilynol i wneud y mwyaf o effaith Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru.
4.2 Roedd hwn wedi bod yn gyfle i ddod â channoedd o uwch fuddsoddwyr i Gymru mewn un lle, ar un diwrnod, yn hytrach na dibynnu ar sgyrsiau unigol dros fisoedd neu flynyddoedd. Nid oedd gan dros hanner y cwmnïau a oedd yno bresenoldeb yng Nghymru ar hyn o bryd, a oedd yn dangos pa mor llwyddiannus y bu'r Llywodraeth wrth ddenu marchnadoedd a phenderfynwyr newydd i Gymru.
4.3 Cynhaliodd y Gweinidogion bron i 50 o gyfarfodydd dwyochrog gyda chwmnïau sydd naill ai eisoes yn buddsoddi neu'n archwilio cyfleoedd i fuddsoddi. Byddai'r lefel honno o fynediad mewn un diwrnod wedi bod yn anodd iawn i'w gyflawni trwy weithgareddau busnes arferol.
4.4 Roedd yr Uwchgynhadledd hefyd wedi rhoi arwydd cryf o hyder a phartneriaeth. Roedd arweinyddiaeth glir, ochr yn ochr â Gweinidogion Llywodraeth y DU, a oedd yn dangos bod y Llywodraeth yn gyson o ran ei dull o gefnogi buddsoddiad yng Nghymru. Fe wnaeth cyfranogiad Tywysog Cymru godi proffil rhyngwladol y digwyddiad a phroffil Cymru ymhellach.
4.5 Canolbwyntiodd yr Uwchgynhadledd ar sectorau twf â blaenoriaeth y Llywodraeth, megis ynni glân, gwyddorau bywyd, digidol a thechnoleg, gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol. Roedd cynrychiolaeth gref o'r sector ynni glân, gan adlewyrchu enw da cynyddol Cymru.
4.6 Cyhoeddwyd gwerth £16 biliwn o fuddsoddiau newydd. Roedd y rhain yn cynnwys ymrwymiadau mawr ar draws y sectorau ynni, gweithgynhyrchu uwch, seilwaith digidol a'r diwydiannau creadigol. Un enghraifft amlwg oedd cynllun Vantage Data Centers i fuddsoddi £10 biliwn ar draws De Cymru, gan greu dros 5,000 o swyddi a thrawsnewid hen safleoedd diwydiannol ar gyfer y cyfnod deallusrwydd artiffisial.
4.7 Roedd yr Uwchgynhadledd wedi rhoi pwyslais ar berthnasoedd hefyd. Roedd y rhaglen yn gyfuniad o sesiynau ar y prif lwyfan, trafodaethau sector ac Arddangosfa ar Gymru, i gyd gyda'r nod o ateb cwestiwn syml i fuddsoddwyr: 'pam Cymru'. Erbyn diwedd yr Uwchgynhadledd roedd y cwestiwn wedi newid i 'Cymru: pam ddim?', a oedd yn arwydd cadarnhaol bod Cymru'n agored i fusnes.
4.8 Roedd swyddogion bellach yn cyflwyno rhaglen ymgysylltu strwythuredig traws-Lywodraethol, gan flaenoriaethu cwmnïau sy'n newydd i Gymru a'r rhai sydd â photensial, gydag ymgysylltiad ansoddol manylach i ddeall sut roedd y cynnig yn cael ei dderbyn.
4.9 Byddai'r effaith economaidd lawn yn cymryd amser i ddod i'r amlwg, o ystyried bod penderfyniadau buddsoddi yn rhai hirdymor. Ond hyd yn oed yn y cam cynnar hwn, roedd yr Uwchgynhadledd wedi cyflawni newid sylweddol yng ngwelededd rhyngwladol Cymru ac wedi ehangu'r llif o berthnasoedd â buddsoddwyr yn sylweddol.
4.10 Roedd yr Uwchgynhadledd wedi galluogi'r Llywodraeth i gyflwyno stori hyderus, gredadwy am Gymru, ar raddfa fawr, i'r gynulleidfa gywir.
4.11 Croesawyd y papur gan y Cabinet a chofnodwyd y diolchiadau i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o baratoi a chyflwyno'r Uwchgynhadledd.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2026
