Cyfarfod y Cabinet: 2 Mehefin 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 2 Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Julia David, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Bethan Davies, Swyddfa'r Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
- Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol (eitem 4)
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 4)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod diwethaf
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 19 Mai 2025
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Cyfarfod y Cabinet yn Aberystwyth
2.1 Croesawodd y Prif Weinidog bawb i gyfarfod y Cabinet yn Aberystwyth, lle, yn gynharach y diwrnod hwnnw, roedd holl aelodau'r Llywodraeth wedi ymgymryd ag ymweliadau lleol yn canolbwyntio ar yr Economi Wledig a Thwristiaeth.
Cyfarfod Cyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau
2.2 Rhoddodd y Prif Weinidog adborth i'r Cabinet o gyfarfod Cyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau a gynhaliwyd ar 23 Mai.
Cyfarfodydd â Gweinidogion y DU
2.3 Nodwyd y byddai'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yn cwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ddydd Mercher i drafod diwygiadau lles Llywodraeth y DU. Hefyd, byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn mynychu cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddydd Mercher, a fyddai'n cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weinidog yn swyddfa Parc Cathays.
Y Tafod Glas
2.4 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i roi diweddariad ar y Tafod Glas.
2.5 Roedd y Tafod Glas yn glefyd feirysol a gludir gan fectorau, ac a drosglwyddir fel arfer rhwng anifeiliaid gan wybed brathog. Felly, roedd rheoli symudiad da byw o ardal heintiedig, fel y parth cyfyngedig yn Lloegr, yn fecanwaith allweddol ar gyfer rheoli’r clefyd, ochr yn ochr â brechu. Fodd bynnag, ar 23 Mai, cyhoeddodd Defra y byddai'n ymestyn y parth cyfyngedig presennol i gynnwys Lloegr gyfan ar 1 Gorffennaf, gan ganiatáu i dda byw sy'n agored i ddal y Tafod Glas symud heb gyfyngiadau o fewn Lloegr gyfan.
2.6 Ar hyn o bryd mae Cymru a'r Alban yn parhau i fod yn ardaloedd sy'n rhydd o'r Tafod Glas, gyda'r rhagdybiaeth arferol bod ardaloedd rhydd yn parhau i gadw'r clefyd allan am nifer o resymau, gan gynnwys iechyd a lles anifeiliaid. Mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu y byddai'r Alban, o 1 Gorffennaf, yn parhau â'i pholisi o gadw'r clefyd allan, gan ei gwneud yn ofynnol i dda byw gael prawf negyddol cyn symud, ac felly cyn dod i mewn i'r Alban i fyw.
2.7 Roedd y sefyllfa'n fwy cymhleth yng Nghymru, gan fod y diwydiant da byw yn fwy integredig, gyda thua 550 o ffermydd ar hyd y ffin.
2.8 Nid oedd arbenigwyr ar glefyd y Tafod Glas a milfeddygon yn gallu rhagweld a fyddai'r Tafod Glas yn peri effeithiau ysgafn neu ddifrifol ar iechyd, lles, cynhyrchiant neu ffrwythlondeb anifeiliaid mewn mannau lle mae llawer o dda byw, fel Cymru. O ganlyniad, roedd yn well gan filfeddygon gadw'r Tafod Glas allan.
2.9 Fodd bynnag, byddai'n well gan y sector da byw ac arwerthwyr alinio â Lloegr er mwyn osgoi'r cymhlethdodau a'r costau sy'n gysylltiedig â thrwyddedu a chynnal profion ar gyfer symud anifeiliaid dros y ffin. Roedd y diwydiant yn awyddus i gyflwyno ei achos i'r Llywodraeth ac, o ystyried hyn a'r gwahanol safbwyntiau, roedd cyfarfod bord gron, o dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Weinidog, wedi'i drefnu ar gyfer 5 Mehefin i gasglu gwybodaeth gytbwys i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol.
2.10 Ar ôl ystyried yr adborth o'r cyfarfod hwn, y nod oedd cyhoeddi polisi Tafod Glas newydd erbyn 12 Mehefin, i roi sicrwydd i fusnesau cyn i'r parth cyfyngedig i Loegr gyfan ddod i rym ar 1 Gorffennaf. Yn y cyfamser, roedd ffermwyr yn cael eu hannog i drafod brechu rhag y Tafod Glas gyda'u milfeddygon, parhau i fod yn wyliadwrus, ac adrodd am unrhyw achosion a amheuir.
Adolygiad o Amddiffyn Strategol
2.11 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i roi diweddariad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r Adolygiad o Amddiffyn Strategol a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU, a oedd yn cael ei gyhoeddi y prynhawn hwnnw.
2.12 Cyn y cyhoeddiad, roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn galwad briffio gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer y Lluoedd Arfog. Prif themâu'r Adolygiad oedd 'NATO yn gyntaf', gan symud i gyfnod o barodrwydd ar gyfer ymladd rhyfel am y tro cyntaf ers diwedd y rhyfel oer, tra'n dysgu gwersi o'r sefyllfa yn Wcráin, yn enwedig o ran defnyddio dronau a rhyfela digidol. Byddai'r dechnoleg hon yn cael ei hintegreiddio â'r gallu adnoddau dynol ar draws y tri gwasanaeth.
2.13 Byddai amddiffyn yn gweithredu fel peiriant i sbarduno twf, gyda gwariant yn cyrraedd £13bn erbyn Ebrill 2027, ac yna darged o 3% o gynnyrch domestig gros ar gyfer Senedd nesaf y DU. Fel rhan o hyn, byddai mwy o wariant ar Gwmnïau'r DU, gan geisio cyfeirio mwy tuag at weithgynhyrchu gartref, gan ysgogi swyddi a ffyniant, tra'n creu mwy o gyfleoedd allforio. Roedd cynlluniau i ddod â chwmnïau, nad ydynt fel arfer yn gysylltiedig ag amddiffyn, i mewn i hyn, gyda mwy o wariant yn mynd tuag at fusnesau bach a chanolig sy'n ymwneud â dronau a thechnolegau eraill.
2.14 Byddai dull gweithredu'n seiliedig ar y gymdeithas gyfan yn cael ei ddefnyddio wrth ymdrin ag amddiffyn, gyda mwy o wydnwch mewn seilwaith sifil, yn enwedig y seilwaith seiber a phwyslais ar bwysigrwydd galluogi pobl i symud i mewn ac allan o swyddi milwrol a sifil a chryfhau'r lluoedd wrth gefn.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan Gyflogwyr
2.15 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i roi diweddariad i'r Cabinet ar gyllid oddi wrth Lywodraeth y DU i gefnogi Cyflogwyr Sector Cyhoeddus Datganoledig gyda'r costau Yswiriant Gwladol uwch.
2.16 Roedd Llywodraeth y DU wedi rhoi £185m o gyllid ychwanegol i Gymru, a oedd yn sylweddol llai na'r £257m sydd ei angen ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig. Roedd y diffyg hwn o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn cymhwyso fformiwla Barnett i'r gost yn Lloegr, yn hytrach na thalu'r costau gwirioneddol. Byddai'r £185m yn cael ei drosglwyddo'n llawn i'r sector, a byddai Llywodraeth Cymru yn darparu £36m arall o gronfa wrth gefn Cymru, gan adael i'r sector cyhoeddus amsugno'r £36m sy'n weddill. Byddai hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda goblygiadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
2.17 Byddai Llywodraeth Cymru nawr yn wynebu heriau ariannol sylweddol trwy dynnu'r swm hwn o gronfeydd wrth gefn cyfyngedig ac, felly, byddai pwysau'n parhau i gael eu rhoi ar Lywodraeth y DU i dalu'r costau hyn yn llawn.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 7pm ddydd Mawrth a thua 5:25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Cyllideb Atodol Gyntaf 2025-26
4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2025-26. Dyma'r cyfle cyntaf i gynnig newidiadau ers i'r Gyllideb Derfynol gael ei chyhoeddi ym mis Chwefror.
4.2 Mae dau newid arwyddocaol. Roedd y cyntaf yn ymwneud ag effaith y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, fel y codwyd yn gynharach yn y cyfarfod, gyda'r ail yn ymwneud â £100m ychwanegol i gefnogi'r flaenoriaeth i leihau amseroedd aros yn y GIG. Roedd bwriad i wneud y cyhoeddiad am y cynnydd mewn gwariant iechyd ar 19 Mehefin.
4.3 Ar y cyfan, byddai DEL Cymru yn cynyddu £359m, sef refeniw a £16m o gyfalaf cyffredinol yn bennaf.
4.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2025
