Cyfarfod y Cabinet: 2 Rhagfyr 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 2 Rhagfyr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS (o eitem 4)
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS (o eitem 4)
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitemau 4 a 5)
- Thomas Nicholls, Prif Economegydd (eitem 4)
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitemau 4 a 5)
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 18 Tachwedd 2024.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Cinio'r CBI ac Uwchgynhadledd Fuddsoddi i Gymru
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod hi, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, wedi mynychu Cinio Blynyddol CBI Cymru yr wythnos flaenorol. Yn ystod y digwyddiad, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai uwchgynhadledd fuddsoddi fawr ar gyfer Cymru yn cael ei chynnal yn 2025 i arddangos y wlad i arweinwyr diwydiant byd-eang a buddsoddwyr posibl, gan dynnu sylw at y cyfleoedd a'r cryfderau niferus mewn diwydiannau allweddol.
2.2 Yn ystod y Cinio, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bwriad i sefydlu Grŵp Cynghori ar Dwf Economaidd Cymru, a oedd wedi cyfarfod yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai hi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn mynychu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghaeredin yn nes ymlaen yn yr wythnos, lle y byddai Ariannu a Thrawsnewid Cyfiawn yn thema.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:20pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Diweddariad ar yr Economi
4.1 Cafodd y Prif Economegydd ei wahodd gan y Prif Weinidog i roi diweddariad economaidd.
4.2 Dywedodd Thomas Nicholls wrth y Cabinet y byddai ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar y cyfnod heriol sydd o'n blaenau a'r rhagolygon ar gyfer twf economaidd, gyda chynhyrchiant isel, a phryderon am y tueddiadau diweddar mewn anweithgarwch economaidd. Byddai cyfle hefyd i ystyried goblygiadau'r cynnydd diweddar yng ngwariant Llywodraeth y DU, gydag adnoddau ychwanegol i Weinidogion Cymru yn y tymor byr er bod y cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn dal i awgrymu cylchoedd gwariant tynn iawn.
4.3 Roedd y sefyllfa economaidd ddiweddaraf yn awgrymu bod twf economaidd y DU yn isel, gyda cholled o £14,000 o gynnyrch domestig gros gwirioneddol y pen o'r boblogaeth yn 2023 o'i gymharu â thueddiadau blaenorol, ac roedd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu y byddai hyn yn parhau tan o leiaf 2029. Roedd safonau byw hefyd yn gwella'n arafach o lawer na thueddiadau blaenorol, gyda data'n dangos gostyngiad o £10,500 yn 2029-30 mewn incwm gwario cartref go iawn fesul unigolyn o'i gymharu â thueddiadau cyn 2008. Ar ben hynny, roedd twf cynhyrchiant i lawr ledled y DU, ond o leiaf roedd Cymru'n perfformio'n well yn erbyn rhannau eraill o'r DU, er ei bod yn llawer is na'r cyfartaledd cyn 2008.
4.4 Roedd Cymru wedi cynnal ei lefel gymharol o ffyniant o'i chymharu â'r rhan fwyaf o'r DU, ond roedd y cyflymu yn Llundain yn effeithio ar gyfartaledd y DU. Roedd chwyddiant yn sylweddol is nag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y byddai'n parhau ychydig yn uwch na'r targed am gyfnod hirach, yn rhannol o ganlyniad i Gyllideb ddiweddar y DU. Serch hynny, roedd prisiau rhai eitemau megis bwyd a thanwydd yn parhau i fod yn sylweddol uwch, ac roedd hynny'n cael effaith ar incwm aelwydydd. Roedd y cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn gyson, ond nid oeddent mor uchel â’r cyfraddau cyn y pandemig. Roedd yn ymddangos bod awgrym bod cyfraddau anweithgarwch economaidd yn gwella, er bod nifer mawr o bobl yn dal i fod yn y categori salwch hirdymor yng Nghymru, sef yn llawer uwch na'r nifer a oedd yn ddi-waith.
4.5 O ran effaith Cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU, roedd cyfran y dreth fel canran o gynnyrch domestig gros yn uwch nag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac roedd disgwyl iddi gynyddu ymhellach, ond roedd yn debyg i wledydd tebyg eraill. Roedd benthyca yn parhau i ostwng, ond ar raddfa arafach, ac roedd dyled yn gymharol uchel ond yn sefydlog yn dilyn cynnwys rhwymedigaethau ariannol net y sector cyhoeddus. Byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth y DU fenthyca mwy.
4.6 Roedd grant bloc Cymru yn 2025-2026 bellach dros £1bn yn uwch na'r disgwyl yn seiliedig ar ragdybiaethau Mawrth 2024, gyda chynnydd mewn termau real o 5% ar gyfer adnoddau a 7% ar gyfer cyfalaf, o'i gymharu â 2023-2024. Serch hynny, roedd y rhagolygon cyllid cyhoeddus o 2026-2027 ymlaen yn ymddangos yn heriol, ac roedd disgwyl i godiadau fod yn is gyda chostau uwch i wasanaethu dyledion cyfalaf.
4.7 Croesawodd y Cabinet y cyflwyniad a chydnabuwyd bod lefelau chwyddiant uchel diweddar yn dal i gael effaith anghymesur ar aelwydydd a safonau byw.
4.8 Roedd y DU yn dal i ddelio ag effaith mesurau cyni a Brexit, a oedd wedi arafu'r economi.
4.9 Diolchodd y Cabinet i'r Prif Economegydd am ei gyflwyniad.
Eitem 5: Cyllideb Ddrafft 2025-2026
5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Pecyn Cyllideb Ddrafft 2025-2026, gan gynnwys dyraniadau lefel Prif Grŵp Gwariant, i'w gyhoeddi ar 10 Rhagfyr. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd gymeradwyo'r penderfyniadau mewn perthynas â threthi datganoledig, cytuno ar ffocws y negeseuon i gefnogi'r Gyllideb Ddrafft, a nodi'r camau nesaf ar gyfer cwblhau'r gyllideb a'r dyraniadau ychwanegol arfaethedig yn ystod y flwyddyn 2024-2025.
5.2 Roedd y papur hefyd yn amlinellu holl ddeunydd y gyllideb a fyddai'n cael ei gyhoeddi ar 10 Rhagfyr.
5.3 Croesawodd y Cabinet y papur a'r dyraniadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn a'r Gyllideb Ddrafft.
5.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2024
