Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
  • Taryn Stephens, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 13 Ionawr 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Torri ar y cyflenwad dŵr yng Nghonwy

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y torri diweddar ar y cyflenwad dŵr yng Nghonwy, gan wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru a'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, gan fod y ddau ohonynt wedi chwarae rhan fawr yn yr ymateb i'r digwyddiad difrifol dan sylw.

2.2 Y dydd Mercher blaenorol, roedd Dŵr Cymru wedi rhoi gwybod i’r Llywodraeth fod un o'r prif bibellau dŵr wedi torri ger Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog yng Nghonwy. Roedd y difrod yn sylweddol, ac roedd yn gofyn am waith trwsio cymhleth mewn lleoliad heriol iawn, o dan Afon Ddu, gan arwain at ddatgan digwyddiad mawr. Roedd wedi effeithio ar oddeutu 40,000 o eiddo, a oedd yn cynnwys cartrefi gofal.

2.3 Cafodd ymateb i ddigwyddiad ei weithredu gan Lywodraeth Cymru ar y dydd Mercher i gefnogi Dŵr Cymru a Grŵp Cydgysylltu Strategol Gogledd Cymru sy'n grŵp amlasiantaethol o dan arweiniad Tân ac Achub Gogledd Cymru.

2.4 Fel rhan o ymateb y Llywodraeth, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru â'r ardal, a chyfarfu ag arweinydd Cyngor Conwy i drafod effaith y digwyddiad. Roedd hyn yn cynnwys trefniadau i roi cymorth i'r rheini a oedd wedi colli cyflenwadau dŵr a'r goblygiadau i fusnesau.

2.5 Cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog â Phrif Weithredwr Dŵr Cymru i gael ei friffio ar hynt y gwaith atgyweirio a'r trefniadau darparu dŵr i bobl a oedd wedi colli eu cyflenwad. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd negeseuon clir i'r cyhoedd, a'r angen i sicrhau bod cyflenwadau brys ar gael i bawb, yn benodol y rheini sy'n agored i niwed. Nodwyd y ffaith bod nifer y bobl agored i niwed a oedd yn adrodd am broblemau bron ddwywaith y nifer yng nghofnodion Dŵr Cymru.

2.6 Roedd y gwaith atgyweirio angenrheidiol wedi'i gwblhau, ac aethpwyd ati'n ofalus i ailgychwyn y rhwydwaith dŵr ehangach, o ystyried y pwysedd dŵr uchel a maint yr ardal yr effeithiwyd arni. Erbyn nos Sul roedd y cyflenwad dŵr wedi cael ei adfer i bron pawb.

2.7 Byddai'n bwysig dysgu gwersi o'r digwyddiad hwn, mewn ffordd debyg i'r ymarferion a gynhaliwyd yn dilyn y stormydd diweddar, i weld beth y gellid ei wella o ran cyfathrebu cynnar, gorsafoedd cyflenwi dŵr, a chymorth i'r rheini sy'n agored i niwed.

Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru

2.8 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru, a oedd yn cyfarfod yn swyddfa Cyffordd Llandudno ddydd Iau.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet fod datganiad llafar ar y torri ar y cyflenwad dŵr yng Nghonwy wedi'i ychwanegu at yr amserlen ar gyfer dydd Mawrth, ar ôl datganiad ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, ac felly roedd yr amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer tua 8pm ddydd Mawrth. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mercher am 6.25pm hefyd.

Eitem 4: Gofal Cymdeithasol – Dulliau Gweithredu ar gyfer Cynllunio i Sicrhau Cynaliadwyedd

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r pwysau presennol a'r heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol, ac i gytuno y dylai swyddogion ddatblygu atebion cynaliadwy tymor hirach.

4.2 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2025