Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio, Cyfansoddiad a Chyfiawnder Ewropeaidd
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Sara Cochrane, Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 a 15 Medi.

Eitem 2 : Busnes y Senedd

2.1 Rhoddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wybod i’r Cabinet fod disgwyl i’r amser pleidleisio fod am 5.55pm ddydd Mawrth ac oddeutu 6.05pm ddydd Mercher.

2.2 Nodwyd bod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i ddadl Plaid Cymru ar y cynigion i sefydlu wythnos waith pedwar diwrnod, a oedd wedi ei hamserlennu ar gyfer ddydd Mercher. Roedd y gwelliant yn amlygu’r angen i’r Llywodraeth ystyried pa ddatblygiadau sydd wedi eu gwneud drwy gynlluniau peilot mewn gwledydd eraill, ac archwilio’r gwersi y gellid eu dysgu.

Eitem 3: Cysylltiadau rhynglywodraethol

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol a’r canllawiau ar bwerau cydredol.

3.2 Roedd diwedd yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn agos, a disgwyliwyd i Lywodraeth y DU osod ei bwriad i ddefnyddio’r pecyn o ddiwygiadau. Mae’r rhain wedi eu datblygu ar y cyd gan swyddogion, ac yn sylfaen i gysylltiadau’r dyfodol. Roedd y pecyn yn darparu system sy’n fwy cadarn, ysgrifenyddiaeth annibynnol a threfniadau datrys anghydfodau.

3.3 Croesawodd a chymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 4 : Cyllid hirdymor ar gyfer derbynyddion grant

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gytuno ar newidiadau i’r polisïau ynglŷn â grantiau Llywodraeth Cymru.

4.2 Gofynnwyd i’r Swyddogion ystyried y posibilrwydd o ymestyn cyfnod amser arferol dyfarniad grant y Llywodraeth . Yn y lle cyntaf, roedd yn briodol i’r grantiau gael eu dyfarnu drwy gystadleuaeth, fodd bynnag, gwelwyd bod y cyfnod arferol o amser cyn ail-dendro yn aml yn rhy fyr, a bod y broses o ail-ymgeisio yn rhy gaeth.

4.3 Felly, cynigiwyd y dylid sicrhau ei bod yn bosibl i ddyfarnu cynlluniau grant am hyd at dair blynedd, ac y gellid ymestyn y cyfnod hwn am hyd at dair blynedd yn ychwanegol, yn ddibynnol ar ganlyniadau perfformiad a chyflawni.

4.4 Croesawodd y Cabinet y papur, a fyddai’n rhoi sicrwydd hirdymor i dderbynyddion, yn enwedig y rhai hynny o fewn y sector gofal cymdeithasol, y sector diwylliannol a’r trydydd sector. Byddai hyn yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na pharatoi ar gyfer ail-dendro, yn ogystal â chadw staff allweddol gan osgoi amharu ar brosesau cyflawni llwyddiannus.

4.5 Byddai hyn hefyd yn cynorthwyo i gyflawni ymrwymiadau’r Llywodraeth ynghylch gwaith teg.

4.6 Cytunwyd y dylid meithrin cysylltiadau pellach gyda’r Trydydd Sector wrth i’r cynigion hyn gael eu datblygu.

4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.