Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Ymddiheuriadau

  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio (eitem 4)
  • Christine Wheeler, Dirprwy Gyfarwyddwr, Newid Hinsawdd a Thlodi Tanwydd (eitem 4)
  • Mark Alexander, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Maes Rheoli Tir (eitem 5)
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 a 16 Tachwedd.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Digwyddiad Pen-blwydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru

2.1 Siaradodd y Gweinidogion am eu presenoldeb yn Nigwyddiad Pen-blwydd 20+ Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, a gafodd ei gynnal yng Nghaerdydd y dydd Iau blaenorol. Roedd y digwyddiad yn noson o adloniant a dathlu i gyd-fynd â'r Wythnos Ryng-ffydd Ryngwladol.

Ymweliad y Clintons â Phrifysgol Abertawe

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi mynychu digwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe, hefyd ar y dydd Iau blaenorol. Y gwesteion anrhydedd oedd cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hiliary Clinton, a oedd wedi rhoi benthyg ei henw i Ysgol y Gyfraith yn y Brifysgol, a'i gŵr, y cyn Lywydd, Bill Clinton. Roedd llawer o bobl wedi mynychu'r digwyddiadau, gyda chynulleidfa o 600 ar gyfer y drafodaeth ar yr heriau byd-eang presennol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio rheolaidd wedi ei drefnu ar gyfer 4:10pm ddydd Mawrth, ac y byddai Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinwedd) (Cymru) yn dilyn hyn, gyda phleidleisio ar y gwelliannau drwy gydol yr amser. Yr amser pleidleisio fyddai tua 5.55pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Cynnydd o ran Newid Hinsawdd a Phontio Teg

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno i osod yr ymateb statudol i adroddiad cynnydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar liniaru'r newid yn yr hinsawdd, gan nodi'r risgiau a'r camau gweithredu sy'n dod yn rhan o waith portffolios yn sgil adroddiad y Pwyllgor ar addasu.

4.2 Hefyd, gofynnwyd i'r Gweinidogion gytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ar Fframwaith Pontio Teg.

4.3 Y polisi cyntaf yng Nghymru Sero Net oedd sicrhau bod pontio teg a chyfiawn yn digwydd wrth symud i economi carbon isel. Roedd y papur yn cynnwys ymgynghoriad arfaethedig ar Fframwaith Pontio Teg, gyda phecyn cymorth cysylltiedig. Roedd yr ymgynghoriad hwn wedi cael ei lywio gan Alwad am Dystiolaeth a ddaeth i ben ar 15 Mawrth.

4.4 Nod y Fframwaith oedd gosod gweledigaeth ar y cyd ar gyfer sut y byddai Cymru yn cyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer sero-net.  Roedd yn nodi sut y gellid gwneud cydlynu a chydlyniant yn rhan o ffordd o feddwl pobl a sut maent yn ymateb i newidiadau. Roedd hefyd yn darparu ffynhonnell o wybodaeth ac arweiniad i alluogi’r rhai sy’n ysgogi’r newid i wneud hynny mewn ffordd a fyddai'n ceisio rhoi sylw i'r anghydraddoldebau presennol ac osgoi creu anghydraddoldebau newydd.

4.5 Bwriad y Fframwaith hwn oedd helpu gwneuthurwyr polisi a busnesau yng Nghymru gyda'u syniadau a'u camau gweithredu.

4.6 Roedd adroddiad cynnydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023, yn cydnabod y camau cadarnhaol a oedd wedi eu cymryd yng Nghymru, megis ym maes sgiliau, swyddi ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

4.7 Croesawodd y Cabinet y papur gan gydnabod bod Newid Hinsawdd yn cael effaith ar batrymau'r tywydd yng Nghymru, gyda mwy o gyfnodau o law trwm, a mwy o gyfnodau o wres uchel a allai arwain at amodau sychder. Roedd hyn eisoes yn cael goblygiadau i iechyd pobl, gyda mwy o alw ar wasanaethau, ac roedd yn debygol o gael effaith ar bolisïau'r Llywodraeth.

4.8 Er mwyn cynyddu'r ddibyniaeth ar ynni adnewyddadwy, cytunodd y Gweinidogion y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ailwampio seilwaith y grid.

4.9 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.

Eitem 5: Cymorth Fferm yn y Dyfodol

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r cynnydd a wnaed o ran llunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a'r bwriad i ymgynghori ar hyn ac elfennau eraill o gymorth fferm ar ddiwedd y flwyddyn.

5.2 Amlinellodd y papur y cynnydd a wnaed o ran llunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy fodelu, cyd-ddylunio a defnyddio adborth gan randdeiliaid.

5.3 Roedd y Cynllun yn seiliedig ar Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a'r pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy, ac roedd yn gydnaws â rhwymedigaethau'r Llywodraeth o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ei fod yn cyfrannu at y nodau llesiant a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

5.4 Bwriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy oedd bod yn brif ffynhonnell cymorth y Llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol, gan ddisodli Cynllun y Taliad Sylfaenol.

5.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi'r bwriad i gynnal ymgynghoriad ar gymorth fferm ar ddiwedd y flwyddyn.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2023