Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad
  • Phil Elkin, Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

TUC Cymru: Dathlu 50 mlynedd

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, newydd ddychwelyd o ddigwyddiad yng Nghasnewydd, a oedd yn dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Cyngres Undebau Llafur Cymru.

Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

2.2 Nodwyd bod disgwyl i Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn ddiweddarach yr wythnos honno.

Y Cytundeb Cydweithio

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cyfarfod ag arweinydd dros dro Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd AS, yr wythnos flaenorol, lle'r oedd y ddwy ochr wedi cadarnhau eu hymrwymiad i'r Cytundeb Cydweithio.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Trafododd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn a nodwyd bod y datganiad llafar ar Ddatblygiadau Economaidd yng Ngogledd Cymru wedi cael ei ailenwi yn ‘Cryfhau ein Cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-orllewin Lloegr’. Doedd dim pleidleisiau wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mawrth a’r amser pleidleisio fyddai tua 6:25pm ddydd Mercher.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2023