Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Vikki Howells AS 

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Simon Brindle, Cyfarwyddwr Caffael Masnachol
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Phil Elkin, Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 15 Medi 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

2.1 Cofnododd y Prif Weinidog ei diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dilyn ei gyhoeddiad ddydd Gwener na fydd yn sefyll yn etholiad nesaf y Senedd.

Prif Weinidog Llywodraeth y DU, Cydnabod Gwladwriaeth Palesteina

2.2 Cydnabu'r Prif Weinidog y cyhoeddiad a wnaed gan Brif Weinidog y DU y diwrnod cynt yn cydnabod Gwladwriaeth Palesteina yn ffurfiol. Roedd yn bwysig cofio sylwadau Prif Weinidog y DU am yr angen i ryddhau'r gwystlon, dod â'r trais a'r dioddefaint i ben, a symud yn ôl tuag at Ddatrysiad Dwy Wladwriaeth, gan mai hynny fyddai'r gobaith gorau am heddwch a diogelwch i bob ochr. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chynrychioli mewn digwyddiad byr yn Llundain y bore hwnnw, a gynhaliwyd gan y Llysgennad i Awdurdodau Palesteina, i nodi'r gydnabyddiaeth.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5:30pm ddydd Mawrth a thua 6:05pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Ystad y Goron

4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ddiweddariad i'r Cabinet ar ddatganoli Ystad y Goron, sef ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

4.2 Er mwyn helpu i fwrw ymlaen â'r gweithgaredd hwn, datblygwyd cynigion ar gyfer grŵp arbenigol ar ddatganoli ynni ac Ystad y Goron, er mwyn edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys datganoli. Roedd y ffocws ar adeiladu'r achos dros ddatganoli mewn modd sy'n cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd, ac sy'n rhoi sicrwydd i fuddsoddwyr o ran sicrhau swyddi gwyrdd. Byddai hyn yn cael ei gyhoeddi gan y Dirprwy Brif Weinidog fel rhan o'i ddatganiad llafar i'r Senedd yr wythnos ganlynol.

4.3 Hefyd, roedd swyddogion yn ymgysylltu'n rhagweithiol ag Ystad y Goron i nodi a gweithio ar fwriad y polisi. Er enghraifft, gofynnwyd am ddata ychwanegol ar yr incwm a dderbynnir yng Nghymru, a'r incwm a ragwelir yn ystod y pum mlynedd nesaf. Roedd swyddogion hefyd wedi holi a allai Ystad y Goron ddarparu dadansoddiad o effeithiau economaidd i ddangos y canlyniadau economaidd a brofwyd yng Nghymru.

4.4 Byddai'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn parhau i fanteisio ar bob cyfle posibl i wneud yr achos dros ddatganoli Ystad y Goron.

4.5 Yn y cyfamser, byddai Gweinidogion Cymru yn parhau i wneud yr achos dros ddatganoli Ystad y Goron a gwella ei hatebolrwydd a'i thryloywder.

4.6 Nodwyd bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn gynharach y mis hwnnw mewn ymateb i flaenoriaethau strategol Llywodraeth y DU ar gyfer Great British Energy.

4.7 Nododd y Cabinet y diweddariad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2025