Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Addysg Gyffredinol, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 11 Gorffennaf a 12 Medi.

Eitem 2: Adolygiad COVID-19 a’r cynlluniau ar gyfer yr hydref a’r gaeaf

2.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y coronafeirws.

2.2 Roedd Arolwg Heintiadau Coronafeirws diweddaraf yr ONS yn dangos bod nifer y bobl yng Nghymru sy’n profi’n bositif ar gyfer COVID-19 wedi gostwng i un allan o bob 95. Roedd nifer y derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig â’r feirws wedi gostwng o 25 y dydd ganol mis Gorffennaf i oddeutu chwech y dydd.

2.3 Fodd bynnag, roedd y pwysau ar y GIG yn parhau, gyda 6.2% o staff i ffwrdd yn sâl gan gynnwys 1.4% gyda materion yn ymwneud â’r coronafeirws. Roedd absenoldeb ymysg meddygon teulu tua 10-11%. Yn ogystal â hyn, roedd y GIG yn disgwyl i’r gaeaf fod yn heriol gan fod gan y ffliw tymhorol a COVID-19 y potensial i ychwanegu’n sylweddol at y pwysau hyn, yn enwedig pe bai tonnau heintiadau’r ddau yn digwydd ar yr un pryd.

2.4 Drwy Raglen Brechu Anadlol y Gaeaf, byddai 1.6 miliwn o’r bobl fwyaf agored i niwed yn cael cynnig brechlynnau COVID-19 a’r ffliw. Byddai hyd at 400 o safleoedd ledled Cymru yn cael eu defnyddio ar gyfer hyn, gan gynnwys canolfannau brechu, fferyllfeydd cymunedol, a’r meddygfeydd sydd â’r gallu angenrheidiol. Roedd y strategaeth wedi gosod targed ar gyfer diweddaru 75% o’r ddau frechlyn, gyda rhywfaint o ystyriaeth yn cael ei rhoi i weinyddu’r ddau ar yr un pryd.

2.5 Byddai’r system cadw gwyliadwriaeth yn cael ei chryfhau er mwyn nodi unrhyw ddirywiad yn y sefyllfa, megis amrywiolynnau neu fwtaniadau niweidiol a feirysau anadlol eraill yn ymddangos. Un o brif ddibenion y system fyddai penderfynu a oedd Cymru wedi symud o COVID Sefydlog i COVID Brys.

2.6 Croesawodd y Cabinet y diweddariad, gan gytuno bod angen annog pobl i fanteisio ar y brechiadau a gynigir.

2.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai diweddariad pellach yn cael ei roi ym mis Tachwedd.

Eitem 3: Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadau

3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i gyhoeddi’r Papur Gwyn ar gynigion sy’n ymwneud â diwygio etholiadol a’r uchelgais i foderneiddio sut mae etholiadau yn cael eu gweinyddu.

3.2    Nododd y Papur Gwyn yr agenda tymor hir ar gyfer moderneiddio sut mae etholiadau’n cael eu gweinyddu a diwygio’r broses etholiadol yn ehangach. Yn benodol, mae’r Senedd bresennol am leihau’r diffyg democrataidd mewn Llywodraeth Leol, a helpu i gyflawni’r ymrwymiadau i foderneiddio sut mae etholiadau’r Senedd, a gynhelir yn 2026, yn cael eu gweinyddu.

3.3 Byddai’r ymgynghoriad yn cyfeirio at y chwe egwyddor o degwch, mynediad, cyfranogi, gwella profiad y dinesydd, bod yn broses hawdd, ac uniondeb, a fyddai’n cael eu defnyddio i feincnodi’r camau a gymerir i ddiwygio’r broses etholiadol a llywio’r gwaith o hwyluso ymgysylltu a chyfranogi democrataidd.

3.4 Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cymysgedd o gynigion nad oeddent yn rhai deddfwriaethol ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad mewn etholiadau, a gwneud sefyll mewn etholiadau’n fwy diogel a syml. Hefyd roedd cynigion ar gyfer deddfwriaeth i gydgrynhoi a moderneiddio cyfraith etholiadol, ochr yn ochr â chynlluniau tymor hirach ar gyfer diwygio’r broses etholiadol mewn modd a fyddai’n cefnogi democratiaeth Cymru yn y dyfodol.

3.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 4: Cwpan y Byd yn Qatar

4.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gytuno ar y safbwynt diweddaraf o ran cefnogaeth Llywodraeth Cymru tuag at weithgareddau sy’n gysylltiedig â Chwpan y Byd FIFA yn Qatar.

4.2 Roedd y ffaith bod tîm pêl droed y dynion yn cymryd rhan yng Nghwpan Pêl Droed y Byd yn 2022 yn creu’r cyfle mwyaf erioed i Lywodraeth Cymru o ran cyfleoedd marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon oherwydd proffil uchel y digwyddiad.

4.3 Gyda chynulleidfa fyd-eang o 5 biliwn, roedd Cwpan y Byd yn blatfform i gyflwyno Cymru i’r byd, gan adeiladu ar weithgarwch blaenorol i ailgysylltu â chynulleidfaoedd a oedd yn bodoli eisoes, gan gynnwys pobl o Gymru a oedd ar wasgar o gwmpas y byd. Roedd hefyd yn gyfle i gyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, o ystyried y byddai gêm gyntaf Cymru yn cael ei chynnal erbyn tîm pêl droed y wlad honno ar 21 Tachwedd.

4.4 Roedd amcanion y Llywodraeth mewn perthynas â Chwpan y Byd yn cynnwys hyrwyddo Cymru, ac ar yr un pryd amlygu ei gwerthoedd a sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn ystod y twrnamaint. Hefyd byddai angen sicrhau gwaddol positif a fyddai’n parhau.

4.5 Ers i dîm pêl droed y dynion ennill ei le yng Nghwpan y Byd ddechrau mis Mehefin, roedd rhaglen o weithgarwch wedi bod ar waith i sicrhau’r cyfleoedd gorau, gan ganolbwyntio ar dair haen graidd.  Byddai ymgyrch farchnata gryfach yn cael ei chynnal ochr yn ochr â chronfa gymorth i bartneriaid Cwpan y Byd a oedd â’r nod o ychwanegu gwerth at nifer bach o brosiectau eithriadol a fyddai’n cyflawni amcanion craidd y Llywodraeth. Hefyd byddai cyfres o ymweliadau a gweithgarwch ymgysylltu Gweinidogol yn digwydd gyda chefnogaeth swyddfeydd tramor y Llywodraeth.

4.6 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gytuno y byddai hyn yn gyfle i ddangos bod Cymru yn wlad o werthoedd a lloches.

4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: y Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb a’r Blaenoriaethau ar gyfer yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd CAB(22-23)04

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar y Strategaeth Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd a’r blaenoriaethau a oedd yn dod i’r amlwg.

5.2 Mewn ymateb i’r angen am dystiolaeth gryfach ar gyfer rhoi sylw i anghydraddoldeb yng Nghymru, fel yr amlygwyd gan y pandemig COVID-19, roedd Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd wedi cael eu sefydlu. Ers mis Ionawr, roedd tîm amrywiol ac amlddisgyblaeth wedi cael ei recriwtio a oedd â’r profiad a diddordeb angenrheidiol mewn tystiolaeth cydraddoldeb.

5.3 Fe wnaeth y Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb, a oedd wedi cael ei datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid yr Unedau, ddisgrifio cwmpas ei rôl, ei chylch gwaith, a’i dulliau o weithio. Roedd y ddogfen flaenoriaethau’n egluro sut y byddai’n cyflawni ei hamcanion yn y tymor byr, y tymor canolig, a’r tymor hirach. Bwriedid i’r ddwy ddogfen fod yn ddogfennau byw. Byddai’r Unedau hefyd yn cefnogi’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru a rhanddeiliaid.

5.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi’r bwriad i gyhoeddi’r dogfennau ar 26 Medi 2022.

5.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2022