Cyfarfod y Cabinet: 23 Chwefror 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 23 Chwefror 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AC (eitemau 1- 9)
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Alex Slade, Cyfarwyddwr, Iechyd Meddwl, Gofal Sylfaenol a'r Blynyddoedd Cynnar
- Dianne Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Steven McGregor, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gogledd Cymru
- Ceri Christian-Mullineux, Uwch-reolwr Partneriaethau Rhanbarthol, Gogledd Cymru
Mynychwyr allanol
- Simon Bowen, Cadeirydd Great British Energy – Nuclear (GBE – N)(eitem 1)
- Ieuan Williams, Pennaeth Cysylltiadau â Rhanddeiliaid a'r Cyfryngau Great British Energy – Nuclear (eitem 1)
Eitem 1: Cyflwyniad ar Wylfa
1.1 Croesawodd y Prif Weinidog Simon Bowen, Cadeirydd Great British Energy – Nuclear (GBE-N) a Ieuan Williams, Pennaeth Cysylltiadau â Rhanddeiliaid a'r Cyfryngau GBE-N, a'u gwahodd i gyflwyno'r datblygiadau diweddaraf o ran safle Wylfa.
1.2 Rhoddodd y Cadeirydd gyflwyniad cefndirol byr i'r prosiect, a oedd yn gweithio tuag at ddarparu’r gallu yng Ngogledd Cymru i gynnal Adweithydd Modiwlar Bach (SMR) ac, yn y dyfodol, Adweithydd Modiwlar Datblygedig (AMR).
1.3 Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi bod Wylfa yn safle sy’n cael ei ffafrio, roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen yn gyflym mewn partneriaeth â'r prif bartner cyflenwi, Rolls Royce, ac roedd £2.6bn o gyllid wedi'i gyhoeddi ar gyfer y cam cyflawni.
1.4 Roedd hon yn rhaglen £6-10bn dros nifer o flynyddoedd a fyddai'n arwain at gyflogaeth hirdymor - yn y camau adeiladu yn ogystal ag yn y camau cynnal a chadw - gan arwain at gyfleoedd cyflogaeth hirdymor sicr i'r rhanbarth.
1.5 Ystyrid mai Wylfa oedd y dewis gorau o ran safle, gan ei fod yn cynnig y llwybr datblygu cyflymaf, yn amodol ar gwblhau'r gwaith amgylcheddol, ecolegol a daearegol angenrheidiol. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, gan fod sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o amgylch y safle arfaethedig, felly byddai angen rheolaeth ofalus i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflawni yn y ffordd fwyaf cyfeillgar i'r amgylchedd ag y bo modd.
1.6 O ran ymgysylltiad lleol â'r prosiect, tybid bod datblygiadau niwclear yn cael eu derbyn i raddau helaethach yn yr ardal oherwydd ei threftadaeth niwclear a diwydiannol, ond roedd newidiadau demograffig wedi digwydd ers y pandemig, gyda mwy o bobl wedi ymddeol yn yr ardal a rhai pobl iau wedi symud i ffwrdd i weithio. Yr her fyddai sicrhau bod y bobl hynny'n cael eu denu yn ôl i'r ardal yr oeddent yn dymuno byw ynddi, a bod swyddi sgiliau uchel â chyflogau da ar gael yn y diwydiant niwclear ac yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig.
1.7 Y prif ffocws ar hyn o bryd oedd gwaith yn ymwneud â chydsynio, cynllunio, trwyddedu a datblygu sgiliau. Cydnabyddid bod y gwaith o adeiladu'r SMRs cyntaf yn debygol o wynebu rhai heriau, gan fod bron i 1000 o unedau amrywiol i'w dwyn ynghyd. Fodd bynnag, dylai'r hyn a gâi ei ddysgu o adeiladu'r gyfres gyntaf arwain at fwy o effeithlonrwydd ar gyfer y camau dilynol.
1.8 Y tu hwnt safle Wylfa, roedd y math hwn o gynhyrchu ynni niwclear glân yn cynnig cyfleoedd mewn safleoedd eraill sy'n bodoli'n barod, megis Port Talbot, wrth i'r ffwrnais arc drydan gael ei chyflwyno, a safleoedd fel Bae Baglan a Thrawsfynydd sydd â hanes hir yn y sector cynhyrchu ynni glân.
1.9 Roedd y cysylltiadau â phartneriaid addysg a datblygiad rheilffyrdd posibl fel Parcffordd Caerdydd yn cynnig cyfleoedd pellach i ddod â'r sgiliau perthnasol i ardaloedd i'w datblygu yn y dyfodol. Roedd tystiolaeth dda o safleoedd datblygu niwclear eraill yn Sizewell C a Hinckley Point yn Lloegr, a oedd wedi denu cyflogaeth o safon uchel i'r ardaloedd hynny. Byddai rhaglenni hyfforddi a phrentisiaethau yn chwarae rhan fawr mewn llwyddiant hirdymor.
1.10 Diolchodd y Prif Weinidog i Simon Bowen, GBE-N am y cyflwyniad, gan groesawu'r dull o ddefnyddio arweinyddiaeth gref yng Nghymru ar gyfer prosiect mor bwysig i Gymru.
Gwahoddodd y Prif Weinidog bawb i ran ffurfiol y cyfarfod, a oedd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Wrecsam. Roedd Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion wedi cynnal nifer o ymweliadau lleol cyn y cyfarfod. Roedd y rhain yn cynnwys ymweliadau ag Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Brenhinol Alexandra - lle cyhoeddwyd buddsoddiad o £33m - Coleg Llandrillo, Prifysgol Bangor, Coleg Cambria, Ymddiriedolaeth Brymbo a Bryniau Clwyd.
Nodwyd y byddai cyfarfod y Cabinet yn ddwyieithog, ac y byddai gwasanaethau cyfieithu ar gael drwy'r clustffonau a ddarparwyd.
Eitem 2: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
2.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 9 Chwefror 2026.
Eitem 3: Eitemau’r Prif Weinidog
Ymweliad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
3.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyhoeddiad diweddar o £14bn ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru gan Brif Weinidog y DU, yn ystod ei ymweliad â depo Trafnidiaeth Cymru yn Nhrefforest ddydd Iau.
Cytundeb Twf Amddiffyn Cymru
3.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod hi, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, wedi llofnodi'r Cytundeb Twf Amddiffyn gwerth £50m yng Nghastell Caerdydd ddydd Gwener. Byddai Cymru ar flaen y gad o ran technoleg awtonomaidd y genhedlaeth nesaf, gan gefnogi cwmnïau a chefnogi miloedd o swyddi sgiliau uchel.
Eitem 4: Busnes y Senedd
4.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfod Llawn a nododd fod Bwrdd Prosiect y Siambr, yn dilyn gwaith profi llwyddiannus yn ystod toriad hanner tymor, wedi cadarnhau bod y Siambr ar ei newydd wedd yn barod ar gyfer ailddechrau Cyfarfodydd Llawn y Senedd. Roedd disgwyl i'r Pwyllgor Busnes gadarnhau hyn yn eu cyfarfod yn y bore. Roedd cynllun seddi wedi'i rannu gyda'r holl Aelodau.
4.2 Roedd y cyfnod pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 7:40pm ddydd Mawrth a 6:55pm ddydd Mercher.
Eitem 5: Diweddariad Llafar – Cyflawniad Portffolio – Addysg Gefnogol a Chynhwysol ar gyfer Dyfodol Mwy Disglair
5.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiweddariad i'r Cabinet ar gyflawniadau addysgol yn ystod y Senedd bresennol, cyn y datganiad i'r Senedd y diwrnod canlynol.
5.2 Roedd y Llywodraeth wedi cyflawni llawer iawn o welliant, cynnydd a newid, gan barhau i ganolbwyntio ar yr un pryd ar gyflawni'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc. Byddai'r datganiad yn canolbwyntio ar yr elfennau canolog, sef llesiant, perthyn a chynhwysiant. Roedd sicrhau bod y system addysg yn cefnogi llesiant pob plentyn a pherson ifanc yn hanfodol i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu cynnwys a'u bod yn gallu ymgysylltu â dysgu a dychwelyd i'r ysgol.
5.3 Yn ystod y Senedd bresennol, roedd y gwaith o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru wedi'i gwblhau. Bellach, roedd y garfan gyntaf o ddysgwyr ym Mlwyddyn 10. Roedd y Cwricwlwm hwn yn canolbwyntio ar gynnydd a chyrhaeddiad, gan ystyried ar yr un pryd anghenion dysgwyr unigol i sicrhau bod pob un ohonynt yn gallu cyrraedd eu potensial. Yn ogystal, roedd y gwaith o bontio i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi'i gwblhau, gan sicrhau bod cymorth ar gael i'r plant yr oedd ei angen fwyaf.
5.4 Roedd dros £1.5 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn ysgolion a cholegau drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a oedd yn sicrhau bod ysgolion a cholegau yn addas i'r diben, gan ddarparu'r dechnoleg a'r cyfleusterau yr oedd plant eu hangen ac yn eu haeddu.
5.5 Roedd y tirlun gwella ysgolion wedi cael ei drawsnewid. Bellach, roedd mwy o gefnogaeth ysgol i ysgol ac roedd gan Awdurdodau Lleol fwy o rôl. Yn ogystal, yn sgil sefydlu'r corff dysgu cenedlaethol newydd, Dysgu, roedd cylch parhaus o wella ar draws y sector.
5.6 Roedd y sector addysg drydyddol hefyd wedi'i drawsnewid yn sgil sefydlu Medr, sy'n bwrw ymlaen â pholisïau i gynyddu cyfranogiad mewn Addysg Bellach ac Uwch. Roedd y dull Prentisiaid Iau yn cefnogi plant i symud ymlaen drwy ystod o lwybrau galwedigaethol, ac roedd mwy o gefnogaeth drwy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Ar ben hynny, roedd Seren yn cefnogi dyheadau ac uchelgeisiau'r dysgwyr mwyaf galluog.
5.7 Roedd y Llywodraeth wedi buddsoddi'n sylweddol mewn dulliau i fynd i'r afael ag ymddieithrio er mwyn annog plant i ddychwelyd i'r ysgol. Ar ben hynny, cafwyd cyhoeddiad diweddar am gamau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r pedwar heddlu ar raglen o gymorth a gweithio gyda Chyngor Caerdydd ar brotocol newydd i reoli arfau mewn ysgolion a lleoliadau addysg.
5.8 Roedd angen cynyddu cymorth mewn perthynas â'r blynyddoedd cynnar a rhianta i helpu i fynd i'r afael â'r pwysau cymdeithasol yr oedd ysgolion yn eu hwynebu, gan gynnwys mwy o waith ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus. Roedd gwaith yn parhau i ymgorffori dulliau o gefnogi llesiant.
5.9 Byddai canlyniad ystyriaethau'r panel llythrennedd arbenigol yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, a fyddai'n helpu i wella safonau addysgol.
5.10 Roedd mwy i'w wneud, ond bu cyflawniad sylweddol gan y gweithlu addysg i gefnogi pob dysgwr yng Nghymru.
5.11 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.
Eitem 6: Cyflawniad Portffolio – Cefnogi Gofal Cymdeithasol
6.1 Rhoddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar y gwaith a wnaed i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, cyn y datganiad i'r Senedd y diwrnod canlynol.
6.2 Roedd y gweithlu wedi wynebu pwysau digynsail yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond roeddent wedi parhau i gyflawni gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch. Byddai'r datganiad yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a'r camau nesaf i gryfhau a chynnal y gweithlu ymhellach.
6.3 Byddai'r Llywodraeth yn parhau i ddarparu cyllid blynyddol o oddeutu £29 miliwn i Ofal Cymdeithasol Cymru a £45 miliwn yn uniongyrchol i Awdurdodau Lleol drwy grant i'r gweithlu, ochr yn ochr â'r setliad arferol.
6.4 Roedd yr arolwg o'r gweithlu wedi gweld cynnydd mewn lefelau morâl ymhlith staff, lefelau boddhad â swydd ac mewn ymdeimlad o werthfawrogiad ymhlith staff gan y bobl yr oeddent yn eu cefnogi. Fodd bynnag, roedd angen gwneud mwy, yn enwedig i sicrhau bod y rhai a astudiodd gyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol yn y coleg yn ymuno â'r proffesiwn Gofal Cymdeithasol yn hytrach nag ymgymryd â swyddi yn y sector iechyd. Byddai'r datganiad yn cynnwys camau pwysig i wella cynaliadwyedd y gweithlu.
6.5 Roedd Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wedi'i sefydlu i wella'r telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu. Ei flaenoriaeth gychwynnol oedd cynghori ar y gwaith o weithredu'r cyflog byw gwirioneddol a chefnogi hynny. Roedd gwerthusiad diweddar wedi dangos bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran gwella tegwch cyflog yn ystod cyfnod heriol. Roedd rhai gweithwyr heb gael y codiad, a byddai hynny’n cael sylw yn 2026-27 drwy fwy o fonitro.
6.6 Drwy'r Fforwm a'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen, roedd blaenoriaethau ehangach o ran gwella cyflogau a thelerau ac amodau wedi'u datblygu. Roedd hyn yn cynnwys fframwaith tâl a dilyniant gwirfoddol, a fyddai'n cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
6.7 Roedd Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol wedi datblygu polisïau Adnoddau Dynol enghreifftiol ar gyfer y gweithlu, yn enwedig y sector annibynnol, a byddai'r cyntaf o'r rhain, Cytundebau Cydnabod a Disgyblu a Chwyno, hefyd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
6.8 Yn ogystal, byddai'r Llywodraeth yn ymgynghori ar strwythur a gweithrediad arfaethedig Corff Negodi Gofal Cymdeithasol, a fyddai'n gallu gorfodi lefelau cyflog ar gyfer y gweithlu.
6.9 O ran cyfleoedd dilyniant, byddai academïau gofal yn helpu i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn gyfle oes. O ganlyniad, roedd y Llywodraeth yn buddsoddi £1.5 miliwn i gefnogi cam cyntaf Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol. Byddai hynny'n cyflawni'r weledigaeth i adeiladu academi a ddarperir yn lleol ac a gydnabyddir yn genedlaethol, a fyddai'n grymuso unigolion i ddilyn gyrfa yn y sector.
6.10 Roedd newidiadau diweddar gan Lywodraeth y DU i fewnfudo wedi creu ansicrwydd i weithwyr gofal tramor. Mewn ymateb, roedd y Llywodraeth wedi sefydlu rôl ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol, sef helpu'r rhai sydd wedi'u dadleoli i chwilio am waith arall.
6.11 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.
Eitem 7: Datganiad Llafar: Cyflawniad Portffolio – Cymunedau Cymraeg
7.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ddiweddariad i'r Cabinet ar gyflawniadau sy'n cefnogi nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a chynyddu'r defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050, cyn ei ddatganiad i'r Senedd y diwrnod canlynol.
7.2 Er bod cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg, roedd arwyddion calonogol, gyda chynnydd cyffredinol yng nghanran disgyblion blwyddyn un sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg dros y degawd diwethaf. Yn ogystal, mae darpariaethau Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn gosod llwybr hirdymor clir ar gyfer ehangu a chryfhau'r ddarpariaeth ar draws y sector, yn enwedig drwy Flynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg.
7.3 Sefydlwyd Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gynghori ar sut i gynnal a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol a rhoi argymhellion i'r Llywodraeth, gan ystyried ar yr un pryd yr heriau strwythurol sy'n wynebu ardaloedd Cymraeg.
7.4 Un o'r camau mwyaf arwyddocaol a gymerwyd oedd mynd i'r afael ag effaith ail gartrefi mewn cymunedau. Ar ôl yr Adroddiad Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru, cyflwynwyd nifer o ymyriadau trawslywodraethol i fynd i'r afael â'r heriau o ran niferoedd uchel o ail gartrefi a materion sy'n ymwneud â fforddiadwyedd i bobl leol. Roedd Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd Dwyfor wedi treialu nifer o ymyriadau i helpu i leihau effaith crynodiad uchel o ail gartrefi.
7.5 Yn ogystal, cyflwynwyd y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, gan ddod â meysydd cymorth datblygu economaidd, cynllunio ieithyddol a datblygu cymunedol at ei gilydd. Roedd y rhaglen ARFOR wedi darparu cymorth ariannol i gryfhau gwytnwch economaidd mewn ardaloedd Cymraeg traddodiadol.
7.6 Un o'r prif themâu yng ngwaith y Comisiwn oedd dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, ac roedd y Llywodraeth yn cynnig llwybr tri cham tuag at ddynodi.
7.7 Byddai'r cyntaf yn rhoi cydnabyddiaeth i Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch o fewn y strategaeth 'Cymraeg 2050' ddiwygiedig, byddai'r ail yn rhoi'r cysyniad ar waith drwy gryfhau'r ffordd y caiff ystyriaethau ieithyddol eu hystyried mewn fframweithiau polisi, a byddai'r trydydd yn ystyried y potensial i ddeddfwriaeth sylfaenol sefydlu system ddynodi statudol.
7.8 Roedd disgwyl i'r Comisiwn gyhoeddi ei ail adroddiad ar sefyllfa'r Gymraeg mewn ardaloedd eraill cyn diwedd mis Mawrth.
7.9 Croesawodd y Cabinet y diweddariad a nododd y gwaith sylweddol a gyflawnwyd ar draws nifer o feysydd polisi i gefnogi a chynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.
Eitem 8: Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru - CAB(25-26)41
8.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi gwaith Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru yn ystod y Chweched Senedd, yr ymrwymiadau penodol o ran y Gogledd yn y Rhaglen Lywodraethu a buddsoddiad ar draws yr ardal.
8.2 Roedd yr Is-bwyllgor wedi cyfarfod naw gwaith, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd a heriau unigryw y rhanbarth, wrth fynd i'r afael â materion ynghylch adfer ar ôl y pandemig, trafnidiaeth, addysg, sgiliau ac iechyd a gofal cymdeithasol.
8.3 Yn ystod y cyfarfodydd hyn, roedd yr Is-bwyllgor wedi ymgysylltu ag arweinwyr Awdurdodau Lleol, cynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd, Addysg Drydyddol, yr Heddlu a'r Gwasanaethau Tân, a oedd i gyd wedi cryfhau cydweithio ledled y Gogledd. Yn ogystal, roedd yr Is-bwyllgor wedi gwella cysylltiadau trawsffiniol ag Awdurdod Cyfun Dinas-ranbarth Lerpwl, Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a Chonswliaid Iwerddon, gan gefnogi ymatebion ar y cyd i faterion, megis cau Porthladd Caergybi a heriau cyffredin o ran yr economi a gwasanaethau.
8.4 Roedd y Grŵp hefyd wedi trafod rhaglenni rhanbarthol mawr fel Bargen Twf y Gogledd gwerth £1 biliwn, Rhwydwaith Gogledd Cymru, yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Theatr Clwyd a gwelliannau yn ardal y Bwrdd Iechyd.
8.5 Nododd y Cabinet y papur.
Eitem 9: Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol 2026-2027 CAB(25-26)35
9.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo themâu a datblygiad Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol 2026/27, ac ymgysylltiad â'r adroddiad.
9.2 Diben yr adroddiad oedd dwyn amrywiaeth o wybodaeth ynghyd mewn un lle hygyrch, er mwyn helpu dinasyddion a llunwyr polisïau yng Nghymru i ddeall y tueddiadau a'r ysgogwyr mawr a oedd yn debygol o lywio dyfodol Cymru. Byddai'r adroddiad yn cael ei gynllunio'n benodol i'w ddefnyddio gan gyrff cyhoeddus, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a chynghorau tref a chymuned, ac roedd ei sail, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, wedi galluogi'r math hwn o waith datblygu polisi a meddwl am bolisi yn y tymor hir.
9.3 Dim ond un o'r ffyrdd y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ecosystem y dyfodol yng Nghymru oedd dod â'r tueddiadau ynghyd mewn un adroddiad. Roedd yr adroddiad yn defnyddio rhagfynegiadau o dueddiadau'r dyfodol ar gyfer llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru i ddeall yr heriau y byddai Cymru yn eu hwynebu mewn perthynas â'r nodau llesiant. Roedd yn darparu ystyriaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r cyfeiriad y mae Cymru yn mynd iddo er mwyn helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud penderfyniadau hirdymor ar sail gwybodaeth.
9.4 Byddai'r adroddiad nesaf yn cael ei lywio gan y fersiwn flaenorol a'r adborth a gafwyd ar y fersiwn honno gan bartneriaid cyflawni. Daeth gwerthusiad o adroddiad 2021 i'r casgliad bod pedwar maes i'w gwella o ran y gwaith ar dueddiadau'r dyfodol, gan gynnwys: ymwybyddiaeth a hygyrchedd; defnydd a chymhwysiad; data a chynnwys; a dadansoddi a senarios.
9.5 Roedd y gwerthusiad yn cynnwys sawl argymhelliad ar gyfer gwella cynnwys yr adroddiad a'r gwaith o'i gyflawni, gan gynnwys hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad.
9.6 Byddai'r meysydd hyn i gyd yn cael eu datrys ar gyfer y fersiwn nesaf o'r adroddiad, a'r cynllun oedd canolbwyntio ar ddeg thema allweddol, pob un ohonynt yn cyd-fynd â'r saith nod llesiant, yn ogystal â blaenoriaethau ehangach i Gymru megis yr argyfyngau hinsawdd a natur.
9.7 Byddai'r fersiwn nesaf o'r adroddiad yn cael ei chyhoeddi erbyn mis Mai 2027, a byddai'r fethodoleg a'r dull yn cael eu defnyddio i alluogi cyhoeddi erbyn diwedd 2026 ar y cynharaf a gwanwyn 2027 fan bellaf.
9.8 Byddai agweddau allweddol ar y cyflawniad yn cynnwys Grŵp Goruchwylio mewnol, gydag aelodaeth o feysydd polisi allweddol, gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddol ac eraill ar draws y Llywodraeth. Yn ogystal, byddai dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr amrywiol, comisiynu arbenigwyr a thimau polisi o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Byddai adolygiad llenyddiaeth yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag ymgysylltu amrywiol â rhanddeiliaid gan gynnwys gweithdai gydag oedolion ifanc, nodweddion gwarchodedig penodol cytunedig, arbenigwyr academaidd a phrofiad byw.. Yn olaf, byddai ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn cael ei gynnal drwy sicrhau bod llais y plentyn/person ifanc wrth wraidd y gwaith dadansoddi.
9.9 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gydnabod pwysigrwydd monitro effeithiau newidiadau o ran cynhyrchiant a demograffeg yng Nghymru, ochr yn ochr â datblygiadau byd-eang.
9.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd, o ystyried natur amlflwyddyn y rhaglen hon, y byddai angen i Lywodraeth yn y dyfodol flaenoriaethu cefnogaeth i gyflawni'r rhaglen dros y 18 mis nesaf.
Eitem 10: Unrhyw fater arall
10.1 Nododd y Cabinet y byddai gwobrau Dewi Sant yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yr wythnos honno.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2026
