Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Helen Arthur, Cyfarwyddwr Gweithlu a Busnes Corfforaethol y GIG (eitem 3)
  • Stuart Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (eitem 4)
  • Alessandro Ceccarelli, Pennaeth Polisi LHDTC+ (eitem 4)
  • Emily Keoghane, Pennaeth Polisi LHDTC+ (eitem 4)
  • Steffan Bryn, Cynghorydd Arbennig (eitem 4)
  • Emily Edwards, Cynghorydd Arbennig (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 16 Ionawr.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6.05pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Gweithredu Diwydiannol - Iechyd ac Addysg – diweddariadau llafar

3.1 Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad ar y trafodaethau a gynhaliwyd gyda’r Undebau Llafur Iechyd ynghylch cyflogau a’r gweithredu diwydiannol parhaus.

3.2 Byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r Undebau a’r rheolwyr yn nes ymlaen yr wythnos honno.

3.3 Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fod yr NEU a’r NAHT wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, ond nad oedd NASUWT wedi cyrraedd y trothwy gofynnol. Fodd bynnag mae’n bosibl y bydd yr undeb yn cynnal ail bleidlais i’w aelodau. Nid oedd UCAC chwaith wedi cyrraedd y trothwy gofynnol ac roedd ASCL yn y broses o gynnal pleidlais i’w aelodau.

3.4 Roedd y Gweinidog a chynrychiolwyr CLlLC wedi cynnal trafodaethau gyda’r Undebau Llafur addysgu yn ystod yr wythnos flaenorol, pan gynigiwyd taliad untro. Cytunwyd y byddai trafodaethau ehangach yn cynnwys materion nad oeddent yn gysylltiedig â thâl.

3.5 Byddai’r Gweinidog yn cynnal cyfarfod pellach gyda’r Undebau Llafur a CLlLC ddydd Mercher.

Eitem 4: Cyhoeddi Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru CAB(22-23)41

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, a chytuno y dylid ei lansio ddechrau mis Chwefror fel rhan o Fis Hanes LHDT.

4.2 Roedd y Rhaglen Lywodraethu wedi ymrwymo i wneud Cymru y wlad fwyaf LHDTC+ cyfeillgar yn Ewrop, ac roedd y Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn gam pwysig tuag at gyflawni’r nod hwnnw.

4.3 Roedd y cynllun yn gosod y fframwaith ar gyfer datblygu polisi LHDTC+ ar draws y Llywodraeth a’r camau a fyddai’n cael eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, er mwyn herio gwahaniaethu a chreu cymdeithas y mae’n ddiogel i bobl LHDTC+ fyw ynddi heb deimlo bod angen cuddio eu hunaniaeth.

4.4 Roedd gweledigaeth drosfwaol ar gyfer gwella bywydau a chanlyniadau i bobl LHDTC+. Roedd yn cynnwys amrywiaeth eang o gamau gweithredu sy’n ymwneud â pholisi penodol o ran hawliau dynol ac addysg, a’r angen i wella diogelwch, tai a mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar yr un pryd hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Yn benodol, roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd, ac i sicrhau bod y cymunedau hynny yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu cynnwys yn ein cymdeithas yma yng Nghymru.

4.5 Bu ymgysylltu sylweddol ar draws y sector, gydag amrywiaeth eang o gynrychiolwyr o gymunedau LHDTC+ a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Panel Arbenigwyr y Llywodraeth, yn cydweithio.

4.6 Roedd y gwaith a oedd wedi ei gyflawni’n fewnol ar draws y Llywodraeth wedi bod yn helaeth, gan gynnwys cyfres o gyfarfodydd dwyochrog Gweinidogol, gyda chytundeb gan arweinwyr polisi er mwyn sicrhau bod y camau gweithredu arfaethedig yn ystyrlon ac yn uchelgeisiol, a’i bod yn bosibl eu cyflawni. Hefyd, roedd y cynigion wedi cael eu cytuno ag Aelod Dynodedig Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Roedd hynny wedi arwain at Gynllun sylweddol a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru.

4.7 Croesawodd y Cabinet y cynllun gweithredu arloesol gan longyfarch pawb a oedd wedi helpu i’w ddatblygu.

4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2023