Cyfarfod y Cabinet: 23 Mawrth 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 23 Mawrth 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Sarah Murphy AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nicola Williams, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Alyson Francis, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio (eitem 4)
- Katy Hossack, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ymchwiliadau Cyhoeddus (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 16 Mawrth 2026.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog sylw i'r gwrthdaro a oedd yn parhau yn y Dwyrain Canol, a oedd yn mynd yn fwy difrifol.
2.2 Roedd yn amlwg y byddai i'r gwrthdaro oblygiadau i'r economi a chostau byw, ac roedd Llywodraeth y DU yn cynnal cyfarfod COBR y diwrnod hwnnw i ystyried yr effaith economaidd ddomestig.
Cyfarfod Cabinet olaf y Senedd bresennol
2.3 Roedd y Prif Weinidog am roi ar gofnod ei gwerthfawrogiad i'r Cabinet am eu hymrwymiad ac am helpu i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu yn ystod y Senedd bresennol, yn enwedig y rhai a oedd yn dod i ddiwedd eu cyfnod yn eu swyddi ar ôl yr etholiad.
Strategaeth Ddur y DU
2.4 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi mynd i lansiad Strategaeth Ddur Llywodraeth y DU ym Mhort Talbot ddydd Iau, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach. Roedd y Strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur yng Nghymru, a’r disgwyl yw mai yng Nghymru y bydd tua hanner capasiti cynhyrchu dur y DU.
2.5 Un o'i amcanion yw sefydlogi'r sector, sicrhau ei hyfywedd, ac adfer lefelau cynhyrchu domestig i ryw 40-50% o'r galw domestig am ddur. Croesawyd y Strategaeth gan y Diwydiant a'r Undebau Llafur, fel ei gilydd.
Y Gronfa Twf Lleol
2.6 Yn gynharach y diwrnod hwnnw, yn ystod ymweliad â Glynebwy, roedd y Prif Weinidog wedi datgelu cynlluniau ar gyfer y Gronfa Twf Lleol sy'n werth £547m, rhaglen fuddsoddi fawr i gryfhau economïau rhanbarthol, gwella sgiliau, cefnogi busnesau a chreu swyddi sy'n talu'n well ledled Cymru.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod disgwyl i'r pleidleisio ddigwydd tua 6:55pm ddydd Mawrth a thua 6:20pm ddydd Mercher. Roedd y Llywydd yn bwriadu neilltuo cyfnod byr ddydd Mercher i'r Trefnydd, John Griffiths, Mark Isherwood a dau Aelod o bob grŵp, nad oeddent yn ymgeisio i gael eu hailethol, gael gwneud datganiad ffarwelio byr.
Eitem 4: Diweddariad Llafar – Cyhoeddi Adroddiad Modiwl 3 ac Argymhellion Ymchwiliad COVID-19
4.1 Rhoddodd y Prif Weinidog ddiweddariad i'r Cabinet ar gyhoeddi adroddiad Modiwl 3 ac argymhellion Ymchwiliad COVID-19, sy'n ymwneud ag effaith y pandemig ar systemau gofal iechyd ledled y DU.
4.2 Hwn oedd y trydydd adroddiad ac, fel y cytunwyd yn sgil gwrando ar y dystiolaeth, byddai adroddiadau yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd dros y ddwy flynedd nesaf, ac adroddiad Modiwl 4 ar frechlynnau a therapiwteg yn cael ei gyhoeddi ar 16 Ebrill, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
4.3 Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, cynhaliwyd nifer o gyfweliadau gan y cyfryngau, a'r cwestiynau yn canolbwyntio, yn gyffredinol, ar weithlu'r GIG a lefel y parodrwydd ar gyfer y pandemig nesaf.
4.4 Bu llawer iawn o fusnes yn ymwneud ag Ymchwiliad Covid-19 yr wythnos flaenorol, gan fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi ei hymateb i adroddiad Modiwl 2, ynghyd â Datganiad Llafar ddydd Mawrth. Dilynwyd hyn gan drafodaeth ar waith Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ar Fodiwl 1 ddydd Mercher.
4.5 Dywedodd swyddogion wrth y Cabinet fod adroddiad Modiwl 3 wedi'i gyflwyno ar ffurf naratif ac yn cynnwys tystiolaeth uniongyrchol yma ac acw a ddaeth i sylw'r Ymchwiliad drwy gyfraniadau ysgrifenedig a llafar. Roedd tystiolaeth o bob cenedl wedi'i chydblethu o fewn themâu'r adroddiad. Roedd y rhain yn cynnwys atal a rheoli haint, y galwadau ar wasanaethau gofal iechyd, gofal a thriniaeth cleifion, a'r effaith ar weithwyr gofal iechyd.
4.6 Roedd yr argymhellion yn drawsbynciol, a byddent yn galw am gydweithredu ar draws y pedair Llywodraeth a'r GIG. Cyfeiriwyd at yr angen am fwy o gapasiti o ran gofal brys, yr angen i gryfhau'r corff sy'n gyfrifol am amddiffyn rhag haint a'i reoli, a'r angen i wella dulliau casglu data. Byddai angen safoni prosesau a dogfennaeth yn ymwneud â chynllunio gofal ymlaen llaw, gan gofnodi dewisiadau cleifion ar yr un pryd. Dylid hefyd sicrhau mwy o gefnogaeth i weithwyr gofal iechyd, a chanllawiau clir i helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
4.7 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.
4.8 Nododd y Cabinet y diweddariad a chydnabu mai mater i'r Llywodraeth nesaf fyddai'r ymateb i Fodiwl 3.
Eitem 5: Diweddariad Llafar – Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Bellach ac Uwch
5.1 Rhoddodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ddiweddariad i'r Cabinet ar y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr, cyn ei datganiad llafar i'r Senedd y diwrnod canlynol.
5.2 Yn ystod cyfnod y Senedd bresennol, roedd y Llywodraeth, ar ôl ystyried, wedi mabwysiadu dull penodol o gryfhau'r cymorth i fyfyrwyr ac o ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sector trydyddol. Y flaenoriaeth oedd sicrhau system deg, flaengar a oedd yn ehangu cyfranogiad ac yn amddiffyn dysgwyr wrth i'r cyfnod o bwysau ariannol barhau.
5.3 Ym maes addysg bellach, roedd y Llywodraeth yn cefnogi ehangu cyfranogiad drwy gynyddu'r Grant Dysgu a thrwy gynnal Lwfans Cynhaliaeth Addysg mwy hael nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Roedd y mesurau hyn, ynghyd â gwneud nifer fwy o ddysgwyr yn gymwys am y Lwfans, yn helpu mwy ohonynt i gael mynediad at addysg a pharhau i ddysgu.
5.4 O ran addysg uwch, roedd y Llywodraeth yn parhau i weithredu system cyllid myfyrwyr fwy blaengar na Lloegr, ac roedd grantiau nad oes angen eu had-dalu yn parhau i fod yn ganolog i'r ddarpariaeth. Roedd cymorth cynhaliaeth wedi'i gynyddu, grantiau wedi'u targedu, a chynnydd yng ngwerth grantiau cynhaliaeth am y tro cyntaf ers 2018. Roedd y Llywodraeth hefyd wedi amddiffyn benthycwyr yng Nghymru rhag newid mewn polisi a fyddai'n gam yn ôl drwy wrthod cynllun Llywodraeth y DU i rewi trothwy ad-dalu Cynllun 2 a thrwy gadw'r trefniant i ddileu benthyciad myfyrwyr yn rhannol. Roedd y camau hyn yn sicrhau bod y system yn parhau i fod yn deg ac yn fforddiadwy.
5.5 Roedd cymorth yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol i'r Sector, darparwyd £38.5 miliwn ychwanegol yn 2024-2025 a buddsoddiad cyfalaf newydd o £25.5 miliwn i gefnogi ystadau, seilwaith digidol ac amgylcheddau dysgu. Roedd cynnydd i'r capiau ar ffioedd dysgu israddedigion amser llawn hefyd yn cefnogi sefydlogrwydd ariannol sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Roedd rhaglen Digarbon yn galluogi colegau a phrifysgolion ymhellach i ddatgarboneiddio eu hystadau a chryfhau cynaliadwyedd hirdymor, gan ddarparu £10 miliwn arall o gyllid ar gyfer 2025-2026.
5.6 Ar ben hynny, roedd y Cais am Dystiolaeth ar ddyfodol addysg drydyddol yn casglu barn ar gynaliadwyedd a chyllid myfyrwyr, gan gynnwys trefniadau ad-dalu. Roedd hyn yn ategu'r gwerthusiad o Ddiwygiadau Diamond, y cyfrannwyd ato gan ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwnnw. Gyda'i gilydd, byddai'r gwaith hwn yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi, ac yn sicrhau y byddai penderfyniadau yn y dyfodol yn seiliedig ar degwch, yn ehangu mynediad ac yn gydnaws ag anghenion hirdymor dysgwyr a sefydliadau.
5.7 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2026
