Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Sioned Rees, Cyfarwyddwr, Diogelu Iechyd y Cyhoedd (eitem 3)
  • Stacey-Jo Smith, Pennaeth Paratoadau ar gyfer Pandemig (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 27 Mawrth.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai amser pleidleisio yn cael ei gynnal tua 5:50pm ddydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos honno.

Eitem 3: Diweddariad a Blaen-gynllunio ar gyfer Feirysau Anadlol 2023/2024

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran feirysau anadlol.

3.2 Gyda’r gwanwyn a’r haf ar fin cyrraedd, disgwylid i’r perygl sy’n deillio o feirysau anadlol barhau i leihau. Roedd y bosibl y byddai nifer yr achosion COVID-19 yn parhau’n gymharol uchel, ond ni ddisgwylid i hynny arwain at fwy o bwysau ar y systemau iechyd a gofal.

3.3 Roedd brechu yn parhau i fod yr amddiffyniad cyntaf yn erbyn COVID-19, a chafodd ymgyrch dos atgyfnerthu y gwanwyn ei lansio ar 1 Ebrill er mwyn darparu diogelwch ychwanegol i bobl 75 oed ac yn hŷn, preswylwyr mewn cartrefi gofal oedolion, a phlant 5 oed ac yn hŷn a oedd yn imiwnoataliedig.

3.4 Croesawodd y Cabinet y diweddariad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ebrill 2023