Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Andrew Granville, Swyddfa’r Cabinet (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 17 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

2.1 Nododd y Cabinet na fyddai pleidlais yn cael ei chynnal i aelodau’r Blaid Geidwadol ddewis arweinydd newydd, gan nad oedd ond un ymgeisydd wedi cyrraedd y trothwy gofynnol, a’r disgwyl oedd mai Rishi Sunak AS fyddai’r Prif Weinidog yn San Steffan.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Dywedwyd wrth y Gweinidogion y bu un newid i Grid y Cyfarfodydd Llawn ers iddo gael ei gylchredeg gyda phapurau’r Cabinet - byddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ddydd Mawrth ynglŷn â chau Pont Menai.

3.2 Roedd y bont wedi cael ei chau yn yr wythnos flaenorol am resymau diogelwch, gan fod pryderon ynghylch cadernid y bachau sy’n cynnal y strwythur crogi wedi codi yn sgil archwilio’r bont. Gallai fod angen gwneud gwaith cryfhau, a allai gymryd rhwng 14 ac 16 o wythnosau. Yn y cyfamser, roedd swyddogion yn ystyried yr hyn y gellid ei wneud i wella’r tagfeydd ar y ffordd.

3.3 Wrth ddychwelyd i fusnes y cyfarfodydd llawn ar gyfer yr wythnos honno, nododd y Gweinidogion nad oed unrhyw bleidlais wedi ei threfnu ar gyfer dydd Mawrth, a bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer tua 7:10pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Llunio Dyfodol Cymru - Gosod ail don o Feini Prawf Cenedlaethol

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gytuno ar yr ail don o feini prawf cenedlaethol i Gymru, ac y dylent gael eu gosod gerbron y Senedd ar 22 Tachwedd.

4.2 Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu dangosyddion cenedlaethol a meini prawf cenedlaethol i Gymru, a fyddai’n mesur cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Mewn gwirionedd, roedd y meini prawf hyn yn dargedau tymor hir ar gyfer Cymru, a byddai ganddynt oblygiadau i’r holl gyrff cyhoeddus y mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol iddynt, gan gynnwys cyrff y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

4.3 Roedd y Cabinet wedi cytuno’n flaenorol y byddai’r meini prawf cenedlaethol cyntaf ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd 2021, gydag ymrwymiad i gyhoeddi ail don yn 2022. Ar ôl cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn yr hydref 2021, cytunwyd ar y naw o feini prawf cenedlaethol cyntaf, a chawsant eu gosod yn y Senedd ar 14 Rhagfyr 2021.

4.4 Ers mis Rhagfyr, roedd y gwaith ar ddatblygu’r ail don wedi cyflymu, a chytunwyd ar werthoedd meini prawf cenedlaethol drafft ym mis Mai, cyn lansio’r ymgynghoriad ffurfiol ym mis Mehefin. Roedd yr ymgynghoriad, a gaeodd ar 12 Medi, wedi denu 87 o ymatebion a oedd y gadarnhaol ar y cyfan. Ar ôl cynnal dadansoddiad allanol, cynigiwyd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2022