Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol – Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn wedi COVID-19
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Adolygu COVID-19
  • Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol
  • Steve Vincent, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd
  • Helen Ryder, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trafnidiaeth Gyhoeddus ac Integredig
  • Ian Taylor, Cynghorydd Polisi Arbenigol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 17 Ionawr.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cyhoeddiadau sy’n ymwneud â COVID-19

2.1 Hysbysodd y Prif Weinidog y Cabinet fod Llywodraeth y DU wedi dileu’r mesurau diogelwch iechyd sy’n ymwneud â theithwyr rhyngwladol. Arweiniodd diddymiad y system wyliadwriaeth at fwlch mawr yn y gallu i ddilyniannu profion positif i fonitro ar gyfer amrywiolion o’r feirws ac asesu eu heffaith yn gyflym.

2.2 O ystyried yr anawsterau ymarferol sy’n gysylltiedig â chael trefniadau gwahanol i’r rhai yn Lloegr, gyda nifer o bobl o Gymru yn teithio drwy feysydd awyr a phorthladdoedd Lloegr, byddai Llywodraeth Cymru, yn anfoddog, yn dilyn y penderfyniadau hyn.

2.3 Fodd bynnag, byddai mwy o amlygrwydd yn negeseuon y Llywodraeth i annog pobl i feddwl am eu hamgylchiadau personol eu hunain ac amgylchiadau eu teulu a sut y gallant amddiffyn eu hunain orau wrth ystyried teithio dramor.

2.4 Yn ogystal, wrth edrych ar y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg bod yr amrywiolyn Omicron yn ffurf lai difrifol o’r feirws, yn enwedig i bobl sydd wedi cael eu brechlyn a’u dos atgyfnerthu, a bod heintusrwydd yn dirywio’n gyflym yn ystod y pum diwrnod cyntaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori y byddai cyfnod hunanynysu llai, wedi’i gyfuno â dau brawf llif unffordd negyddol olynol, yn cael yr un effaith amddiffynnol â gofyniad ar bobl i hunanynysu am 10 diwrnod. Felly, roedd Gweinidogion o blaid lleihau’r cyfnod hunanynysu i bum diwrnod llawn ar gyfer y rhai sy’n profi’n bositif. Byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Bu’r Cabinet yn ystyried cynnwys grid y Cyfarfodydd llawn, gan nodi y byddai sesiynau’r wythnos honno’n cael eu cynnal yn rhithiol. Nid oedd unrhyw ddadl wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mawrth ac roedd amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 6:30pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Coronafeirws: Camau nesaf

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi sefyllfa bresennol Coronafeirws yng Nghymru a’r DU. Gwahoddwyd Gweinidogion i drafod i ba gyfeiriad i symud ymlaen a phenderfyniadau allweddol tebygol ar gyfer yr adolygiad o amddiffyniadau lefel rhybudd sero erbyn 10 Chwefror ynghyd â chynigion tymor hwy.

4.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau’n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

4.3 Dangosodd y cyfraddau achosion diweddaraf fod nifer y bobl a oedd wedi’u heintio wedi disgyn yn gyflym, ac mai tua 501 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth oedd y cyfartaledd saith diwrnod. Roedd cyfradd positifedd profion hefyd yn disgyn ac roedd nawr oddeutu 34.8%.

4.4 Roedd ychydig o ansicrwydd gyda’r data yn sgil y newid yn y polisi wrth brofi, ond mae canlyniadau diweddaraf arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwlad (ONS) Heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar gyfer Cymru hefyd yn awgrymu bod canran y bobl a oedd yn profi’n bositif wedi lleihau yn yr wythnos ddiweddaraf. Roedd arwyddion tebyg o leihad mewn cyfraddau’r haint ar draws Cymru yn bresennol mewn samplau dŵr gwastraff.

4.5 Ar ben hynny, roedd cyfraddau cyfnodau yn yr ysbyty wedi lleihau, gyda’r cyfanswm mewn gwelyau mewn ysbytai yn 1,037, a oedd 12% yn llai na’r wythnos flaenorol. Yn ogystal, mae nifer y cleifion coronafeirws sy’n meddiannu gwelyau gofal critigol wedi lleihau i 25, pump yn llai na’r wythnos flaenorol.

4.6 Roedd angen wythnos ychwanegol o ddata er mwyn deall yn llawn yr effaith ar y gyfradd heintio ymysg plant a oedd yn dychwelyd i leoliadau addysgol. Fodd bynnag, y cynllun oedd gofyn i ysgolion baratoi ar gyfer dychwelyd i’r fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau lleol a pharatoi asesiadau risg. Nid oedd unrhyw newidiadau i’r anghenion i wisgo gorchudd wyneb ar gyfer y dyfodol agos a byddai’r ysgolion hynny oedd wedi cyflwyno amseroedd cychwyn a gorffen am yn ail yn gallu parhau nes hanner tymor Chwefror.

4.7 O ran cynllunio ar gyfer adolygu’r Rheoliadau ar 10 Chwefror, byddai’n rhaid i Weinidogion ddewis, yng ngoleuni’r dystiolaeth fwyaf diweddar oedd ar gael, a oedd hi’n gymesur i gadw unrhyw rai o’r amddiffyniadau, neu bob un ohonynt, fel rhan o’r gyfraith, neu a ddylid symud tuag at ganllawiau.

4.8 Roedd y Cabinet o blaid symud tuag at osod yr amddiffyniadau fel canllawiau, cyhyd â bod yr amodau iechyd yn parhau yn ffafriol, heblaw am y gofynion hunanynysu.

4.9 Cytunodd Gweinidogion y dylai swyddogion, mewn ymgynghoriad â phartneriaid y gellir ymddiried ynddynt, baratoi cynllun pontio newydd i osod y cyfeiriad a cherrig milltir allweddol er mwyn rheoli’r coronafeirws ar sail barhaus.

4.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.