Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Charlie Thomas, Pennaeth Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a Llywodraethiant
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio’r UE, Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Nia James, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfiawnder
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 17 Mai.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cod y Gweinidogion 

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet i fersiwn ddrafft o God y Gweinidogion gael ei rhannu â Gweinidogion er mwyn iddynt allu codi unrhyw gwestiynau cyn i’r fersiwn derfynol gael ei chylchredeg yn nes ymlaen yr wythnos honno.

2.2 Byddai’n bwysig i bob Gweinidog edrych yn fanwl ar gynnwys y Cod terfynol, hyd yn oed os oeddent yn gyfarwydd â’r fersiynau blaenorol, gan y byddai gofyn iddynt gadarnhau’n ysgrifenedig eu bod wedi gwneud hynny.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wrth y Cabinet fod cynnig i benodi’r Cwnsler Cyffredinol a nifer o setiau o Offerynnau Statudol wedi cael eu cyflwyno ar gyfer dadl ddydd Mercher, yn ogystal â sesiwn gyntaf Cwestiynau a Datganiad Busnes y Prif Weinidog. Hefyd byddai datganiad llafar ar Adnewyddu a Diwygio: Cefnogi Lles a Chynnydd Dysgwyr. Roedd disgwyl y byddai’r pleidleisio’n digwydd tua 3.55pm ddydd Mercher, pe bai angen hynny.

3.2 Cafwyd dau gais am Gwestiynau Brys, un mewn perthynas â’r digwyddiadau nos Iau yn Mayhill, Abertawe, a’r llall yn ymwneud â chynlluniau’r DU ar gyfer cytundeb masnach dim cwotâu ag Awstralia.

3.3 Dywedwyd y byddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig y diwrnod canlynol ynghylch yr ymateb i’r digwyddiad yn Mayhill.

Eitem 4: Blaenoriaethau Deddfwriaethol CAB(21-22)02

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gwahodd Gweinidogion i gytuno ar y Biliau i gael eu cynnwys ym mlwyddyn gyntaf Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, ac i gymeradwyo cylch gwaith Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar gyfer y Rhaglen.

4.2 Roedd yr argyfwng iechyd cyhoeddus, o ganlyniad i’r pandemig, yn ogystal â’r galwadau deddfwriaethol i hwyluso ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, wedi cael effaith sylweddol yn ystod diwedd y Senedd ddiwethaf ar allu’r Llywodraeth flaenorol i ddeddfu, ac roedd wedi arwain at ohirio nifer o Filiau pwysig ac uchel eu proffil yn ogystal â nifer o eitemau o is-ddeddfwriaeth.

4.3 Gan fod llawer o’r pwysau sy’n gysylltiedig â’r pandemig ac ymadael â’r UE yn parhau, ochr yn ochr â’r angen i gyflawni blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth newydd a chyflwyno is-ddeddfwriaeth i weithredu deddfau’r Senedd, byddai Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar gyfer y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei sefydlu. Roedd y cylch gwaith a’r aelodaeth wedi eu nodi yn y papur.

4.4 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gydnabod yr effaith ar adnoddau pan fo angen ymateb i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhellion yn y papur.