Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gyflawni, Iechyd
  • Rob Orford, Prif Swyddog Gwyddonol – Iechyd
  • Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd y Gell Cyngor Technegol
  • Chris Roberts, Pennaeth Gwyddor Ymddygiadol – Iechyd COVID -19
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailddechrau
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19 – Adolygiad 21 diwrnod
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailddechrau ar ôl COVID-19
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Adolygiad o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 24 Mawrth 2022

1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet gynnal adolygiad ffurfiol o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5).

1.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau a oedd yn ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd rheoli’r feirws a’i atal rhag lledaenu, gan ddiogelu pobl a darparu ymateb iechyd cyhoeddus i achosion, lledaeniad yr haint, neu halogiad gan y feirws. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd, ac roedd yn rhaid i’r cyfyngiadau fod yn gymesur â’r hyn yr oeddent yn bwriadu ei gyflawni.

1.3 Cydnabuwyd bod yr wybodaeth a roddwyd i Weinidogion yn y Cabinet ddydd Llun, bod nifer yr achosion yn cynyddu eto, yn golygu y byddai mwy o bwysau ar ysbytai, ac yn benodol ar unedau gofal dwys. Felly daeth y Cabinet i’r casgliad bod angen symud yn fwy gofalus na’r bwriad blaenorol, ac fe gytunwyd i barhau i weithredu rhai cyfyngiadau am y tro, gyda chamau diogelu eraill yn cael eu darparu mewn cyngor iechyd y cyhoedd. Roedd hyn yn adlewyrchu argymhellion y Prif Swyddog Meddygol.

1.4 Cytunodd y Cabinet y dylai’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn safleoedd manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus gael ei ddileu o 28 Mawrth. Fodd bynnag, er mwyn diogelu pobl agored i niwed, byddai’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau mewn grym. Byddai’r defnydd ehangach o orchuddion wyneb yn cael ei egluro mewn canllawiau.

1.5 Hefyd, byddai’r gofyniad cyfreithiol ar fusnesau a sefydliadau i gynnal asesiadau risg coronafeirws penodol, ac i gymryd camau rhesymol i leihau unrhyw risg gymaint phosibl, yn parhau. Byddai hyn yn caniatáu iddynt gymryd unrhyw gamau i ymateb i’r is-amrywiolyn newydd o Omicron, BA.2, sy’n fwy trosglwyddadwy.

1.6 Byddai’r gofyniad ar bobl i hunanynysu, os ydynt yn cael canlyniad positif i brawf, yn cael ei symud o fod yn gyfraith i fod yn ganllaw, ac ni fyddai disgwyl bellach i’r rheini, sydd heb gael eu brechu, sy’n dod i gysylltiad agos â rhywun sy’n cael canlyniad positif i brawf, gymryd camau o’r fath. Nodwyd y byddai’r taliad hunanynysu o £500 yn parhau ar gael hyd at fis Mehefin.

1.7 Y bwriad oedd y byddai’r mesurau diogelu, a oedd yn parhau’n ofynion cyfreithiol, yn parhau mewn grym tan yr adolygiad tair wythnos nesaf. Os bydd yr amodau’n ffafriol bryd hynny, bydd y mesurau wedyn yn cael eu symud i fod yn ganllaw.

1.8 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion weithredu’n unol â’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion.