Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS (o eitem 2)
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 19 Chwefror.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymweliad â Gogledd Cymru

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef, a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi mynychu cyfres o ymweliadau yn y Gogledd yr wythnos flaenorol, a bod protestwyr wedi amharu ar yr ymweliadau hyn, ond nad oedd rhai o'r protestwyr hynny'n gysylltiedig â'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.

Protestiadau gan Ffermwyr

2.2 Yn gynharach y diwrnod hwnnw, roedd y Prif Weinidog a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cyfarfod â grŵp o gynrychiolwyr ffermio, a oedd wedi trefnu cyfarfodydd protest yn y Trallwng a Chaerfyrddin, i wrando ar eu pryderon am y newidiadau arfaethedigNododd y Gweinidogion y byddai Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos honno i ymateb i'r pryderon hyn.

Digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n mynychu nifer o ddigwyddiadau ym Mrwsel yr wythnos honno i hyrwyddo Cymru fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Hefyd, byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn lansio ymgyrch Cymru yn India ym Mumbai; byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn ymweld â Dulyn; a byddai'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn mynychu digwyddiadau yn Llundain yn nes ymlaen yr wythnos honno.

Cyllideb Derfynol 2024-2025

2.4 Cafodd aelodau'r Cabinet eu hatgoffa gan y Prif Weinidog y byddai Cyllideb Derfynol 2024-2025 yn cael ei chyhoeddi'r bore canlynol.

Ymchwiliad COVID-19

2.5 Nododd y Cabinet y byddai'r Ymchwiliad COVID-19 yn dechrau cynnal gwrandawiadau cyhoeddus yng Nghymru y diwrnod canlynol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet y bu un newid i Grid y Cyfarfodydd Llawn ers i'r papurau gael eu dosbarthu. Daethpwyd i gytundeb gyda'r pleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd ynghylch cynnig amgen ar gyfer y ddadl ar hyblygrwydd cyllidebol. O ganlyniad, roedd cynnig y Llywodraeth wedi cael ei dynnu'n ôl, ac roedd cynnig newydd wedi ei gyflwyno. Byddai angen atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn hwyluso hyn.

3.2 Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5.45pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2024