Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Lesley Griffiths AS
  • Julie James AS
  • Julie Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog (cofnodion)
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Rhys Castle Jones, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Polisi a Strategaeth Economaidd
  • Claire McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd

Eitem 1: Parthau Buddsoddi

1.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y nodyn briffio, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am drafodaethau gyda Gweinidogion y DU ynghylch sefydlu Parthau Buddsoddi yng Nghymru. Roedd y Cabinet wedi ystyried papur o sylwedd ym mis Gorffennaf.

1.2 Yn ddiweddar, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Chysylltiadau Rhynglywodraethol wedi nodi bod y cynnig presennol yn derfynol, ac y dylai telerau arfaethedig Llywodraeth y DU dalu'r holl gostau uniongyrchol disgwyliedig ar gyfer cynnal hyd at ddau Barth Buddsoddi yng Nghymru.

1.3 O ran lleoliadau, De-ddwyrain Cymru fyddai'r ardal fwyaf manteisiol yn economaidd, a byddai'n cynnwys rhannau o ddinasoedd Casnewydd, Caerdydd a Chymoedd y De-ddwyrain. Er enghraifft, byddai'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Parth Buddsoddi. Gallai Gogledd-ddwyrain Cymru fod yr ail leoliad mwyaf manteisiol yn economaidd, sef ardal a fyddai'n cynnwys Wrecsam a Sir y Fflint, o ystyried ystod a lefelau'r arbenigedd mewn diwydiannau addas yn yr ardal honno.  

1.4 Cydnabuwyd bod ardaloedd eraill yng Nghymru wedi cael eu hystyried, fel Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ond bod gan y rhain lai o botensial ar gyfer twf.

1.5 Cafwyd trafodaeth ynghylch a fyddai ardal arall yng Nghymru, sydd o dan bwysau economaidd megis diweithdra cymharol uchel a diffyg buddsoddiad, fod mewn sefyllfa well i gynnal Parth fel hwn. Nododd y Gweinidogion mai polisi Llywodraeth y DU yw hwn, a'i fod yn seiliedig ar dwf, ac y byddai'n targedu meysydd lle'r oedd adnoddau eisoes ar waith, er mwyn gwella ac adeiladu ar gynhyrchiant sy'n bodoli eisoes.

1.6 Daeth y Cabinet i'r casgliad mai dyma'r cynnig gorau sydd ar gael, o ystyried y dull gweithredu a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU, a chytunwyd i gefnogi sefydlu'r ddau Barth Buddsoddi yng Nghymru.  Nodwyd y byddai Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad i'r Senedd ar 7 Tachwedd yn amlinellu penderfyniad y Llywodraeth.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2023