Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Amelia John, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi (eitem 4)
  • Andrew Charles, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymunedau Cydlynol (eitem 4)
  • Chris Buchan, Pennaeth Polisi a Chymorth y Trydydd Sector (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 20 Ionawr 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru

2.1 Soniodd y Prif Weinidog am lwyddiant Is-bwyllgor y Cabinet yn y Gogledd yr wythnos flaenorol.

Diwrnod Cofio'r Holocost

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod hi, ynghyd ag aelodau eraill o'r Llywodraeth, wedi mynychu Seremoni Cymru i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, a oedd wedi ei chynnal yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn gynharach y diwrnod hwnnw.  Roedd yn achlysur i anrhydeddu'r cof am y miliynau o fywydau a gollwyd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill, ac yn gyfle i ymrwymo i sefyll yn erbyn yr anoddefgarwch a’r casineb sy'n digwydd heddiw.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet y byddai amser pleidleisio tua 4:45pm ddydd Mawrth, ac y byddai hynny'n cael ei ddilyn gan gyfnod tri y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda phleidleisio'n digwydd drwy gydol y sesiwn. Roedd yr amser pleidleisio ddydd Mercher wedi'i drefnu ar gyfer 5:55pm.

Eitem 4: Rôl y Trydydd Sector o ran cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet barhau i gryfhau'r bartneriaeth gyda'r Trydydd Sector yng Nghymru.

4.2 Roedd hyrwyddo buddiannau mudiadau gwirfoddol, a phwysigrwydd y berthynas gyda'r Llywodraeth, yn rhan bwysig o ddatganoli. Roedd dymuniad i efelychu Cynllun y Trydydd Sector a'r Cod Ariannu ymysg gwledydd eraill, ac roedd yn bwysig cydnabod bod 25 mlynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno'r Cynllun Trydydd Sector cyntaf. Nid oedd y berthynas hon, a alluogwyd gan y cynllun, yn bodoli mewn mannau eraill yn y DU, nac mewn sawl rhan o Ewrop.

4.3 Roedd y sector yn bartner cyflawni pwysig sy'n helpu pob portffolio i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Roedd elusennau hefyd yn helpu unigolion a allai fod yn wynebu anfantais ac unigedd i gael cymorth. Roedd y sector yn cefnogi llawer o adnoddau lleol, gan ddarparu amrywiaeth o weithgareddau o ddosbarthiadau ymarfer corff, cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, neu gyfleoedd i bobl gwrdd â'i gilydd a chadw'n gynnes. Hefyd, roedd Cwtch Mawr, sef y banc cyntaf yng Nghymru ar gyfer casglu a dosbarthu eitemau amrywiol, ar waith yn Abertawe.

4.4 Roedd gan y sector rôl mewn datblygu economaidd drwy helpu'r rheini sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur i ennill yr hyder a'r sgiliau i ymgeisio am swyddi, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ymchwilio i yrfaoedd newydd drwy wirfoddoli.

4.5 Ym maes addysg, ceir gwirfoddolwyr sy'n cefnogi ysgolion drwy helpu plant gyda'u darllen, a helpu i gynnal gweithgareddau y tu allan i'r cwricwlwm, neu gyda theithiau a chodi arian, yn ogystal ag eirioli dros blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu anghenion iechyd corfforol. Roedd rôl llywodraethwyr hefyd yn bwysig drwy eu bod yn cefnogi ysgolion. Ar ben hynny, roedd trafnidiaeth gymunedol yn helpu pobl i fynychu apwyntiadau ysbyty, ysgolion, cyfweliadau am swyddi, ac i oresgyn unigedd.

4.6 Roedd y gallu i gael gafael ar wybodaeth a chyngor ar les cymdeithasol yn bwysig er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniadau cytbwys, megis yr ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi. Roedd mynediad hefyd at wasanaethau arbenigol megis cefnogi dioddefwyr VAWDASV, ac yn aml byddai'r grwpiau hyn yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid statudol.

4.7 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gydnabod bod y Trydydd Sector wedi dangos yn ystod y pandemig a'r argyfwng costau byw pa mor bwysig ydoedd i bobl Cymru. Ar ben hynny, roedd y sector a gwirfoddolwyr yn helpu i weithredu polisïau ar draws pob portffolio, o helpu i gefnogi'r sectorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon a Diwylliant a helpu mewn banciau bwyd a chanolfannau dosbarthu, i gefnogi llawer o brosiectau amgylcheddol.

4.8 Nodwyd bod busnesau a gweithwyr proffesiynol bellach yn defnyddio eu sesiynau gwirfoddoli i ddefnyddio eu sgiliau a'u hyfforddiant i helpu cymunedau, yn ogystal â chefnogi elusennau, fel Cadwch Gymru'n Daclus.

4.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Unrhyw faterion eraill

5.1 Nododd y Cabinet y byddai Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn dod i ben ar 11 Mehefin.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2025