Cyfarfod y Cabinet: 27 Mai 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 27 Mai 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
- Sioned Williams AS
- Mabon ap Gwynfor AS
- Anna Brychan AS
- Cefin Campbell AS
- Heledd Fychan AS
- Llŷr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
- Adam Price AS
- Dafydd Trystan Davies AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog
- Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Cai Elis, Cynghorydd Arbennig
- Francess Ifan, Cynghorydd Arbennig
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet, Canlyniadau (eitem 3)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 18 Mai 2026.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Eisteddfod yr Urdd
2.1 Nododd y Prif Weinidog y presenoldeb a'r derbyniad cadarnhaol yn Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn, gan groesawu presenoldeb Llywodraeth Cymru ar draws cymunedau Cymru.
Blaenoriaethau'r Llywodraeth
2.2 Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo ar flaenoriaethau'r Llywodraeth, yn dilyn y papur a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol, a bod y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog wedi amlinellu'r cynlluniau ar gyfer y cynnig gofal plant yr wythnos flaenorol. Byddai hyn yn sicrhau cynnydd y gallai pobl yng Nghymru ei weld a'i deimlo.
2.3 Er mwyn cynnal y momentwm, byddai’r gweinidogion yn rhoi datganiadau llafar i'r Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf i amlinellu blaenoriaethau’r portffolios ar gyfer tymor y llywodraeth hon. Pwrpas y datganiadau fyddai trafod blaenoriaethau ac amcanion portffolios unigol ar lefel uchel, gan gyfeirio, lle bo'n bosibl, at ble roedd y rhain eisoes ar waith.
2.4 Byddai'r datganiadau hyn hefyd yn ffordd o gyfleu momentwm wrth i'r cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf barhau i gael ei gyflawni. Byddai Swyddfa'r Cabinet yn ceisio sicrhau bod y datganiadau yn cyd-fynd â’r gwaith o adrodd ar yr ymrwymiadau a oedd wedi'u cyflawni yn y cynllun 100 diwrnod. Byddai'r ddau ddatganiad cyntaf yn cael eu rhoi gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, a'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.
Eitem 3: Rhoi Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf ar Waith - CAB(26-27)02
3.1 Nododd y Prif Weinidog ei bod yn bwysig cadw momentwm wrth ddangos lle roedd cynnydd yn cael ei wneud yn y 100 diwrnod cyntaf, a gofynnodd i'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad gyflwyno'r papur.
3.2 Roedd y papur yn nodi'r dull arfaethedig o weithredu Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf, a sut y byddai cynnydd yn cael ei fonitro a llwyddiant yn cael ei ddangos.
3.3 Yr hyn y gofynnid i’r Cabinet ei wneud oedd cytuno ar y dull o fynd ati i weithredu'r Cynllun a rôl Gweinidog y Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth, ochr yn ochr â Swyddfa'r Cabinet, o ran sicrhau cynnydd.
3.4 Pwysleisiwyd fod y berthynas rhwng y Cynllun a'r Blaenoriaethau yn hanfodol, gan fod gwireddu'r blaenoriaethau yn allweddol, a’r Cynllun hwn oedd y cam pwysig cyntaf ar y daith honno.
3.5 Byddai Swyddfa'r Cabinet yn parhau i ymgysylltu’n agos â'r holl dimau adrannol ar bob cam gweithredu yn y Cynllun.
3.6 Byddai'r cyfnod o 100 diwrnod yn rhedeg o 18 Mai i 26 Awst, ac er mwyn parhau â'r gwaith yn gyflym, gofynnid am ddiweddariadau wythnosol. Byddai'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth yn gweithio i gefnogi pob Gweinidog Cabinet drwy gydol y cyfnod hwn, yn enwedig pan fo rhwystrau sylweddol i'w goresgyn.
3.7 Byddai rhai canlyniadau lle byddai cyflawni yn dibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth y DU, a dylai'r sgoriau RAG adlewyrchu ymdrechion y llywodraeth i bwyso am newid, yn hytrach na chanolbwyntio ar ganlyniadau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth uniongyrchol.
3.8 Bwriedid i’r gwaith hwn fod yn fan cychwyn ar gyfer trafod gydag adrannau, a byddai Swyddfa'r Cabinet yn cysylltu ag adrannau dros yr wythnosau nesaf i ddod i ddealltwriaeth gyffredin.
3.9 Y bwriad oedd y byddai hwn yn ddull hyblyg, yn canolbwyntio ar ganlyniadau, a fyddai'n caniatáu i'r llywodraeth ymateb yn gyflym. Pe bai'r gwaith yn datgelu ffordd wahanol, fwy hwylus, neu fwy pragmatig o gyrraedd yr un canlyniadau, byddai hynny'n cael ei weithredu.
3.10 Byddai cyflawni’n dibynnu ar bartneriaethau cryf, yn enwedig gydag Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid ehangach.
3.11 Yn ogystal, nododd y Cabinet y byddai sicrhau bod adnoddau’n cyd-fynd ag ymdrech yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau.
3.12 Cytunodd y Cabinet ar y dull o weithredu'r Cynllun a rôl y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, ochr yn ochr â Swyddfa'r Cabinet, wrth sicrhau cynnydd.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2026
