Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford MS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Emma Spear, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Swyddfa’r Cyfarwyddwr Cyffredinol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 20 Mawrth.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog y bu’n ymweld ag Ynys Môn ddydd Iau’r wythnos flaenorol, lle y cyhoeddodd ef a Prif Weinidog y DU y ddau gais llwyddiannus ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru. Y ddau gais hynny oedd Caergybi a Celtic, sy’n cynnwys Aberdaugleddau a Phort Talbot.

Cyfarfod â Phrif Weinidog y DU

2.2 Cyn y cyhoeddiad, cafodd y Prif Weinidog gyfarfod ar wahân â Phrif Weinidog y DU.

Cynhadledd Ynni Môr Cymru

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod hefyd wedi mynychu Cynhadledd Ynni Môr Cymru yn Abertawe yr wythnos flaenorol, lle’r oedd dros 500 o gynrychiolwyr yn bresennol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai amser pleidleisio’n cael ei gynnal tua 6:50pm ddydd Mawrth a thua 6:45pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Allbynnau’r ymgynghoriad a’r camau nesaf ar gyfer yr ardoll ymwelwyr

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn rhoi dadansoddiad o’r themâu a gododd o’r ymarfer ymgynghori ar yr ardoll ymwelwyr arfaethedig.

4.2 Bu’r ymgynghoriad yn gyfle i ymgysylltu’n helaeth â busnesau, awdurdodau lleol, a’r trydydd sector, a hynny cyn y cyfnod ymgynghori ac yn ystod y cyfnod hwnnw. Mewn digwyddiad ym Mhortmeirion, clywodd y Gweinidog syniadau pobl o ran sut y gallai’r ardoll weithio, yn ogystal â rhai o’r manteision i gymunedau lleol.

4.3 Roedd y dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn un trylwyr, a chafwyd sylwadau adeiladol gan ymatebwyr y byddai angen eu hystyried cyn gwneud penderfyniadau polisi terfynol.

4.4 Croesawodd y Cabinet y papur, gan nodi y cafwyd dros 1200 o ymatebion i’r ymarfer ymgynghori.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2023