Cyfarfod y Cabinet: 28 Ebrill 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 28 Ebrill 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Rebecca Evans AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Grŵp y Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Andy Fraser, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwydnwch a Diogelwch Gwladol (eitem 4)
- Lori Frater, Pennaeth yr Uned Gwydnwch (eitem 4)
- Paul Kindred, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwylliant (eitem 5)
- Catrin Hughes, Pennaeth Polisi a Strategaeth, Diwylliant (eitem 5)
Ar ran y Cabinet, llongyfarchodd y Prif Weinidog y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar ei phriodas yn ystod toriad y Pasg.
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 31 Mawrth 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Angladd y Pab Francis
2.1 Nododd y Prif Weinidog farwolaeth drist Ei Sancteiddrwydd y Pab Francis, y cynhaliwyd ei angladd ddydd Sadwrn.
Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig)
2.2 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at adalw Senedd y DU yn ystod toriad y Pasg i drafod Bil y Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig). Bil sy'n berthnasol i Loegr yn unig yw hwn. Mae'n ymateb i fwriad perchnogion British Steel i beidio ag archebu rhagor o ddeunyddiau crai, a fyddai wedi golygu y byddai'r ddwy ffwrnais chwyth yn Scunthorpe yn gorfod rhoi'r gorau i weithredu.
2.3 Roedd hyn yn wahanol i'r sefyllfa ym Mhort Talbot, lle'r oedd gan Tata Steel gynllun i drosglwyddo i ddulliau mwy cynaliadwy o gynhyrchu dur ar y safle. Adroddwyd bod y £500m a ddyrannwyd i Tata, i helpu gyda'r trosglwyddo, yn ychwanegol at y £2.5bn a ddyrannwyd i'r Gronfa Gyfoeth Wladol ar gyfer y sector dur. Byddai'n bwysig sicrhau bod Port Talbot hefyd yn gallu elwa ar y buddsoddiad hwn.
2.4 Nodwyd bod y Prif Weinidog wedi cyfarfod â Tata Steel ac Undebau Llafur ar safle Port Talbot ddydd Gwener yr wythnos flaenorol.
Dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw
2.5 Nododd y Cabinet fod Goruchaf Lys y DU wedi dod i benderfyniad yn ddiweddar ar y diffiniad o fenyw, ac y byddai'n bwysig nawr i Lywodraeth Cymru neilltuo'r amser i ystyried y dyfarniad yn ofalus a chymryd y camau sy'n ofynnol i fodloni'r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, fel yr eglurwyd gan y dyfarniad.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:05pm ddydd Mawrth a thua 6:15pm ddydd Mercher. O'r wythnos hon, byddai cyfarfodydd llawn yn cael eu cynnal yn Siambr Hywel, er mwyn caniatáu i'r gwaith adnewyddu ar adeilad y Senedd fynd rhagddo, wrth ddisgwyl yr estyniad i'r Senedd.
Eitem 4: Fframwaith Gwydnwch Cymru a'r Cynllun Cyflawni CAB(24-25)55
4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar gynnwys Fframwaith Gwydnwch Cymru a'r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni cysylltiedig.
4.2 Gyda'r adferiad o'r pandemig a'r amrywiaeth o risgiau sy'n mynd yn fwyfwy cymhleth ac esblygol, roedd yn gyfnod o heriau ac ansicrwydd digynsail ar draws y byd. Er enghraifft, roedd Portiwgal a Sbaen yn dioddef o doriad pŵer enfawr ar hyn o bryd, ac roedd ansicrwydd o ran yr hyn a oedd wedi ei achosi.
4.3 Roedd trefniadau rheoli argyfwng y Llywodraeth wedi cael eu sbarduno ar 30 o achlysuron gwahanol yn ystod 2024 i gefnogi amrywiaeth o argyfyngau a heriau eraill. Roedd bygythiad stormydd a llifogydd, risgiau iechyd anifeiliaid, a bygythiadau diogelwch gwladol ehangach yn bresennol bob amser, ac roedd angen paratoi i helpu i liniaru effeithiau'r rhain er mwyn amddiffyn cymunedau a gwella galluoedd gwydnwch.
4.4 Mae Fframwaith Gwydnwch Cymru yn nodi sut y gellid gwella dealltwriaeth o'r risgiau, a chynllunio'r fwy effeithiol ar eu cyfer, i'r Llywodraeth a phartneriaid, ac ar yr un pryd gwella'r strwythurau gwydnwch i gefnogi cymunedau. Roedd hon yn ymdrech ar y cyd y gellid ei chyflawni dim ond trwy bartneriaethau cryf sy'n gweithredu'n seiliedig ar 'Unwaith i Gymru' i adeiladu parodrwydd a galluoedd ymateb.
4.5 Roedd yr angen i ymgorffori'r hyn a ddysgwyd o ddigwyddiadau yn y gorffennol yn ganolog i'r dull gweithredu hwn, ynghyd ag ymrwymiad amlwg i wella'n barhaus sy'n gwneud y gorau o bartneriaethau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ogystal ag yn galluogi cymunedau a'r cyhoedd i fod yn fwy cadarn.
4.6 Hefyd, roedd yn bwysig parhau i feithrin a chynnal cysylltiadau rhynglywodraethol cryf lle'r ydym ni, a Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cefnogi ein gilydd, er mwyn cyflawni ein nodau gwydnwch ar y cyd. Roedd y Fframwaith yn glir bod ymdrechion ar y cyd yn rhan annatod o drefniadau gwydnwch a diogelwch gwladol y DU.
4.7 Roedd camau gweithredu i wella atebolrwydd a thryloywder, gydag Adroddiad Cyflwr Gwydnwch i'r Senedd yn cael ei gyhoeddi bob pedair blynedd, ynghyd â datganiad blynyddol i'r Senedd ar y galluoedd parodrwydd cyfredol.
4.8 Roedd yn hanfodol gwella dealltwriaeth y cyhoedd o'r risgiau er mwyn gwella gwydnwch ar draws aelwydydd a chymunedau. Roedd grymuso cymunedau i adeiladu eu gwydnwch yn hanfodol er mwyn gwella cyfathrebu ac ymgysylltu.
4.9 Byddai'r Fframwaith a'r Cynllun Cyflawni yn cael eu cyhoeddi ar 13 Mai, a byddai'r Prif Weinidog yn cyflwyno datganiad llafar i'r Senedd y prynhawn hwnnw. Byddai'r Cynllun wedyn yn cael ei gyflwyno i aelodau Fforwm Gwydnwch Cymru, sef fforwm sydd wedi'i ailgyfansoddi, y diwrnod canlynol.
4.10 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gofnodi ei ddiolch i swyddogion Argyfyngau Sifil sy'n rheoli trefniadau rheoli argyfwng y Llywodraeth.
4.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Cyhoeddi 'Blaenoriaethau ar gyfer diwylliant'
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Phartneriaeth Gymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cyhoeddi Blaenoriaethau Diwylliant newydd.
5.2 Roedd y blaenoriaethau a'r uchelgeisiau newydd hyn yn cynnig map ffordd ar gyfer y dyfodol, a byddent yn helpu i lywio'r cyfeiriad strategol a buddsoddiad o fewn y sector diwylliant ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hir.
5.3 Roedd yn ddogfen gryno, gyda thair blaenoriaeth lefel uchel:
- diwylliant yn dod â phobl at ei gilydd
- cenedl o ddiwylliant, a
- diwylliant sy'n wydn ac yn gynaliadwy.
Roedd pob un o'r rhain yn cael eu cefnogi gan set o uchelgeisiau penodol.
5.4 Roedd grŵp llywio allanol, sy'n cynnwys lleisiau'r sector, arbenigwyr addysg uwch, a gweithwyr llawrydd wedi monitro’r gwaith o ddatblygu’r Blaenoriaethau Diwylliant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac roedd hyder bod cynnwys y ddogfen hon yn adlewyrchu'n gywir yr uchelgeisiau parhaus ar gyfer y sector.
5.5 Croesawodd y Cabinet y papur.
5.6 Roedd yn bwysig dangos pwysigrwydd diwylliant i Gymru, a hefyd ymgysylltu â phobl ifanc a phlant. Roedd y blaenoriaethau'n rhai sy'n berthnasol ar draws y cenedlaethau, ac roeddent yn gysylltiedig ag addysg blynyddoedd cynnar, dysgu Cymraeg, Cymru Iach, a rhagnodi cymdeithasol. Roedd yr elfen cyfiawnder cymdeithasol am sicrhau bod gan bob person fynediad at ddiwylliant, yn enwedig pobl anabl. Roedd cysylltiadau hefyd â'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
5.7 Roedd ffyrdd arloesol o fynegi diwylliant, megis trwy'r gelf a ddefnyddir i wella ymddangosiad yr amddiffynfeydd rhag llifogydd. Ar ben hynny, roedd diwylliant wedi'i ymgorffori ar hyd a lled yr ardaloedd gwledig, trwy gymunedau Cymraeg eu hiaith, clybiau Ffermwyr Ifanc, y Parciau Cenedlaethol, a safleoedd treftadaeth y byd UNESCO.
5.8 Roedd diwylliant yn rhywbeth sy'n gallu trawsnewid canol trefi, yn enwedig wrth leoli gwasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Leol mewn llyfrgelloedd.
5.9 Byddai angen meddwl sut y gellid cefnogi'r dinasoedd hynny yng Nghymru sydd â diddordeb mewn ymgeisio i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029.
5.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai'r Blaenoriaethau yn cael eu lansio trwy ddatganiad llafar i'r Senedd ar 20 Mai.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ebrill 2025
