Cyfarfod y Cabinet: 28 Mawrth 2022
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 28 Mawrth 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Present
- Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Dawn Bowden AS
- Hannah Blythyn AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Ymddiheuriadau
- Julie James AS
- Mick Antoniw AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Steffan Bryn, Cynghorydd Arbennig (eitem 7)
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys
- Andy Fraser, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Dŵr a Llifogydd
- Lori Frater, Pennaeth yr Is-adran Diogelwch Tomenni Glo
- Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg
- Hannah Wharf, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr
Eitem 1: Cofnodion cyfarfodydd blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet y cofnodion dyddiedig 21 Mawrth.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Y Cytundeb Cydweithio
2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Gweinidogion y byddai Cynghorydd Arbennig yr oedd wedi’i benodi i oruchwylio meysydd polisi y cytunwyd arnynt o fewn y Cytundeb Cydweithio, yn bresennol yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem ynghylch Prydau Ysgol am Ddim.
Adfer Gofal a Gynlluniwyd y GIG
2.2 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddiweddaru’r Cabinet ynghylch y rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal iechyd a gynlluniwyd yng Nghymru a lleihau rhestrau aros wrth barhau i ymateb i COVID-19.
2.3 Rhannwyd bod y Cynllun, a oedd i’w gyhoeddi ar ôl y Pasg, yn canolbwyntio’n bennaf ar wasanaethau oedd â rhestrau aros a thriniaethau a gynlluniwyd. Nodwyd bod y cynllun yn nodi cyfres o uchelgeisiau ar gyfer gweddill tymor y Senedd, a’i fod yn cynnwys nifer o amcanion wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y cyhoedd, moderneiddio gwasanaethau a lleihau amseroedd aros. Roedd y Cynllun yn nodi’r heriau anferth oedd gan y GIG o ran lleihau’r llwyth gwaith. Byddai’r gwaith yn canolbwyntio ar ddod ag amseroedd aros yn ôl i lefelau cyn y pandemig erbyn etholiad nesaf y Senedd.
2.4 Roedd yr amcanion yn cael eu harwain gan saith blaenoriaeth allweddol i’w gweithredu, yn canolbwyntio ar gefnogaeth a gwybodaeth i gleifion, trawsnewid gwasanaethau, yn ogystal â dysgu’r gwersi o’r pandemig. Byddai angen cynyddu capasiti ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol gan ddatblygu gwasanaeth hirdymor sy’n gynaliadwy ar draws gwasanaethau cleifion allanol, diagnosteg a gofal a gynlluniwyd.
2.5 Roedd y cynllun hefyd yn nodi’r cyd-ddibyniaethau hanfodol sy’n deillio o rannau eraill o’r GIG a Gofal Cymdeithasol.
2.6 Fodd bynnag, roedd y GIG angen parhau i ymateb i bwysau’r pandemig gyda’r disgwyliad i oddeutu 2,800 o welyau ysbyty gael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 erbyn diwedd mis Ebrill. Roedd angen mynd i’r afael hefyd ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn. Nodwyd y byddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno busnes y portffolio yn y Siambr yr wythnos honno gan nad oedd y Gweinidog ar gael. Nodwyd bod yr amser pleidleisio wedi’i drefnu at 6.40pm ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Eitem 4: Datganiad Gwanwyn Canghellor y Trysorlys - eitem lafar
4.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wybod i'r Cabinet fod Datganiad Gwanwyn Canghellor y Trysorlys, a gyflwynwyd y dydd Mercher blaenorol, wedi cynnig rhywfaint o gymorth cyfyngedig i weithwyr. Fodd bynnag, ychydig iawn o gymorth oedd ar gael i leddfu straen yr argyfwng costau byw ar yr aelwydydd tlotaf a’r aelwydydd mwyaf agored i niwed sy’n dibynnu ar fudd-daliadau. Nid oedd unrhyw gamau gweithredu pellach o ran lleihau biliau ynni.
4.2 Nid oedd y datganiad chwaith yn ymdrin â chymell prosesau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a meithrin gwydnwch mewn cyflenwadau ynni er mwyn sicrhau parhad a phrisiau sefydlog i ddefnyddwyr, yn ogystal â sicrhau prosesau diogelu ffynonellau ynni.
4.3 Roedd y Canghellor wedi nodi ei weledigaeth ar gyfer economi â threth is. Roedd hyn yn dilyn ei ragdybiaeth fod torri trethi yn annog twf economaidd, ond ni chafwyd llawer o fanylion, ac nid oedd yn nodi pwysigrwydd buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus o safon.
4.4 Yn dilyn yr ymyriadau yn ystod y pandemig, roedd yn ymddangos bod y Canghellor yn arbrofi gyda’r lefel isaf o gymorth y gallai Llywodraeth y DU ei chynnig i helpu i warchod y rheini sy’n wynebu trafferthion yn sgil costau byw. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod yr hyblygrwydd ariannol ar gael yn sgil lefelau benthyca is a chynnydd mewn refeniw trethi.
4.5 Cyn Datganiad y Gwanwyn, roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi datgan effaith yr ymosodiad ar Wcráin ar gostau byw ac wedi nodi y byddai angen i bawb rannu’r baich.
4.6 Fodd bynnag, roedd Llywodraeth y DU wedi anwybyddu’r ffaith bod ei phenderfyniadau ynghylch cymorth diweithdra, newidiadau i’r credyd cynhwysol a chynnydd mewn trethi ar incwm o fis Ebrill wedi dwysáu’r argyfwng costau byw.
4.7 Roedd y rhesymeg dros becyn cymorth cyfyngedig y Canghellor yn ymddangos yn ideolegol yn y lle cyntaf. Roedd yna hefyd y sbardun gwleidyddol a oedd yn awgrymu bod y Canghellor yn cronni cyllid er mwyn buddsoddi a thorri trethi cyn Etholiad Seneddol nesaf y DU.
4.8 Ochr yn ochr â Datganiad y Gwanwyn, roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi diwygio ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd i lawr ac wedi diwygio’r rhagolygon ynghylch chwyddiant i fyny. Roedd y rhagolygon ynghylch cynhyrchiant yn parhau’n wael ac roedd disgwyl i brisiau prynwyr gynyddu ymhellach.
4.9 O ganlyniad i gyhoeddiadau’r Canghellor, dim ond swm canlyniadol o £27m a gafodd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, yn bennaf yn sgil y buddsoddiad ychwanegol yn y Gronfa Gymorth i Aelwydydd. Ar sail y swm cymharol fach, byddai’n cael ei ychwanegu at y gronfa wrth gefn gan ystyried yr ystod o bwysau hysbys yr oedd y Llywodraeth eisoes yn eu hwynebu. Roedd Gweinidogion Cymru eisoes wedi cyhoeddi pecyn o gymorth sy’n fwy na dwbl y cyllid canlyniadol a gafwyd yn sgil cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU.
4.10 Fodd bynnag, gan fod disgwyl i brisiau fod yn uwch na phan gyhoeddwyd y setliad y mis Hydref blaenorol, ni fyddai’r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn mynd mor bell â’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Yn gyffredinol, byddai’r gyllideb yn werth oddeutu £600m yn llai dros y tair blynedd nesaf nag a dybiwyd yn flaenorol.
Eitem 5: Diogelwch Tomenni Glo
5.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi’r crynodeb o’r cynigion ar gyfer fframwaith rheoli newydd ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru.
5.2 Ers yr adroddiad blaenorol i’r Cabinet ym mis Rhagfyr, roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud. Roedd Comisiwn y Gyfraith wedi cwblhau ei adolygiad o ddeddfwriaeth diogelwch tomenni glo a oedd wedi cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 24 Mawrth.
5.3 Roedd mwyafrif o ymatebwyr yr ymgynghoriad o blaid trefn reoli newydd ar gyfer tomenni glo segur. Nododd 91% y byddai’n well ganddynt gael un awdurdod goruchwylio.
5.4 Roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth newydd ar Ddiogelwch Tomenni Glo. Byddai hyn yn cyflwyno trefn reoli fwy effeithiol ar gyfer tomenni segur.
5.5 Roedd y Bil yn rhan o becyn ehangach o brosesau o fewn y Rhaglen Diogelwch Tomenni Glo. Byddai prosesau eraill yn cynnwys cyllid i gefnogi Awdurdodau Lleol i gwblhau gwaith cynnal a chadw angenrheidiol, yn ogystal â mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti a gallu i gyflawni’r arolygiadau a'r rhaglenni cynnal a chadw parhaus. Yn ogystal, byddai technoleg yn cael ei defnyddio i gefnogi monitro ac arolygu. Byddai rhaglen adfer hirdymor hefyd yn cael ei datblygu.
5.6 Yn ogystal, byddai awdurdod goruchwylio newydd yn cael ei sefydlu. Byddai’n ofynnol i’r awdurdod hwn lunio cofrestr asedau canolog newydd o domenni glo er mwyn canfod statws a chofnodi gofynion gwaith cynnal a chadw. Byddai'r corff hwn hefyd yn gyfrifol am gategoreiddio pob tomen yn ôl perygl ac effeithiau posibl ar y gymuned leol, ynghyd â gofynion cynnal a chadw a gwaith adfer. Byddai pedwar categori, gyda'r Awdurdod yn gyfrifol am y rheini sy'n wynebu'r risg uchaf. Byddai Awdurdodau Lleol perthnasol yn gyfrifol am gategori dau gyda pherchnogion yn atebol am y ddau gategori o domenni sy’n weddill.
5.7 Croesawodd y Gweinidogion y papur a chofnodwyd eu bod yn ddiolchgar i’r swyddogion am y gwaith sylweddol a wnaethpwyd ganddynt mewn cyfnod mor fyr.
5.8 Nodwyd y byddai Datganiad ynghylch y Rhaglen Diogelwch Tomenni Glo gyfan yn cael ei roi i’r Senedd y diwrnod canlynol. Bwriedir i’r Papur Gwyn gael ei gyhoeddi ar 9 Mai, ar ôl yr Etholiadau Llywodraeth Leol.
5.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 6: Prydau Ysgol Am Ddim i Blant Ysgolion Cynradd
6.1 Cyflwynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi’r diweddariad am ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio ynghylch Prydau Ysgol am Ddim. Y bwriad oedd darparu prydau ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn ystod cyfnod y Senedd bresennol.
6.2 Ym mis Rhagfyr y llynedd, roedd y Llywodraeth wedi nodi ei bwriad i ddechrau gweithredu’r polisi o fis Medi eleni, gan ganolbwyntio ar y plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd. Byddai hyn yn parhau i gael ei roi ar waith o fis Medi 2023 gyda’r nod o sicrhau bod pob plentyn mewn ysgolion cynradd yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.
6.3 Gan ystyried yr angen brys am sail glir i Awdurdodau Lleol ddechrau ar eu gwaith o gynllunio manwl, roedd cyfres o senarios yn cael eu harchwilio i sicrhau cyfeiriad strategol ar gyfer partneriaid.
6.4 Nododd y Cabinet y papur.