Cyfarfod y Cabinet: 28 Medi 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 28 Medi 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
- Sioned Williams AS
- Mabon ap Gwynfor AS
- Anna Brychan AS
- Heledd Fychan AS
- Llyr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
- Adam Price AS
- Dafydd Trystan Davies AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
- Cefin Campbell AS
- Nerys Evans AS
- Mark Hooper AS
- Delyth Jewell AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Busnes y Cabinet a'r Senedd
- Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
- Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 14 Medi.
Eitem 2: Eitemau'r Prif Weinidog
Uchafbwyntiau'r wythnos flaenorol
2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at rai o uchafbwyntiau'r wythnos flaenorol, gan gynnwys cyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu, lansio'r Rhaglen Nofio Ysgol yn Abertawe, ac ymweld â ffatri lled-ddargludyddion Vishay ac â mosg sydd â phrosiect ynni cymunedol, ill dau yng Nghasnewydd.
Siambr Fasnach Iwerddon – Prydain
2.2 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i'r Cabinet y byddai'n mynd i agoriad cangen Cymru o Siambr Fasnach Iwerddon – Prydain yn ddiweddarach yr wythnos honno.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Nododd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos honno, a'r ffaith bod dau ddatganiad llafar, ar gomisiwn cenedlaethol Cymru ac ar iechyd cyhoeddus ac ataliol, wedi'u tynnu oddi ar yr agenda.
3.2 Adroddwyd ei bod yn debygol y byddai'r Llywydd, ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn y diwrnod canlynol, yn galw am enwebiadau gan grŵp Reform UK ar gyfer cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth. Pe bai mwy nag un enwebiad, neu wrthwynebiad i un enwebiad, byddai pleidlais gudd yn cael ei chynnal a byddai'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y cyfarfod.
3.3 Nododd y Gweinidogion fod y Trefnydd wedi codi pwynt o drefn ar ddiwedd y Cyfarfod Llawn y dydd Mercher blaenorol mewn perthynas â sylwadau a wnaed gan Joe Martin AS. Deallwyd bod y Llywydd wedi ysgrifennu at yr Aelod gan nodi bod Rheol Sefydlog 13.9(v) wedi'i thorri, a'i fod yn bwriadu gwneud dyfarniad ar y cyfle nesaf. Roedd hyn yn debygol o ddigwydd ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth.
Eitem 4: Cynnig ar gyfer Parc Cenedlaethol yn y Gogledd CAB(26-27)41
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad y papur, a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am yr ymateb arfaethedig mewn perthynas â Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
4.2 Roedd yn bwysig cydnabod bod y cynnig wedi deillio o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu'r weinyddiaeth flaenorol ac wedi'i ddatblygu gan CNC drwy'r broses ddynodi statudol. Nid oedd yn rhan o faniffesto'r Llywodraeth bresennol, ei Rhaglen Lywodraethu na'i hymrwymiadau ar gyfer y 100 Diwrnod Cyntaf.
4.3 Serch hynny, ni waeth beth oedd blaenoriaethau polisi Gweinidogion Cymru, roedd proses statudol yr oedd angen ei dilyn. Roedd CNC wedi cyflwyno Gorchymyn Dynodi i'r Llywodraeth ym mis Ionawr 2026 ac roedd yn ofynnol i Weinidogion bellach benderfynu sut i ymateb. Gallai Gweinidogion Cymru gadarnhau'r Gorchymyn, ei gadarnhau gydag addasiadau, neu ei wrthod.
4.4 Roedd CNC wedi dod i'r casgliad bod yr ardal arfaethedig yn bodloni'r profion statudol ar gyfer dynodi Parc Cenedlaethol, gan gynnwys ystyriaeth o'i harddwch naturiol, ei threftadaeth ddiwylliannol, ei bywyd gwyllt a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig ar gyfer hamdden awyr agored.
4.5 Y cwestiwn gerbron y Gweinidogion oedd ai dynodi oedd y mecanwaith priodol ar hyn o bryd, gan ystyried amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys y sylfaen dystiolaeth a ddarparwyd gan CNC, yr ymatebion i'r ymgyngoriadau cysylltiedig, fforddiadwyedd, blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth, safbwyntiau rhanddeiliaid ac argaeledd dulliau amgen.
4.6 Ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd ar gael, roedd y Gweinidog o'r farn na ddylid cadarnhau'r Gorchymyn Dynodi. Roedd y safbwynt dros dro hwn yn adlewyrchu goblygiadau ariannol sylweddol a hirdymor sefydlu Awdurdod Parc Cenedlaethol newydd, y pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus, a'r ffaith bod pob un o'r pum awdurdod lleol yn yr ardal arfaethedig wedi gwrthwynebu'r Gorchymyn Dynodi. At hynny, gellid o bosibl sicrhau llawer o'r canlyniadau amgylcheddol, tirweddol, twristiaeth a datblygu gwledig y bwriedid eu cyflawni drwy'r dynodiad drwy fframweithiau polisi a mecanweithiau cyflawni presennol, neu rai sy'n cael eu datblygu.
4.7 Wrth lunio'r safbwynt dros dro hwn, roedd y Gweinidog hefyd wedi ystyried blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Lywodraethu, sy'n rhoi pwyslais ar gyflawni canlyniadau drwy amrywiaeth o fecanweithiau a sicrhau bod adnoddau'n cael eu cyfeirio at ymrwymiadau presennol.
4.8 Fodd bynnag, nid oedd penderfyniad terfynol wedi'i wneud. O ystyried arwyddocâd y cynnig, a chydnabod cryfder y safbwyntiau o blaid ac yn erbyn y dynodiad, byddai cyfle pellach i bartïon â diddordeb gyflwyno tystiolaeth a sylwadau cyn gwneud penderfyniad terfynol. Byddai'r ymgysylltu ychwanegol hwn yn caniatáu profi'r casgliadau dros dro, sicrhau bod unrhyw dystiolaeth berthnasol ychwanegol yn cael ei hystyried, a dangos bod pob safbwynt wedi cael ei ystyried yn briodol cyn dod i benderfyniad terfynol.
4.9 Dylai'r dystiolaeth a gasglwyd drwy broses asesu ac ymgynghori CNC, ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach a ddaw i law yn ystod y cyfnod ymgysylltu, ddarparu sail ddigonol ar gyfer penderfyniad terfynol.
4.10 Yn dilyn y broses honno, byddai'r Gweinidog yn penderfynu ar y camau nesaf.
4.11 Croesawodd y Cabinet y papur a cytunodd â'r dull arfaethedig, yn enwedig gan fod y pum awdurdod lleol yn gwrthwynebu'r dynodiad.
4.12 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023: Cyflawni'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol sydd ar Weinidogion Cymru. CAB(26-27)34
5.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb y papur, a oedd yn gofyn am gytundeb y Cabinet i ddull cymesur ac ymarferol o gyflawni dyletswydd partneriaeth gymdeithasol statudol Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
5.2 Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG) ynghylch penderfyniadau o natur strategol sy'n ymwneud â'r camau a gymerir i gyflawni'r Amcanion Llesiant. Cynigiwyd y dylid canolbwyntio ar y prif ysgogwyr strategol sy'n llywio'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth.
5.3 Yn benodol, byddai ymgynghori â'r CPG yn digwydd yn flynyddol ar yr egwyddorion a'r blaenoriaethau sy'n sail i Gyllideb Llywodraeth Cymru, rhaglen ddeddfwriaethol a blaenoriaethau'r Llywodraeth, a'r adolygiad blynyddol o'r Amcanion Llesiant a'r cynnydd a wnaed tuag at eu cyflawni.
5.4 Gellid ategu hyn drwy ymgynghori â'r CPG ar benderfyniadau strategol mawr yn y tymor hwy, megis adolygiadau gwariant neu gyllidebau carbon yn y dyfodol. At hynny, wrth i Weinidogion ddatblygu cynlluniau strategol hirdymor, byddai'n bwysig ystyried a nodi'n gynnar yn y broses pa feysydd y byddai'n ddefnyddiol eu rhannu â'r CPG.
5.5 Byddai'r dull hwn yn sicrhau bod partneriaid cymdeithasol yn gallu rhoi mewnbwn strategol ar gam ffurfiannol o'r broses benderfynu, gan osgoi gofyniad anymarferol i ymgynghori ar bob penderfyniad polisi neu weithredol.
5.6 Byddai hyn hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i gyflawni'r ddyletswydd drwy roi rôl bwysig i'r CPG wrth ystyried materion strategol y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â nhw a phenderfyniadau allweddol a wneir ar y cyd gan Weinidogion. Roedd y dull hwn yn gyson â'r ffordd y gweithredwyd y ddyletswydd ers iddi ddod i rym.
5.7 Croesawodd y Cabinet y papur.
5.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 6: Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Croesfannau Afon Menai a'r M4 o amgylch Casnewydd CAB(26-27)37
6.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth y papur, a oedd yn cyflwyno canfyddiadau'r adolygiad o groesfannau Afon Menai a'r M4 o amgylch Casnewydd. Roedd y rhain yn goridorau trafnidiaeth o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn cael effaith sylweddol ar gynhyrchiant economaidd, gwydnwch a thwf.
6.2 Roedd Afon Menai yn her o ran gwydnwch yn bennaf, tra bod yr M4 o amgylch Casnewydd yn her ehangach yn ymwneud â thagfeydd, dibynadwyedd, gwydnwch, cludiant nwyddau a chysylltedd ledled de Cymru.
6.3 Yn y ddau achos, roedd y dystiolaeth yn cefnogi gweithredu mewn sawl maes i fynd i'r afael â materion uniongyrchol, megis sicrhau'r seilwaith presennol wrth gyflwyno gwelliannau ymarferol dros y blynyddoedd nesaf. Byddai angen bwrw ymlaen hefyd â'r gwaith angenrheidiol i fynd i'r afael â'r heriau strategol ehangach sy'n parhau yn y tymor hwy.
6.4 O ran croesfannau Afon Menai, cadarnhaodd yr adolygiad mai gwydnwch oedd yr her sylfaenol o hyd. Pont Menai a Phont Britannia oedd yr unig gysylltiadau sefydlog rhwng Ynys Môn a'r tir mawr, a phan oedd tarfu ar un o'r croesfannau, roedd yr effaith yn sylweddol.
6.5 Gofynnwyd i swyddogion ailystyried a allai trefniant llif llanw tair lôn ar Bont Britannia ddarparu ateb. Fodd bynnag, roedd y casgliad yr un fath ag o'r blaen. Er ei fod yn dechnegol bosibl, daeth yr asesiad diogelwch diweddaraf i'r casgliad bod risgiau sylweddol yn parhau. Roedd y rhain yn cynnwys gwallau gan yrwyr, methiannau technolegol, lled cul y lonydd a chanlyniadau posibl gwrthdrawiadau difrifol. Y casgliad oedd nad oedd modd cyflwyno trefniant llif llanw ar lefel dderbyniol o ddiogelwch ar hyn o bryd.
6.6 Cynigiwyd y dylid cyhoeddi'r asesiad diogelwch ac na ddylid gwneud rhagor o waith ar drefniant llif llanw ar hyn o bryd.
6.7 Fodd bynnag, argymhellwyd y dylid sefydlu tair rhaglen waith gyflenwol, a fyddai'n dechrau ar unwaith ac yn mynd rhagddynt ochr yn ochr. Byddai gwaith yn parhau i reoli a gweithredu'r croesfannau presennol. Byddai buddsoddiad hefyd mewn mesurau i wella gwydnwch, gan gynnwys amddiffynwyr gwynt, terfynau cyflymder amrywiol, gwelliannau gweithredol ehangach, ac ailddechrau ar unwaith y gwaith datblygu ar gyfer trydedd groesfan dros Afon Menai.
6.8 Nid oedd angen i'r Cabinet ar hyn o bryd gymeradwyo gwaith adeiladu, ond cytuno i ailddechrau'r gwaith datblygu angenrheidiol i baratoi ar gyfer trydedd groesfan. Gyda'i gilydd, byddai'r mesurau hynny'n cryfhau gwydnwch yn awr, wrth fwrw ymlaen â'r ateb strategol a ffefrir a nodwyd gan yr adolygiad.
6.9 O ran yr M4 o amgylch Casnewydd, cytunwyd na ddylid cynnal adolygiad strategol eang arall, ond yn hytrach archwilio a oedd y corff sylweddol o dystiolaeth sydd eisoes ar gael yn ddigonol i lywio penderfyniadau ynghylch y ffordd ymlaen.
6.10 Roedd y canfyddiadau'n glir bod yr heriau o amgylch Casnewydd a'u heffaith ar draws de Cymru yn parhau i fod yn sylweddol. Roedd tagfeydd, diffyg dibynadwyedd a phroblemau gwydnwch yn parhau i effeithio ar bobl, cludo nwyddau a'r economi ehangach. Daeth yr adolygiad hefyd i'r casgliad na allai unrhyw ymyriad unigol ddatrys yr heriau hynny. Mewn gwirionedd, ni allai unrhyw opsiwn unigol, nac unrhyw gyfuniad o'r opsiynau a ystyriwyd fel rhan o'r adolygiad, gael gwared yn llwyr ar dagfeydd yn y tymor hwy.
6.11 Roedd y dystiolaeth yn cyfeirio at dair rhaglen waith gyflenwol y dylid eu dechrau ar unwaith a'u datblygu ochr yn ochr. Bwriad y pecyn oedd gwella'r sefyllfa ar unwaith, wrth i'r Llywodraeth barhau â'r gwaith o benderfynu pa ymyriadau pellach y gallai fod eu hangen yn y pen draw.
6.12 Byddai'r rhaglen gyntaf yn parhau i fuddsoddi mewn gwaith cynnal ac adnewyddu'r draffordd bresennol a'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ehangach. Nid mater o waith cynnal a chadw arferol yn unig oedd hyn, gan fod nifer o asedau mawr yn nesáu at ddiwedd eu hoes weithredol. Yn fwyaf nodedig, byddai angen buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd nesaf i adnewyddu Traphont Malpas. Heb ymyrraeth, byddai angen cynnal rhagor o arolygiadau ar yr asedau hyn, defnyddio trefniadau rheoli traffig dros dro, gwneud gwaith atgyweirio adweithiol a chyflwyno cyfyngiadau gweithredol.
6.13 Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, dylid llunio Cynllun Cyflawni Pum Mlynedd a fyddai'n canolbwyntio ar ymyriadau ymarferol a allai wella dibynadwyedd, gwydnwch a chysylltedd. Roedd adolygiad Arup yn cefnogi'r dull hwn.
6.14 Roedd y Cynllun yn cynnwys gwelliannau gweithredol ar y draffordd, mesurau gwell ar gyfer rheoli digwyddiadau ac ymyriadau wedi'u targedu ar hyd Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48, gan gynnwys gwelliannau i gyffyrdd a rhoi ystyriaeth i gynlluniau cylchfannau hollt lle bo hynny'n briodol.
6.15 Roedd hefyd yn cynnwys mesurau i gryfhau gwydnwch ym maes cludo nwyddau, cefnogi'r defnydd priodol o lwybrau amgen i fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad yn yr A465, a gwella mannau parcio a chyfleusterau lles i yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Byddai gwasanaethau rheilffyrdd ychwanegol yn cael eu darparu, a byddai pwysau'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU i gyflymu'r gwaith o gyflwyno'r chwe gorsaf a argymhellwyd gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Dylid gwella cysylltedd bysiau rhwng Casnewydd a Chaerdydd hefyd.
6.16 Gyda'i gilydd, byddai'r ymyriadau hynny'n darparu rhaglen ymarferol a allai ddechrau sicrhau manteision o fewn y pum mlynedd nesaf, gyda manteision pellach yn cael eu gwireddu y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw.
6.17 Byddai angen datblygu cam nesaf yr ymateb hirdymor hefyd, drwy raglen bwrpasol 18 mis o waith peirianyddol, technegol ac arfarnol i lywio cam nesaf yr ymateb ffyrdd a pheirianyddol hirdymor. Byddai'r rhaglen hon yn dechrau ar unwaith ochr yn ochr â'r rhaglen gynnal a chadw a'r Cynllun Cyflawni Pum Mlynedd.
6.18 Ei diben fyddai penderfynu a oedd datrysiadau ffyrdd a pheirianyddol hirdymor yn hyfyw ac yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r heriau o amgylch Casnewydd o fewn y fframwaith polisi, amgylcheddol a chydsynio presennol.
6.19 Roedd adolygiad Arup wedi archwilio'r prif opsiynau ffyrdd a pheirianyddol a ddatblygwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Daeth i'r casgliad y byddai angen rhagor o waith peirianyddol, technegol ac arfarnol cyn y gallai'r Llywodraeth benderfynu a ellid bwrw ymlaen ag unrhyw ymyriad ffyrdd neu beirianyddol.
6.20 Croesawodd y Cabinet y papur, ac yn benodol y cynigion i fynd i'r afael â thagfeydd a gwella cysylltedd ar draws croesfannau Afon Menai ac ar yr M4 o amgylch Casnewydd, ynghyd â'r cynlluniau i wella cyfleusterau lles ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
6.21 Roedd angen parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU dros gyfran Cymru o gyllid Barnett sy'n deillio o bob prosiect seilwaith yn Lloegr, megis HS2.
6.22 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2026
