Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol
  • Matt Downton, Pennaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Ionawr.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Institute for Government

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi cyflwyno digwyddiad ar ffurf sgwrs ynghylch taith gyfansoddiadol datganoli yn yr Institute for Government yn Llundain y dydd Iau blaenorol.  Cafodd y digwyddiad dderbyniad da gyda 100 o bobl yn bresennol yn y lleoliad ei hun a 500 o bobl eraill yn ymuno ar-lein.

Comisiwn y Cyfansoddiad

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n gwneud datganiad llafar i'r Senedd y diwrnod canlynol i groesawu adroddiad y Comisiwn Cyfansoddiadol. Ar ôl hanner tymor, byddai'r Cabinet yn cael cyfle i drafod ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

Tata Steel

2.3 Nododd y Cabinet y byddai'r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi yn ymweld â Phort Talbot ddydd Iau i gwrdd â Phrif Swyddog Gweithredol Tata Steel, TV Narendran.

Yr Ymchwiliad COVID-19

2.4 Nododd y Cabinet fod yr Ymchwiliad COVID-19 yn parhau i gymryd tystiolaeth ar Fodiwl 2A - Core UK decision-making and political governance in relation to Scotland.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7pm ddydd Mawrth a thua 7.05pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Ymgynghori ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed CAB(23-24)44

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno i gynnal ymgynghoriadau ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles ddrafft a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed ddrafft. Er eu bod yn strategaethau ar wahân roeddent hefyd yn gydgysylltiedig. Cynigiwyd y dylai'r cyfnod ymgynghori ar gyfer y ddwy Strategaeth fod yn 16 o wythnosau o hyd.

4.2 Roedd y tîm polisi wedi ymgysylltu'n helaeth ar draws y Llywodraeth ac â rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r strategaethau drafft, ac roedd y gwaith ymgysylltu a gwblhawyd cyn yr ymgynghoriadau eisoes wedi derbyn dros 260 o ymatebion i arolwg ar-lein.

4.3 Roedd y strategaethau a'r camau gweithredu lefel uchel wedi cael eu datblygu yng nghyd-destun y pwysau ariannol digynsail, a'u nod oedd darparu cyfeiriad i wasanaethau a phartneriaid er mwyn sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu ar sail gwerth. Nid oeddent yn nodi ymrwymiadau cyllido newydd. Byddent yn cael eu hategu gan ymrwymiadau presennol, gan gynnwys y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Iechyd Meddwl a'r Rhaglen Strategol newydd ar gyfer Iechyd Meddwl.

4.4 Roedd yn bwysig bod gan y strategaethau ffocws ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, ac yn mabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar hawliau, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu ar sail gwerth.

4.5 Croesawodd y Cabinet y papur a'r ffaith y byddai fersiynau hawdd eu deall o'r strategaethau a'r adnoddau i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc gyda'r ymgynghoriad.

4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y strategaethau drafft at ddibenion ymgynghori.

Eitem 5: UFA

5.1 Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wrth y Cabinet ei bod wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Weinidogion i amlinellu'r cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at greu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â phobl ifanc yn fepio.

5.2 Daeth ymgynghoriad a gynhaliwyd ar draws y DU i ben ar 6 Rhagfyr, a chafwyd 27,921 o ymatebion, gyda 1,018 o Gymru. Bwriad Llywodraeth y DU oedd cyflwyno Bil Tybaco a Fêps yn Senedd y DU ddechrau Chwefror. Nod y Bil oedd sicrhau na fyddai cynnyrch tybaco byth yn cael ei werthu i unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Hefyd byddai nifer o fesurau'n cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â phobl ifanc yn fepio.

5.3 Ochr yn ochr â hyn, byddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ystyried deddfwriaeth i wahardd gwerthu fêps untro yng Nghymru.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2024