Cyfarfod y Cabinet: 29 Mehefin 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 29 Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
- Sioned Williams AS
- Mabon ap Gwynfor MS
- Anna Brychan AS
- Heledd Fychan AS
- Llŷr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian MS
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
- Adam Price AS
- Dafydd Trystan Davies AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
- Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa’r Cabinet
- Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Jonathan Evershed, Cynghorydd Arbennig
- Guto Ifan, Cynghorydd Arbennig
- Luke Nicholas, Cynghorydd Arbennig
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Pier Bisson, Cyfarwyddwr y Cyfansoddiad (eitemau 4)
- Sophie Brighouse, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a Llywodraethiant (eitem 4)
- Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Gwydnwch Gwledig (eitem 5)
- David Lloyd-Thomas, Pennaeth Cysylltiadau Rhyngweinidogol Gwydnwch Gwledig (eitem 5)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 15 Mehefin.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Tywydd Eithafol
2.1 Cofnododd y Prif Weinidog ei ddiolch i dimau polisi a chyfathrebu am yr ymateb cydgysylltiedig i effeithiau'r gwres eithafol yr wythnos flaenorol. Roedd rhoi trefniadau brys ar waith yn gynnar a gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Perfformiad a Gwella'r GIG a'r Swyddfa Dywydd, wedi hwyluso monitro pwysau yn agos tra'n helpu i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ac atgyfnerthu'r cyngor i'r cyhoedd.
2.2 Roedd y gwres eithafol wedi creu pwysau sylweddol ledled Cymru, gan effeithio ar y GIG, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach, yn ogystal â tharfu ar ysgolion.
Ymgysylltu Rhyngwladol
2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi mynd i chweched Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru y dydd Mercher blaenorol, a gynhaliwyd gan Weinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon, Helen McEntee TD. Yn ystod yr ymweliad ag Iwerddon, roedd hefyd wedi cwrdd â'r Uachtarán, Catherine Connolly, a'r Taoiseach, Micheál Martin. Cynhaliwyd yr ymweliad hwn ychydig cyn i Iwerddon ymgymryd â Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd.
2.4 Ddydd Iau, roedd y Prif Weinidog wedi cyfarfod â Llysgennad yr UE yn Llundain, ynghyd â Phenaethiaid Cenhadaeth yr UE, lle'r amlinellodd ei uchelgeisiau ar gyfer aliniad agosach ag Ewrop, yn enwedig mewn perthynas â diwylliant a'r economi.
2.5 Roedd hyn yn cyd-fynd ag uchelgais y Prif Weinidog sef mai Llywodraeth Cymru fyddai'r llywodraeth fwyaf rhyngwladol ei hagwedd drwy weithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid i dynnu sylw at werthoedd a diwylliant Cymru ledled y byd, tra'n gwella bywydau pobl Cymru.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn yr wythnos honno a nodi bod datganiad ar wella arweinyddiaeth a pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi'i ychwanegu at agenda dydd Mawrth.
Eitem 4: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol CAB(26-27)16
4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a ofynnodd i'r Cabinet gytuno ar flaenoriaethau deddfwriaethol cynnar y Llywodraeth a chynigiodd drafodaeth o'r rhaglen ehangach.
4.2 Croesawodd y Cabinet y papur a chytunodd ei bod yn bwysig adeiladu consensws yn y Senedd ynghylch y ddeddfwriaeth arfaethedig.
4.3 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Dyletswydd Prawf Gwledig Statudol CAB(26-27)25
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd y papur, a ofynnodd i'r Cabinet nodi'r ymrwymiad ar gyfer dyletswydd statudol newydd ar brawfesur gwledig a chytuno y dylid gweithio ar draws portffolios i gyflawni'r amcan hwnnw.
5.2 Roedd angen dod â ffocws newydd a chryfach ar Gymru wledig, i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl, busnesau a chymunedau yn aml yn eu hwynebu. Mewn ardaloedd gwledig, gallai costau fod yn uwch, y seilwaith yn wannach, gwasanaethau yn brin ac yn fwy anghysbell, ac incwm pobl yn aml yn is.
5.3 Roedd ystod eang o weithgarwch mewn ardaloedd eraill o'r DU, gyda mwy o adnoddau ac, o bosibl, ddulliau mwy integredig, gyda ffocws gwledig wedi'i ymgorffori'n well o bolisi i gyflawni, gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cael deddfwriaeth wledig benodol.
5.4 Croesawodd y Cabinet y papur a chytuno ei bod yn bwysig cyflwyno dyletswydd statudol i helpu i gefnogi cymunedau gwledig.
5.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2026
