Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Ed Wilson, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Gwelliannau ac Anghydraddoldebau (eitem 4)
  • Nicola Evans, Pennaeth Anghydraddoldebau Iechyd a Chymunedau Iach (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymchwiliad COVID-19 

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod yn cadeirio’r cyfarfod o Lundain gan y byddai ef a Gweinidog yr Economi yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad COVID-19 y diwrnod dilynol. Roedd y Prif Swyddog Meddygol wedi bod yn rhoi tystiolaeth y prynhawn hwnnw ac roedd disgwyl i’r Ysgrifennydd Parhaol roi tystiolaeth ar ei ôl. Roedd disgwyl hefyd i Dr Quentin Sandifer o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol roi tystiolaeth yr wythnos honno.

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai’n teithio i’r Gogledd ddydd Iau i ymuno â’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, a oedd yn cael ei gynnal yn Wrecsam ddydd Gwener.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn a nododd y byddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip yn ymateb i’r ddadl fer ar ôl troed y fyddin yng Nghymru. Byddai amser pleidleisio yn cael ei gynnal tua 6:20pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol CAB(22-23)86

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar strwythur arfaethedig y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol a nodi’r amserlenni ar gyfer ei ddatblygu.

4.2 Term ymbarél oedd presgripsiynu cymdeithasol a ddisgrifiai ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol yn y gymuned. Roedd hefyd yn ffordd o gysylltu pobl â’u cymuned i reoli eu hiechyd a’u llesiant yn well. Ei nod oedd grymuso unigolion i gydnabod eu hanghenion, eu cryfderau a’u hasedau personol eu hunain.

4.3 O safbwynt iechyd, roedd yr achos dros gymorth anfeddygol drwy bresgripsiynu cymdeithasol yn glir, gallai wella llesiant meddyliol, lleihau pryder ac iselder, gan wella hunan-barch a lleihau unigrwydd ac unigedd. Gallai hefyd chwarae rhan hanfodol wrth gynnal pwysau corff iach, gan helpu pobl i fyw’n iach am gyfnod hwy.

4.4 Yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, bu diffyg safoni a chysondeb yn y dull o bresgripsiynu cymdeithasol. Roedd hyn wedi arwain at ddryswch posibl ymhlith y cyhoedd a’r gweithlu o ran pwy ddylai elwa ar fuddion presgripsiynu cymdeithasol a phwy ddylai fod yn darparu gwasanaethau. Roedd diffyg cyfathrebu rhwng sectorau, gweithwyr proffesiynol a chyda’r cyhoedd.

4.5 Roedd swyddogion wedi ymgysylltu â bron i 1,000 o randdeiliaid i ddatblygu model o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer ymarfer ymgynghori. Cafwyd dros 190 o ymatebion i’r ymarfer hwn ac roedd y fframwaith cenedlaethol arfaethedig wedi’i lywio’n uniongyrchol gan ganlyniad yr ymarfer hwnnw.

4.6 Roedd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn ymateb i’r materion a godwyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori. Byddai’n rhoi sicrwydd ynghylch cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth, gan nodi strwythur arfaethedig ac amlinellu sut y byddai’r model yn gweithredu yng Nghymru. Roedd yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol ac yn sicrhau darpariaeth gyson, ni waeth am y lleoliad.

4.7 Croesawodd y Cabinet y papur a nododd fod credydau amser sy’n gysylltiedig â presgripsiynu cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i wella amrywiaeth gwirfoddolwyr yn ogystal â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Roedd hyn hefyd yn helpu i adeiladu cymunedau gwydn.

4.8 Roedd y sector celfyddydau wrthi’n rhagweithiol yn defnyddio dull creadigol drwy bresgripsiynu cymdeithasol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant unigolion a chymunedau. Roedd cyfleoedd hefyd o fewn y sector amgylcheddol.

4.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y cerrig milltir a’r cynlluniau cyfathrebu arfaethedig.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2023