Cyfarfod y Cabinet: 3 Mehefin 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 3 Mehefin 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Jayne Bryant AS
- Sarah Murphy AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Paul Griffiths, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Owen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Tom Nicholls, Prif Economegydd (eitem 4)
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitemau 4 a 5)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 5)
Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 13 Mai.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Deddf Seilwaith
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi mynychu'r seremoni selio yn gynharach y diwrnod hwnnw ar gyfer Deddf Seilwaith (Cymru) ar ôl iddi gael Cydsyniad Brenhinol.
Etholiad Senedd y DU
2.2 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at Etholiad Cyffredinol y DU, a alwyd ar 22 Mai, a phapur yn amlinellu'r dull gweithredu i'w ddefnyddio gan Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion, a oedd wedi'i gyflwyno fel papur i'w nodi.
2.3 Ni fyddai’r ymgyrch yn cael unrhyw effaith ar y rhan fwyaf o waith y Llywodraeth a mater o fusnes fel arfer fyddai hi. Er hynny, mae’n anochel y bydd cyfyngiadau ar rai gweithgareddau.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:25pm ddydd Mawrth a thua 5:55pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Diweddariad gan y Prif Economegydd
4.1 Cafodd y Prif Economegydd ei wahodd gan y Prif Weinidog i roi diweddariad economaidd a chyllidol i'r Cabinet.
4.2 Dywedodd Tom Nicholls wrth y Cabinet y byddai ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar y cyfnod heriol sydd o'n blaenau a'r rhagolygon ar gyfer twf economaidd. Diffyg twf mewn cynhyrchiant oedd y prif achos sylfaenol o hyd, ac roedd cyfraddau anweithgarwch economaidd a thueddiadau diweddar yn destun pryder. Er gwaethaf y posibilrwydd y byddai'r Llywodraeth yn San Steffan yn newid, byddai'r sefyllfa gyllidol anodd yn parhau. O ystyried hynny, dylai rôl Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynorthwyo a rheoli'r trawsnewidiadau demograffig ac economaidd allweddol disgwyliedig.
4.3 Roedd mynegai cynnyrch domestig gros chwarterol diweddar yn dangos twf economaidd isel yn y DU, a bod y rhagolygon yn wael. Rhagwelwyd y byddai'r economi bron 10% yn llai erbyn 2029 o'i chymharu â thueddiadau tymor hir blaenorol, oherwydd diffyg twf a chynhyrchiant 'da'. Byddai hyn yn cael effaith ar safonau byw, ac ar refeniw treth a'r adnoddau a fyddai ar gael i'r Llywodraeth.
4.4 O ran y Farchnad Lafur, roedd Cymru wedi gweld tuedd gadarnhaol hirdymor o ran lleihau'r bwlch cyflogaeth rhyngddi a'r DU, yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, er bod ffigurau'r Arolwg o'r Llafurlu, er nad ydynt efallai yn rhoi darlun cywir, yn awgrymu dirywiad yn fwy diweddar.
4.5 Anweithgarwch economaidd oedd prif broblem y farchnad lafur yng Nghymru, ac er bod y bwlch rhyngddi a chyfradd y DU wedi lleihau, roedd y duedd hirdymor i leihau wedi arafu'n llwyr ar hyn o bryd. Roedd tua chwarter y bobl anweithgar yn fyfyrwyr, ac un allan o bump yn gofalu am gartref y teulu, ac roedd traean, sef oddeutu 147,000, yn y categori pobl â salwch hirdymor. Oddeutu 57,000 oedd y nifer ar gyfer pobl ddi-waith.
4.6 O ran rhagolygon cyllidol, nid oedd setliad adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, a thu hwnt, yn hysbys eto, ond roedd yn debygol o fod yn heriol. Roedd y twf araf yn cyfyngu ar y posibilrwydd o gynyddu gwariant cyhoeddus, ac roedd hynny'n golygu bod y ffocws yn debygol o fod ar fenthyg a threthi. Roedd yn debygol y byddai gan bob prif blaid wleidyddol yn y DU reolau cyllidol tebyg y byddai'n anodd cadw atynt, hyd yn oed gyda'r cynlluniau gwariant cymedrol presennol. Oherwydd y twf isel, dyled uchel a dim newidiadau clir i drethi, dim ond ychydig iawn o le oedd ar gyfer cynyddu gwariant gan unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol.
4.7 Cydnabuwyd bod lefelau treth y DU yn hanesyddol uchel i'r DU, ond eu bod yn dal yn is nag mewn rhai gwledydd cymharol.
4.8 Roedd cyllideb adnoddau bresennol Llywodraeth Cymru, fesul pen o'r boblogaeth, dim ond 4% yn uwch mewn termau real nag yn 2010-2011, ac nad oedd hynny'n debygol o newid llawer yn 2028-2029, o'i chymharu â 2022-2023. Rhagwelwyd y byddai cyllidebau cyfalaf yn gostwng mwy na 7% mewn termau real ar draws y cyfnod adolygu gwariant nesaf. Fodd bynnag, roedd yn debygol y byddai cynnydd net o drethi datganoledig yn ystod y cyfnod o £200m i £300m, a heb hynny byddai'r sefyllfa'n waeth byth.
4.9 Roedd rhywfaint o ddata cadarnhaol yn ymwneud â sero net, gan fod allyriadau carbon bellach yn lleihau tra bod cynnydd domestig gros yn codi, er bod hynny'n digwydd yn araf.
4.10 Roedd rhywfaint o bryder ynghylch ddemograffeg, gyda phoblogaeth sy'n cynyddu'n araf ond bod cynnydd amlwg mewn pobl 65 oed ac yn hŷn, a dim ond cynnydd bach yn y grŵp oedran gweithio. Fodd bynnag, roedd disgwyl i fudo trawsffiniol net a mudo rhyngwladol net wrthbwyso'r newidiadau naturiol mewn rhai ffyrdd.
4.11 Diolchodd y Cabinet i'r Prif Economegydd am ei gyflwyniad.
Eitem 5: Y dull gweithredu arfaethedig ar gyfer Adolygiad o Wariant Cymru
5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r cyd-destun ar gyfer yr Adolygiad Gwariant yng Nghymru, a chytuno ar y dull gweithredu arfaethedig.
5.2 Oherwydd y cyd-destun economaidd a chyllidol, fel y'i hamlinellwyd yn flaenorol gan y Prif Economegydd, byddai nifer o flynyddoedd anodd yn wynebu gwariant cyhoeddus, ac ni fyddai canlyniad etholiad Senedd y DU yn debygol o wneud fawr o wahaniaeth materol, o leiaf yn ystod blynyddoedd cyntaf cyfnod yr Adolygiad o Wariant nesaf. Mewn ymateb i hyn, cynigiwyd y dylid defnyddio dull gweithredu gwahanol.
5.3 Roedd y Llywodraeth wedi wynebu profiadau hynod heriol wrth fynd ati i ail-flaenoriaethu yn ystod y flwyddyn ac i baratoi'r gyllideb ddrafft.
5.4 Roedd y cyhoeddiad am gynnal etholiad Senedd y DU ar 4 Gorffennaf yn awgrymu ei bod yn fwy tebygol y byddai adolygiad o wariant yn y DU yn digwydd yn yr hydref. Pe bai hynny'n digwydd, byddai angen i waith fel rhan o raglen Adolygu Gwariant Cymru fwydo i ymarfer y gyllideb eleni.
5.5 Croesawodd y Cabinet y dull gweithredu arfaethedig ar gyfer ymdrin ag Adolygiad o Wariant Cymru, fel y'i nodir yn y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2024