Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Ymddiheuriadau

  • Sarah Murphy AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Julia David, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Bethan Davies, Swyddfa'r Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Phil Elkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Materion Gwledig (eitem 4)
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol (eitem 4)
  • Mark Alexander, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Maes Rheoli Tir (eitem 4)
  • Naomi Matthiessen, Dirprwy Gyfarwyddwr, Tirweddau, Natur a Choedwigaeth (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 23 Mehefin 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Newidiadau gan y DU i gynlluniau diwygio lles

2.1 Croesawodd y Prif Weinidog newidiadau Llywodraeth y DU i'r diwygiadau lles arfaethedig. Roedd Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r pryderon a godwyd gan Lywodraeth Cymru am effaith y cynigion yng Nghymru, ac i'r galwadau i weithio gyda phobl anabl i sicrhau y byddai newidiadau polisi yn y dyfodol yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda'r rhai yr effeithir arnynt. Byddai angen ystyried manylion y newidiadau nawr, a sut maent yn adlewyrchu anghenion pobl anabl yng Nghymru.

Fforwm Gweinidogol Cymru Iwerddon

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai, ynghyd â'r Tánaiste, yn arwain Fforwm Gweinidogol nesaf Iwerddon Cymru, a gynhelir ddydd Iau yn Abertawe.

Ymweliad â'r Swistir

2.3 Yn nes ymlaen yn yr wythnos byddai'r Prif Weinidog yn teithio i'r Swistir i ymweld â CERN, Genefa, a mynd i gêm gyntaf tîm Cymru yn EUROs 2025 yn Lucerne ddydd Sadwrn.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn a nododd y byddai'r Trefnydd yn gofyn i'r Pwyllgor Busnes gytuno i newid yn nhrefn y dadleuon ddydd Mercher, felly byddai dadl y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cael ei chynnal cyn y ddadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod.

3.2 Roedd yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 4:50pm ddydd Mawrth, a byddai hyn wedyn yn cael ei ddilyn gan Gam 3 o'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) etc (Cymru), gyda phleidleisio'n digwydd drwy gydol y sesiwn. Yr amser pleidleisio fyddai tua 6:05pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar ddyluniad diwygiedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac y dylid ei gyhoeddi ar 15 Gorffennaf.

4.2 Roedd yr amser a gymerwyd i ddatblygu'r Cynllun terfynol, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, yn adlewyrchu pwysigrwydd y newid nid yn unig i amaethyddiaeth, ond i bobl Cymru. Roedd cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel yn hanfodol i'r economi, yr amgylchedd a chymunedau, ac roedd pobl yn disgwyl i ffermwyr gyflawni'r buddion lluosog hyn yn gyfnewid am gefnogaeth gan y Llywodraeth.

4.3 Croesawodd y Cabinet y papur, yn benodol yr hyblygrwydd o fewn y cynigion. Fodd bynnag, cytunwyd y dylid canfod barn rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniad ffurfiol.

4.4 Dylai swyddogion gynhyrchu a chylchredeg nodyn sy'n mynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth. Byddai'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd yn rhannu'r cynigion gyda rhanddeiliaid yn y Cyfarfod Bord Gron yr wythnos hon ac yn rhoi diweddariad llafar yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.