Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol (eitem 4)
  • Amelia John, Cyfarwyddwr dros dro, Cymunedau a Threchu Tlodi (eitem 5)
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd (eitem 5)
  • David Willis, Pennaeth Trechu Tlodi (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Mai.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymgysylltiadau diweddar yn ystod y gwyliau

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef a nifer o Weinidogion eraill wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, lle’r oedd llawer iawn o bobl wedi dod ynghyd i fwynhau.

2.2 Hefyd roedd y Prif Weinidog wedi cyfarfod â Phrif Weinidog yr Alban yn ystod ymweliad â Chaeredin, ac ymhlith pethau eraill roeddent wedi trafod effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol i gyfyngu ar Gynllun Dychwelyd Ernes arfaethedig Llywodraeth yr Alban. Roedd Llywodraeth y DU yn gwrthod caniatáu i wydr gael ei gynnwys yng Nghynllun yr Alban. Byddai hynny'n cael goblygiadau ar gyfer polisi Llywodraeth Cymru, a fyddai’n cael ei gyflwyno yn 2025.

2.3 Hefyd ymwelodd y Prif Weinidog â Gŵyl y Gelli ddydd Sadwrn.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer tua 5.40pm ddydd Mawrth a 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-2024

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-2024.

4.2 Y gyllideb hon oedd y cyfle cyntaf i ystyried y newidiadau ers y Gyllideb Derfynol. Roedd yn cynnwys y newidiadau a oedd yn deillio o Gyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU a Phrif Amcangyfrifon 2023-24 o ran symiau canlyniadol a throsglwyddiadau o Adrannau Llywodraeth y DU ac iddynt. Hefyd roedd newidiadau technegol yn sgil gweithredu Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 ar lesoedd.

4.3 Heb gynnwys y newidiadau a oedd yn ymwneud â Safon 16, roedd DEL Cymru wedi cynyddu £228m. Roedd hyn yn cynnwys £128m o ran adnoddau cyllidol, £103m o gyfalaf cyffredinol, gyda gostyngiad o £3m o ran trafodiadau ariannol o ganlyniad i symiau canlyniadol ym Mhrif Amcangyfrifon y DU.

4.4 Roedd y cynnydd o £128m o refeniw yn gysylltiedig â £28m a dynnwyd o Gronfa Wrth Gefn Cymru a’i neilltuo ar gyfer Prif Grŵp Gwariant y Gymraeg ac Addysg i dalu costau’r dyfarniad cyflog 2022/2023 i athrawon mewn ysgolion ac Addysg Bellach ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd o fewn y flwyddyn ariannol bresennol. Roedd £44m o symiau canlyniadol o Gyllideb y Gwanwyn a Phrif Amcangyfrifon Llywodraeth y DU, a hefyd gwerth £56m (net) o drosglwyddiadau i Adrannau Llywodraeth y DU ac ohonynt.

4.5 Roedd y cynnydd o £103m o ran cyfalaf yn cynnwys £37m o symiau canlyniadol o Gyllideb y Gwanwyn a Phrif Amcangyfrifon Llywodraeth y DU, £58m a oedd wedi ei glustnodi ar gyfer Bargeinion Dinesig a Thwf, ac £8m (net) o drosglwyddiadau i Adrannau Llywodraeth y DU ac ohonynt.

4.6 O ran Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol 16, roedd y gyllideb cyfalaf wedi cynyddu £436m mewn perthynas â lesoedd a oedd wedi eu hadnewyddu a lesoedd newydd a oedd eisoes wedi cael eu trefnu ar gyfer 2023-2024. Roedd adnoddau anghyllidol wedi cynyddu £104.8m, gyda gostyngiad cyfatebol mewn adnoddau cyllidol o £100.1m.  Roedd yr addasiadau hyn yn adlewyrchu’r wybodaeth a ddarparwyd gan adrannau, a byddent yn llifo’n syth drwodd i Brif Grwpiau Gwariant o fewn y Gyllideb Atodol hon.  Roedd yr holl addasiadau sy’n gysylltiedig â Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol 16 wedi eu clustnodi ar gyfer y diben penodol hwn, ac nid oedd unrhyw effaith ar rym gwario cyffredinol.

4.7 Roedd swyddogion cyllid wrthi’r llunio’r deunydd terfynol a’i gyfieithu yn barod i’w gyhoeddi, a byddai’r Gweinidog yn cyfarfod ag aelod dynodedig Plaid Cymru y diwrnod canlynol i roi gwybodaeth friffio ar gynnwys y newidiadau cyllidebol.

4.8 Croesawodd y Cabinet y papur gan gydnabod bod y Gyllideb Atodol yn weithdrefnol gan mwyaf.

4.9 Cymeradwyodd y Cabinet y papur gan nodi y byddai’r Gyllideb Atodol Gyntaf yn cael ei gosod ar 13 Mehefin ac y byddai’n cael ei thrafod yn y Senedd ar 4 Gorffennaf.

Eitem 5: Y Strategeth Tlodi Plant ddiwygiedig i Gymru – Ymgynghoriad

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gymeradwyo’r pum prif amcan a’r pum blaenoriaeth i’w cynnwys yn y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig i Gymru. Hefyd, gofynnwyd i Weinidogion gytuno y dylid cyhoeddi’r Strategaeth ddiwygiedig ddrafft, a grëwyd ar y cyd, at ddibenion ymgynghoriad ffurfiol.

5.2 Roedd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gyhoeddi strategaeth ar gyfer helpu i ddileu tlodi plant yng Nghymru, gan baratoi adroddiad cynnydd bob tair blynedd. Cafodd yr adroddiad diweddaraf ar y strategaeth bresennol ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Ym mis Ionawr, cytunwyd bod angen datblygu iteriad nesaf y strategaeth.

5.3 Ers i’r Cabinet ystyried y polisi hwn ym mis Ionawr, a thrwy gael cymorth gan sefydliadau allanol, ymgysylltwyd â thros 3.000 o bobl sydd â phrofiad bywyd, a oedd yn cynnwys bron 1400 o blant a phobl ifanc a’u teuluoedd, yn enwedig pobl anabl a phobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Hefyd cynhaliwyd cyfarfodydd â thros 200 o gynrychiolwyr o sefydliadau a oedd yn rhoi cymorth i deuluoedd a oedd yn byw mewn tlodi.

5.4 Gan adeiladu ar argymhellion Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, roedd wedi bod yn bosibl cyd-greu strategaeth, a oedd yn disgrifio gwaith traws-lywodraethol a oedd yn cyfrannu at y gwaith o drechu tlodi ac anghydraddoldeb, gan nodi’r meysydd blaenoriaeth lle’r oedd angen adnewyddu’r ffocws er mwyn gwireddu uchelgeisiau polisi. Roedd hefyd yn egluro mannau lle nad oedd gan Lywodraeth Cymru yr ysgogiadau priodol.

5.5 Roedd y strategaeth ddiwygiedig yn cynnwys pum amcan, pum blaenoriaeth ac yn cydnabod y cyfraniad y byddai angen i bob rhan o gymdeithas ei wneud i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol ar gyfer plant a theuluoedd. Roedd wedi ei gosod o fewn cyd-destun yr argyfwng costau byw presennol a’r angen i ddatblygu dull gweithredu tymor hirach ar gyfer atal a lleihau tlodi ac anghydraddoldebau. Roedd hyn yn cefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan wella llesiant a chanlyniadau i blant wrth iddynt dyfu ac yn y dyfodol.

5.6 Drwy gynnal ymgynghoriad o fewn y mis nesaf, byddai’n bosibl cyhoeddi’r strategaeth derfynol cyn diwedd y flwyddyn galendr. Y nod oedd gyrru newidiadau a chreu Cymru fwy cyfartal.

5.7 Croesawodd y Cabinet y papur gan gytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a’r gwasanaethau a oedd yn eu cefnogi. Ar ben hynny, roedd yn bwysig herio stigma tlodi.

5.8 Pwysleisiodd Gweinidogion bwysigrwydd polisïau Llywodraeth Cymru, megis y Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg, a  Chlybiau Brecwast yn yr ymdrechion i gefnogi teuluoedd.

5.9 Roedd yn bwysig ei bod yn glir yn y ddogfen ymgynghori nad oedd Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr holl ysgogiadau yng Nghymru. Mewn gwirionedd, roedd camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU wedi cynyddu lefelau tlodi plant, megis ei thoriadau i gymorth nawdd cymdeithasol i deuluoedd â phlant, yn enwedig y terfyn o ddau blentyn ar gyfer budd-daliadau penodol.

5.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2023