Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet 
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adfer ar ôl COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru (eitem 4)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
  • Matt Wellington, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 28 Tachwedd

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Adroddiadau cyfansoddiadol

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod adroddiad y Comisiwn ar Ddyfodol y DU, ‘A New Britain: Renewing our Democracy and Rebuilding our Economy’, wedi cael ei gyhoeddi’n gynharach y diwrnod hwnnw, ac y byddai adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos honno.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio rheolaidd wedi ei drefnu ar gyfer 4:20pm ddydd Mawrth, gyda Chyfnod 3 y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn dechrau tua 4:35pm. Byddai pleidlais yn cael ei chynnal tua 6:10pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Pecyn Cyllideb Ddrafft

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar y dyraniadau lefel MEG ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2023-24, cyn ei chyhoeddi ar 13 Rhagfyr.

4.2 Roedd Gweinidogion yn ymwybodol o’r heriau a oedd yn deillio o’r gyllideb a goblygiadau’r cyfyngiadau ariannol.

4.3 Er gwaethaf hyn, bu’n bosibl darparu cyllideb sy’n ceisio cydbwyso canlyniadau tymor byr â chanlyniadau tymor hir ochr yn ochr â blaenoriaethu cymorth ar gyfer y rheini sydd mewn angen er gwaethaf y sefyllfa economaidd.

4.4 Roedd y papur yn cynnwys manylion newidiadau, gan adlewyrchu’r gwaith a gyflawnwyd i bennu fersiynau terfynol o’r dyraniadau refeniw ar gyfer 2023-24 a chynlluniau gwario dangosol ar gyfer 2024-25.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2022