Cyfarfod y Cabinet: 6 Hydref 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 6 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Vikki Howells AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Medi 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Storm Amy
2.1 Cafodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ei wahodd gan y Prif Weinidog i roi diweddariad ar Storm Amy, a oedd wedi effeithio ar Gymru dros y penwythnos.
2.2 Yn dilyn y rhybudd tywydd melyn am wyntoedd cryfion, roedd ymateb lefel 1 wedi'i sbarduno am 0900 ddydd Gwener. Mewn ardaloedd a oedd yn gweld lefel uchel o ddigwyddiadau neu heriau sylweddol, fel Betws-y-Coed a Llanidloes, cafodd ymateb amlasiantaethol ei weithredu'n gyflym. Roedd hyn yn cynnwys darparu tryciau bwyd poeth a chymorth hanfodol arall ar gyfer y rheini mewn angen.
2.3 Roedd pŵer wedi ei adfer i'r rhan fwyaf o gwsmeriaid o fewn ychydig oriau i'r datgysylltiad cychwynnol, gyda'r mwyafrif yn gweld adferiad o fewn 24 awr, ac roedd pob cwsmer wedi'i ailgysylltu erbyn bore Sul. Roedd y cwmnïau pŵer wedi defnyddio dull gweithredu rhagweithiol trwy gyfathrebu â chwsmeriaid agored i niwed cyn y storm, gan gynnig cymorth a chyfarwyddyd.
2.4 Ymddengys bod effeithiau’r llifogydd yn gyfyngedig iawn. Cafodd un rhybudd llifogydd ei gyhoeddi nos Wener, a'i godi'n gynnar ddydd Sadwrn, ac roedd chwe rhybudd arall ar waith nos Sadwrn. Cafodd rhybuddion llifogydd terfynol eu codi ddydd Sul, ac roedd y trefniadau ymateb lefel 1 wedi'u dad-ddwysáu erbyn 1800 y diwrnod hwnnw.
Ymosodiad terfysgol ym Manceinion
2.5 Ar ran y Cabinet, mynegodd y Prif Weinidog gydymdeimlad â theuluoedd y dioddefwyr a phawb yr effeithiwyd arnynt gan yr ymosodiad terfysgol yn Synagog Heaton Park ddydd Iau.
2.6 Yn dilyn yr ymosodiadau, roedd y Prif Weinidog wedi cwrdd â Rabbi Rose o Synagog Reform Caerdydd fore Gwener, ac roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi siarad â Melody Odey o Gyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Byddai Datganiad Ysgrifenedig am yr ymosodiadau'n cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen y prynhawn hwnnw.
2.7 Bu ymosodiadau ar fosgiau yn Lloegr dros y penwythnos hefyd. Felly, roedd yn bwysig i'r Llywodraeth barhau i weithio'n agos gydag arweinwyr ffydd a chynrychiolwyr cymunedol i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i diogelu.
Is-bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru
2.8 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai cyfarfod o Bwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, gan ganolbwyntio ar Drafnidiaeth.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:15pm ddydd Mawrth a thua 6:30pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Diweddariadau Llafar – paratoi ar gyfer y gaeaf
4.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifenyddion y Cabinet perthnasol i roi diweddariadau llafar ar y paratoadau ar gyfer y gaeaf.
Parodrwydd Gaeaf y GIG a Gofal Cymdeithasol
4.2 Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth y Cabinet am y pwysau sy'n wynebu'r systemau'r GIG a Gofal Cymdeithasol, a oedd yn cynnwys ymchwydd mewn salwch tymhorol, y galw cynyddol gan bobl â phroblemau anadlu yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau gofal mewn argyfwng, ac absenoldeb ymysg y gweithlu oherwydd salwch, ac effaith y pwysau eu hunain. Yn ogystal â hyn, byddai problemau ynglŷn â'r defnydd o welyau ac oedi wrth ryddhau cleifion.
4.3 Roedd dull system gyfan yn cael ei ddefnyddio i sicrhau parodrwydd ar gyfer y gaeaf, gyda phartneriaid GIG a Gofal Cymdeithasol yn cydweithio i fynd i'r afael â'r pwysau disgwyliedig. Ddiwedd mis Mawrth, roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal Uwchgynhadledd Gaeaf genedlaethol i drafod camau gweithredu strategol sydd â'r nod o wella gwydnwch gwasanaethau.
4.4 Roedd canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer y GIG ac Awdurdodau Lleol ym mis Gorffennaf, gyda gofyniad bod cynlluniau'r gaeaf yn cael eu cyflwyno ym mis Medi. Roedd y rhain wedi cael eu hadolygu gan swyddogion, ac roedd adborth wedi'i ddarparu i alluogi rhanbarthau i ailddatgan cynlluniau. Roedd cynlluniau gwydnwch gweithredol ar gyfer canol mis Rhagfyr hyd at ddiwedd mis Ionawr i fod i gael eu cyflwyno erbyn diwedd y mis.
4.5 Byddai nifer o gamau gweithredu allweddol wedi'u hymgorffori yn y canllawiau cynllunio ar gyfer y gaeaf, megis yr ymgyrchoedd brechu, gydag ymdrechion wedi'u targedu i gynyddu canran y staff a oedd yn cael eu brechu, sef canran o tua 34.3% y flwyddyn flaenorol. Yn ogystal, byddai canolfannau un pwynt sengl ar gyfer mynediad / cydlynu gofal yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl i aros yn ddiogel yn eu cartrefi yn ystod y gaeaf, pan fyddai'r pwysau ar ofal brys yn dwysáu.
4.6 Roedd byrddau iechyd yn creu cynlluniau ymateb anadlol, ac yn datblygu llwybr dirywiad acíwt i wella sut mae cleifion â chyflyrau anadlol cronig yn cael eu rheoli, tra'n lleihau derbyniadau brys.
4.7 Ar ben hynny, byddai cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, gyda Byrddau Iechyd Lleol yn cael eu cyfarwyddo i ddefnyddio gofal sylfaenol i adnabod a chefnogi pobl yn rhagweithiol trwy wasanaethau atodol. Roedd y gwaith o leihau oedi mewn llwybrau gofal yn parhau i fynd rhagddo, ochr yn ochr â chamau i wella'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan leihau maint y torfeydd mewn adrannau argyfwng a'r oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Hyd yn hyn, bu gostyngiad o 26% yng nghyfanswm y diwrnodau oedi o'i gymharu â mis Awst y flwyddyn flaenorol.
Cynllunio gwydnwch yn wyneb tywydd y gaeaf
4.8 Fe ganolbwyntiodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gynllunio gwydnwch yn wyneb tywydd y gaeaf. Y llynedd, cafodd Cymru ei tharo gan ddwy storm, Bert a Darragh, o fewn ychydig wythnosau. Fe wnaethon nhw achosi llifogydd, gwyntoedd cryfion, difrod i'r seilwaith, toriadau pŵer, tirlithriad tomen lo, a chau porthladd Caergybi.
4.9 Roedd y digwyddiadau hyn wedi effeithio ar gannoedd o gartrefi, busnesau, trafnidiaeth, seilwaith ynni, a chymunedau ledled Cymru, ac roeddent yn tanlinellu pwysigrwydd cydlynu cyflym, seilwaith gwydn, a chynllunio rhagweithiol.
4.10 Mae'r Llywodraeth a sefydliadau ymatebwyr wedi parhau i ddysgu gwersi o effeithiau'r stormydd hyn, yn ogystal ag argyfyngau eraill yn y gorffennol, digwyddiadau diweddar, ymarferion, ac ymchwiliadau, fel yr ymchwiliad Covid. Roedd y mewnwelediadau a gafwyd wedi cryfhau a gwella'r gallu i gynorthwyo cymunedau, yn enwedig pobl agored i niwed.
4.11 Cafwyd cyfraniad sylweddol oddi wrth gymunedau wrth ymateb i stormydd y llynedd, ac roedd yn hanfodol parhau i'w grymuso i adeiladu eu gwydnwch. Roedd gwaith ar y gweill i gynhyrchu Fframwaith Gwydnwch Cymunedol i sicrhau bod partneriaid a'r Trydydd Sector yn gallu helpu cymunedau i wella eu paratoadau a'u gallu i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau fel hyn, ac i adfer ohonynt.
4.12 O ran y gaeaf sydd i ddod, byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau ymgyrch yr wythnos honno i annog pobl i gymryd tri cham syml i helpu cymunedau i fod yn barod ar gyfer llifogydd, a byddai'r pedwar fforwm gwydnwch lleol yng Nghymru yn nodi'r risgiau a'r mesurau lliniaru sydd eu hangen yn eu hardaloedd.
4.13 Nid oedd yr arolygiad haf o domenni Categori D a gwblhawyd yn ddiweddar yn codi unrhyw bryderon uniongyrchol, a byddai rhaglen y gaeaf i archwilio pob tomen Categori C a D yn dechrau ym mis Tachwedd. Roedd y Llywodraeth yn monitro datblygiadau mewn perthynas â thomen lo Nant yr Odyn a safle mwyngloddio Ffos-y-fran.
4.14 Yn ogystal â'r rhybuddion llifogydd, roedd y rhybudd brys ar gael hefyd. Roedd hyn yn system effeithiol, gan gyrraedd 2 filiwn o ddyfeisiau mewn 13 o ardaloedd Awdurdodau Lleol cyn Storm Darragh. Cafodd y system rhybuddion ei brofi'r mis diwethaf.
4.15 Ers y stormydd y llynedd, roedd y strwythurau rheoli argyfwng, gorchymyn, rheoli, a chyfathrebu wedi cael eu hail-gynllunio a'u profi trwy ddigwyddiadau yn y byd go iawn.
4.16 Roedd ymrwymiadau yn Fframwaith Gwydnwch Cymru yn cael eu cyflawni, gan gynnwys strwythur llywodraethu gwell ar gyfer Cymru gyfan, gyda Fforwm Gwydnwch Cymru sydd wedi'i ailgyfansoddi o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog. Roedd hyn wedi gosod y cyfeiriad strategol, gyda chefnogaeth Partneriaeth Gwydnwch Cymru gryfach.
Cadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn
4.17 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wybodaeth i'r Cabinet am y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i gadw pobl yn gynnes dros y gaeaf, o ystyried bod 25% o aelwydydd yn dioddef tlodi tanwydd.
4.18 Gyda chostau ynni uchel a phwysau ehangach ar incwm aelwydydd, roedd y Llywodraeth unwaith yn rhagor yn ymateb i'r heriau yr oedd llawer o deuluoedd ledled Cymru yn eu hwynebu. Er bod costau ynni wedi gostwng ers cyrraedd eu lefel uchaf yn 2022, roeddent yn parhau i fod yn llawer uwch na'r lefelau cyn yr argyfwng, gan barhau i effeithio'n anghymesur ar aelwydydd agored i niwed.
4.19 Parhaodd yr ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi i roi mwy o arian ym mhocedi pobl, ac roedd gwasanaeth cyngor Nyth, y cynllun gwerth £30m, sy'n cael ei lywio gan y galw, ar gyfer helpu i amddiffyn pobl rhag cynnydd mewn costau ynni, yn gwella ei effeithiolrwydd drwy dynnu sylw at yr ymgyrch i'w defnyddwyr gwasanaeth. Yn ogystal â hynny, roedd y Llywodraeth hefyd yn fwy rhagweithiol ynglŷn â hyrwyddo Nest.
4.20 Parhaodd y Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn a'r Talebau Tanwydd i ddarparu llinell achub i bobl mewn angen brys, gyda chyllideb o £39.5m. Byddai'r Llywodraeth yn parhau i ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd, gan ddarparu £600,000 ychwanegol i gefnogi ei Gronfa Talebau Tanwydd a Gwres genedlaethol yng Nghymru.
4.21 Parhaodd Canolfannau Clyd Diogel i ddarparu adnodd hynod werthfawr i gymunedau lleol, ac roedd cyllid y Llywodraeth yn eu cefnogi eto eleni, trwy ddarparu arian i Awdurdodau Lleol.
4.22 Roedd Llywodraeth y DU wedi ymestyn y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gan arwain at 110,000 o aelwydydd Cymru yn derbyn y taliad hwn am y tro cyntaf. Yn ogystal, byddai dros dri chwarter y pensiynwyr yng Nghymru a Lloegr, gydag incwm blynyddol o £35,000 neu lai, yn gymwys i gael y taliad tanwydd y gaeaf hwn.
4.23 Roedd y Llywodraeth hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau eraill a oedd yn cefnogi teuluoedd drwy'r gaeaf. Megis atgoffa'r cyflenwyr ynni o'u rhwymedigaethau tuag at eu cwsmeriaid, gan gynnwys gofynion penodol eu trwydded i weithio gyda chwsmeriaid agored i niwed a'r rheini sydd mewn dyled.
4.24 Croesawodd y Cabinet y diweddariadau.
Eitem 5: Adolygiad deddfwriaethol ADY – Gweithredu i Wella - papur i'w nodi
5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y papur i'w nodi, a oedd yn nodi'r camau lliniaru tymor byr i ymateb i'r adolygiad deddfwriaethol ADY.
5.2 Nodwyd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad i'r Senedd yr wythnos ganlynol i amlinellu canfyddiadau'r adolygiad deddfwriaethol a'r camau nesaf, ac y byddai'n ymddangos gerbron Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, wythnos yn ddiweddarach, i drafod diwygiadau addysg.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2025
