Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Lesley Griffiths AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Risg, Cadernid a Diogelwch Cymunedol (eitem 4)
  • Adam Evans, Pennaeth Argyfyngau Sifil Posibl ac Ymateb i Ddigwyddiadau (eitem 4)
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder (eitemau 5)
  • Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol (eitemau 5)
  • Robert Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr, Deddfwriaeth Pontio Ewropeaidd (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 27 Chwefror.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymweliadau Dydd Gŵyl Dewi

2.1 Soniodd y Prif Weinidog am yr ymweliadau rhyngwladol a wnaed gan Weinidogion i hyrwyddo Cymru, fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Roedd ef ei hun wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau ym Mrwsel yr wythnos flaenorol, ynghyd â chyfarfodydd gyda Llysgenhadon y DU ac Iwerddon, Gweinidog-Lywydd Fflandrys, ac Aelodau o Senedd Ewrop. Y prif ddigwyddiad oedd y derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yng nghartref swyddogol y DU, gyda thros 300 o bobl yn bresennol.

2.2 Hefyd, roedd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Nulyn, ochr yn ochr â chyfres o ymweliadau sy’n berthnasol i’w bortffolio. Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi mynychu cynhadledd Sefydliad Iechyd y Byd yn Copenhagen, ac roedd wedi cynnal derbyniad.

Cyllideb Derfynol 2023-24

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod cytundeb â Phlaid Cymru ar Gyllideb Derfynol 2023-24, yn unol â’r Cytundeb Cydweithio, ac felly y byddent yn ymatal yn ystod y bleidlais yn y Siambr y diwrnod canlynol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai amser pleidleisio yn digwydd tua 5.15pm ddydd Mawrth, ac wedyn ar ôl egwyl fer byddai Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cychwyn. Yn ôl y trefniadau arfaethedig, byddai hyn yn dod i ben tua 8:30, ond oherwydd nifer y gwelliannau a oedd wedi cael eu cyflwyno, roedd yn bosibl y byddai’n dod i ben yn gynharach. Roedd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn arwain y ddadl, ond gan ei bod wedi dal COVID-19, byddai’n cymryd rhan o bell. Byddai amser pleidleisio ddydd Mercher yn digwydd tua 6:25pm.

Eitem 4: Cydnerthedd yng Nghymru

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn disgrifio’r achos dros ddiweddaru’r amgylchedd argyfyngau sifil posibl yng Nghymru, gan ofyn i’r Cabinet gytuno ar flaenoriaethau’r rhaglen waith ar gyfer sicrhau bod Cymru yn wlad ddiogel.

4.2 Byddai’r gwaith yn adeiladu ar y seiliau cadarn sydd eisoes yn eu lle yng Nghymru a oedd yn adlewyrchu’r cysylltiadau rhagorol a oedd wedi eu datblygu rhwng y Llywodraeth a phartneriaid cyflawni. Roedd hynny wedi cael ei ddangos yn y modd y rheolwyd yr ymateb i’r pandemig a’r ymateb i ddigwyddiadau megis llifogydd a’r effaith ar gymunedau lleol.

4.3 Croesawodd y Cabinet y papur.

4.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur gan nodi y byddai’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cyflwyno’r rhaglen waith newydd yn y Gynhadledd ar Argyfyngau Sifil Posibl, a fyddai’n cael ei chynnal yn Abertawe yn nes ymlaen yn y mis.

Eitem 5: Cyfraith yr UE a ddargedwir CAB(22-23)63

5.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur a oedd yn amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf o ran Bil Cyfraith yr UE a ddargedwir, sef bil Llywodraeth y DU.

5.2 Cyfraith yr UE a ddargedwir oedd y corff o ddeddfwriaeth a ddeilliodd o’r UE ac a drowyd yn gyfraith ddomestig gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ar ddiwedd y cyfnod pontio, ac wedyn a gafodd ei hunioni gan raglen fawr iawn o Offerynnau Statudol er mwyn gwneud iddi weithio mewn cyd-destun domestig. Gwnaed hynny i ddarparu parhad a sicrwydd ar gyfer dinasyddion a busnesau.

5.3 Byddai Bil Cyfraith yr UE a ddargedwir, a oedd ar ei daith drwy Senedd San Steffan, yn gwneud polisïau Llywodraeth y DU yn weithredol, fel y nodir yn ei dogfen ‘Benefits of Brexit’,  a byddai’n diwygio, yn disodli neu’n diddymu cyfraith yr UE a ddargedwir.

5.4 Roedd nifer o bryderon ynghylch y Bil wedi cael eu nodi yn ystod ei gyfnod datblygu cynnar, ac roedd y rhain wedi cael eu codi’n gyson gyda Llywodraeth y DU a’u hamlygu yn y Senedd fel rhan o’r broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. 

5.5 Roeddent yn cynnwys machlud Cyfraith yr UE a ddargedwir erbyn 31 Rhagfyr 2023, a’r ffaith mai dim ond Llywodraeth y DU a fyddai’n gallu ymestyn pwerau y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw, ac y byddai Gweinidogion y DU yn gallu defnyddio pwerau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli. Hefyd gosododd y Bil gyfyngiadau ar y defnydd o bwerau, a fyddai’n cyfyngu polisïau Gweinidogion Cymru mewn modd annerbyniol. Hefyd roedd goblygiadau ar gyfer pwerau ymyrryd a chyfeirio Swyddogion Cyfraith, gyda chyfyngiadau ar y rheini sydd mewn Llywodraethau Datganoledig. Ar ben hynny, byddai gan Weinidogion y DU y potensial i ddatblygu polisi newydd mewn meysydd o bwysigrwydd mawr i Weinidogion Cymru.

5.6 Byddai gan y Bil oblygiadau sylweddol ar gyfer pob portffolio, er enghraifft roedd Defra ei hun wedi nodi oddeutu 1800 o eitemau Cyfraith yr UE a ddargedwir yn ei maes polisi hithau, na oeddent yn cynnwys y rheini a wnaed gan y Senedd.

5.7 Roedd Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda Gweinidogion yr Alban i godi pryderon a mynegi gwrthwynebiad i’r Bil, gan ofyn am newidiadau. Roedd hyn wedi cynnwys trafod â Gweinidogion y DU, er nad oed unrhyw fudd wedi dod o’r trafodaethau hynny, yn ogystal â mynd ati i hyrwyddo gwelliannau yn Nhŷ’r Arglwyddi, y byddai dadl arnynt yn cael ei chynnal yno'r prynhawn hwnnw.

5.8 Mynegodd y Cabinet bryder ynghylch yr effeithiau y byddai Bil y DU yn eu cael ar y setliad datganoli, polisïau Llywodraeth Cymru, a’r rhaglen ddeddfwriaethol.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2023